Ychwanegu Metadata at Eitem

Ychwanegu metaddata i eitem y Content Collection

  1. Llywiwch i'r ffolder sy'n cynnwys yr eitem rydych eisiau ei olygu.
  2. Dewiswch fath o fetaddata o ddewislen yr eitem.

Metaddata cyffredinol

Mathau o Fetaddata
Maes Disgrifiad
Metadata Cyffredinol
Enw Teipiwch enw ar gyfer yr eitem. Ni fydd hyn yn newid enw'r ffeil.
Disgrifiad Teipiwch ddisgrifiad ar gyfer yr eitem.
Allweddeiriau Rhestrwch eiriau allweddol sy'n gysylltiedig â'r eitem, wedi'u gwahanu â choma.
Amcanion Dysgu Rhestrwch amcanion dysgu sy'n gysylltiedig â'r eitem, wedi'u gwahanu â choma.

Metaddata personol

Mae tudalen Metaddata Personol yn caniatáu i ddefnyddwyr deipio priodoleddau ar gyfer eitem. Diffinnir y priodoleddau gan y sefydliad.

Metaddata IMS

Mae tudalen Rheoli Metaddata IMS yn caniatáu i ddefnyddwyr deipio priodoleddau sy'n cyd-fynd â Safon Metaddata IMS.

Disgrifiadau Metaddata IMS
Maes Disgrifiad
Metadata IMS
Dynodwr Label unigryw ar gyfer yr eitem.
Math o Gatalog Math o gatalog llyfrgell lle catalogir yr eitem hon.
Cofnod Catalog Y rhif catalog ar gyfer yr eitem.
Iaith Iaith yr eitem.
Math o Adnodd Y math o adnodd, megis Ymarfer, Ysgogiad, Holiadur, Diagram, Ffigur, Graff, Mynegai, Sleid, Tabl, Testun Naratif, Arholiad, Arbrawf, Datganiad o Broblem neu Hunanasesiad.
Cyd-destun Addysgol Yr amgylchedd dysgu nodweddiadol lle y bwriedir defnyddio’r gwrthrych dysgu. Er enghraifft, Addysg Gynradd, Addysg Uwchradd, Addysg Uwch, Cylch Cyntaf Prifysgol, Ail Gylch Prifysgol, Ôl-raddedig Prifysgol, Cylch Cyntaf Ysgol Dechnegol, Ail Gylch Ysgol Dechnegol, Hyfforddiant Proffesiynol, Hyfforddiant Parhaus neu Hyfforddiant Galwedigaethol.
Ystod Oedran Yr ystod oedran ar gyfer y defnyddwyr arfaethedig.
Anhawster Nodwch lefel anhawster yr eitem hon.
Adnodd Rhad ac am Ddim Ticiwch y blwch hwn os yw'r eitem hon am ddim.
Defnydd Cyfyngedig Ticiwch y blwch hwn os oes cyfyngiad ar yr eitem hon.

Metadata IMS Llawn

Mae tudalen Rheoli Metaddata IMS Llawn yn caniatáu i ddefnyddwyr fanteisio ar yr holl feysydd sydd ar gael ar Fodel Gwybodaeth Metaddata Adnodd Dysgu IMS.

Disgrifiadau Metaddata IMS Llawn
Maes Disgrifiad
Metadata Cyffredinol
Dynodwr Cyffredinol Label unigryw ar gyfer yr eitem.
Teitl Cyffredinol Y teitl ar gyfer yr eitem.
Catalog Cyffredinol Math o gatalog llyfrgell lle catalogir yr eitem hon.
Cofnod Cyffredinol Rhif y catalog ar gyfer yr eitem benodol hon.
Iaith Gyffredinol Iaith yr eitem.
Disgrifiad Cyffredinol Disgrifiad cyffredinol ar gyfer yr eitem.
Gair Allweddol Cyffredinol Disgrifiad yr eitem perthynol i'w bwrpas a nodir.
Cwmpas Cyffredinol Cyd-destun hanesyddol yr eitem.
Strwythur Cyffredinol Strwythur yr eitem.
Lefel Cydgasglu Gyffredinol Maint swyddogaethol yr adnodd. Dewiswch 1-4 o'r rhestr.
Cylch Oes
Fersiwn y Cylch Oes Rhifyn yr eitem.
Statws y Cylch Oes Cyflwr golygu'r eitem.
Rôl y Cylch Oes Y math o gyfraniad.
Endid y Cylch Oes Yr endid unigol neu endidau sy'n gysylltiedig â'r eitem. Mae enghreifftiau'n cynnwys awdur, cyhoeddwr, neu adran prifysgol.
Dyddiad y Cylch Oes Dyddiad cyfraniad yn y cylch oes.
Metaddata
Dynodwr Metadata Label unigryw ar gyfer y metaddata.
Catalog Metadata Ffynhonnell gwerth llinyn canlynol.
Cofnod Metadata Nodwedd o’r disgrifiad yn hytrach na’r adnodd.
Rôl Metadata Y math o gyfraniad.
Endid Metadata Yr endid neu’r endidau sy'n gysylltiedig, gyda’r mwyaf perthnasol yn gyntaf.
Dyddiad Metadata Dyddiad cyfraniad.
Cynllun Metadata Strwythur y metadata, gan gynnwys y fersiwn.
Iaith Metadata Iaith yr eitem.
Technegol
Fformat Technegol Data technegol yr eitem. Mae enghreifftiau'n cynnwys PDF, ffeil cronfa ddata, neu ddogfen Word.
Maint Technegol Maint yr eitem mewn beitiau. Dylid defnyddio'r digidau rhwng 0-9 yn unig. Noder bod yr uned yn feitiau, nid MB, GB, ayyb.
Lleoliad Technegol Lleoliad yr eitem yn y Content Collection.
Math Technegol Y math o ofyniad.
Enw Technegol Enw’r eitem ofynnol.
Fersiwn Isafswm Technegol Fersiwn isaf yr eitem ofynnol.
Fersiwn Uchafswm Technegol Fersiwn uchaf yr eitem ofynnol.
Sylwadau Gosodiad Technegol Disgrifiad ynghylch sut i osod yr adnodd.
Gofynion Llwyfannau Technegol Eraill Unrhyw angen arbennig i gyrchu'r eitem. Er enghraifft, mae angen Adobe Reader i gael mynediad at ffeil PDF.
Hyd Technegol Yr amser y mae eitem barhaol yn ei gymryd pan y'i chwaraeir ar y cyflymder a fwriadwyd, mewn eiliadau.
Addysgol
Math o Ryngweithio Addysgol Y math o ryngweithio a gefnogir gan yr eitem.
Math o Adnodd Dysgu Addysgol Y math penodol o adnodd, y math blaenaf yn gyntaf.
Lefel Rhyngweithio Addysgol Lefel y rhyngweithio rhwng defnyddiwr a’r gwrthrych dysgu.
Dwysedd Semantig Addysgol Mesur goddrychol o ddefnyddioldeb y gwrthrych dysgu o gymharu â’i faint neu hyd.
Rôl Defnyddiwr Bwriadedig Addysgol Y math o ddefnyddiwr yr eitem. Mae enghreifftiau'n cynnwys Hyfforddwr, Myfyriwr, a llyfrgellydd.
Cyd-destun Addysgol Yr amgylchedd dysgu nodweddiadol lle y bwriedir defnyddio’r gwrthrych dysgu. Er enghraifft, Addysg Gynradd, Addysg Uwchradd, Addysg Uwch, Cylch Cyntaf Prifysgol, Ail Gylch Prifysgol, Ôl-raddedig Prifysgol, Cylch Cyntaf Ysgol Dechnegol, Ail Gylch Ysgol Dechnegol, Hyfforddiant Proffesiynol, Hyfforddiant Parhaus neu Hyfforddiant Galwedigaethol.
Ystod Oedran Nodweddiadol Addysgol Yr ystod oedran ar gyfer y defnyddwyr arfaethedig.
Anhawster Addysgol Nodwch lefel anhawster yr eitem hon.
Amser Dysgu Nodweddiadol Addysgol Bras amser neu amser nodweddiadol y mae’n ei gymryd i weithio gyda’r adnodd.
Disgrifiad Addysgol Y sylwadau ar sut i ddefnyddio’r gwrthrych dysgu.
Iaith Addysgol Iaith naturiol y defnyddiwr.
Hawliau
Cost Hawliau P'un ai a oes angen talu i ddefnyddio'r eitem ai peidio.
Hawliau Hawlfraint a Chyfyngiadau Eraill P’un ai a yw hawlfraint neu gyfyngiadau eraill yn gymwys ai peidio.
Disgrifiad o Hawliau Sylwadau ar amodau defnyddio’r adnodd.
Cydberthynas
Math o Gydberthynas Natur y berthynas rhwng yr eitem sy’n cael ei disgrifio a’r un sy’n cael ei hadnabod gan Adnodd (7.2).
Dynodwr y Gydberthynas Dynodwr unigryw yr eitem arall.
Disgrifiad o’r Gydberthynas Nodweddion yr eitem mewn cydberthynas ag eitemau eraill yn y Content Collection.
Catalog Cydberthynas Ffynhonnell gwerth y llinyn canlynol.
Cofnod Cydberthynas Y gwerth gwirioneddol.
Anodiad
Unigolyn yr Anodiad Y defnyddiwr sy'n gwneud sylwadau ar eitem.
Dyddiad yr Anodiad Y dyddiad y gwnaethpwyd sylwadau ynghylch eitem.
Disgrifiad o’r Anodiad Sylwadau ar ddefnydd addysgol yr eitem.
Dosbarthiad
Pwrpas y Dosbarthiad Disgrifiad o nodwedd o'r eitem yn ôl cofnodion dosbarthu.
Ffynhonnell y Dosbarthiad Y dosbarthiad penodol.
Tacson y Dosbarthiad Y cofnod dosbarthiad ar gyfer yr eitem; mae rhestr mewn trefn o dacsonau yn creu llwybr tacson.
ID y Dosbarthiad Dynodwr y Tacson mewn system dacsonomig.
Cofnod y Dosbarthiad Enw neu label y tacson (heblaw am y dynodwr).
Disgrifiad o’r Dosbarthiad Disgrifiad testunol o’r gwrthrych dysgu perthynol i'w bwrpas penodedig.
Gair Allweddol y Dosbarthiad Disgrifiad allweddol o’r gwrthrych dysgu perthynol i'w bwrpas penodedig.
Math o Adnodd Y math o adnodd, megis Ymarfer, Ysgogiad, Holiadur, Diagram, Ffigur, Graff, Mynegai, Sleid, Tabl, Testun Naratif, Arholiad, Arbrawf, Datganiad o Broblem neu Hunanasesiad.

Metadata Dublin Core

Gall defnyddwyr deipio priodoleddau sy'n cyd-fynd â safon Metaddata Craidd Dulyn.

Disgrifiadau Metaddata Craidd Dulyn
Maes Disgrifiad
Metadata Dublin Core
Teitl Enw ar gyfer yr eitem. Ni fydd hyn yn newid enw'r ffeil.
Creawdwr Y person neu sefydliad a wnaeth yr eitem.
Pwnc Pwnc yr eitem.
Disgrifiad Disgrifiad o'r eitem.
Cyhoeddwr Enw'r person neu sefydliad a gyhoeddodd yr eitem.
Cyfrannwr Enwau'r bobl a gyfrannodd at gynnwys yr eitem.
Dyddiad Y dyddiad a grëwyd yr eitem.
Math Categori neu genre ar gyfer yr eitem hon.
Fformat Y math o gyfryngau neu faint a hyd yr eitem. Mae'n bosibl y defnyddir y wybodaeth hon i nodi'r meddalwedd neu galedwedd sydd eu hangen i ddefnyddio'r adnodd.
Dynodwr Cyfeirnod unigryw ar gyfer yr eitem hon, er enghraifft rhif sy'n gysylltiedig â'r eitem mewn system adnabod.
Ffynhonnell Enw'r adnodd o le daw'r eitem hon.
Iaith Iaith yr eitem.
Cydberthynas Cyfeiriad at ffynhonnell sy'n gysylltiedig â'r eitem hon.
Cwmpas Lleoliad ac ystod dyddiadau'r eitem hon.
Hawliau Gwybodaeth am Hawliau Eiddo Deallusol a Hawlfraint.

Metadata Deinamig

Gall hyfforddwyr ychwanegu metadata at Content Collection tra'n ychwanegu'r eitem at gwrs. Gall hyfforddwyr ddisodli'r metadata hwnnw neu gadw cysylltiad â'r Content Collection fel bod metadata'n cael ei uwchraddio yn y cwrs pan fydd yn cael ei uwchraddio yn y Content Collection.

Disgrifiadau Metaddata Deinamig
Metaddata Disgrifiad
Blwch ticio Dewiswch y blwch ticio priodol er mwyn dethol yr holl briodoleddau posib ar gyfer y math hwnnw o fetaddata.
Casglwr Metadata Dewiswch yr arwydd plws i ehangu a dewis y priodoleddau metaddata priodol. Dewiswch yr arwydd minws i gwympo'r rhestr.

Dewiswch o blith yr opsiynau canlynol:

Priodoleddau Metaddata
Opsiwn Disgrifiad
Gwerthoedd Dewiswch flwch Cadw'r gwerthoedd hyn wedi'u cysoni i gynnal dolen ddeinamig rhwng y Content Collection a'r cwrs ar gyfer yr eitem.

Os na ddewisir yr opsiwn hwn, yna copiir y metadata'n unig i'r cwrs. Ni adlewyrchir unrhyw newidiadau a wnaethpwyd i fetadata'r eitem yn y cwrs ac i'r gwrthwyneb.

Fformat Dewiswch rhwng fformat tablaidd neu gywasgedig ar gyfer y metadata. Mae'r maes Fformat Enghreifftiol yn dangos sut mae pob opsiwn yn ymddangos.