Gyda'r Casgliad o Gynnwys, gallwch storio deunyddiau cwrs mewn un lle a’u defnyddio mewn sawl cwrs gwahanol. Fydd dim rhaid ichi uwchlwytho sawl copi o’r un ffeil pan fyddwch am ei rhannu â’ch myfyrwyr. Yn lle hynny, gallwch greu dolen at yr eitemau yn y Casgliad o Gynnwys pan fyddwch am ddefnyddio’r deunyddiau hyn mewn cwrs neu aseiniad.

Mae dolenni at eitemau yn y Casgliad o Gynnwys yn ymddwyn mewn ffyrdd gwahanol wrth gopïo, mewngludo neu allgludo cwrs.

Copïo cwrs gyda dolenni'r Casgliad o Gynnwys

Wrth gopïo cwrs, caiff y dolenni at yr eitemau yn y Casgliad o Gynnwys eu copïo hefyd, ynghyd â’r hawl i ddefnyddwyr weld yr eitemau hyn. Mae’n rhaid i bob defnyddiwr fod â chaniatâd yn y Casgliad o Gynnwys i weld y ffeiliau hyn. Os bydd defnyddiwr heb y caniatâd priodol yn dewis dolen at eitem yn y cwrs, bydd yn gweld neges sy’n dweud’Access Denied’. Os byddwch am roi hawliau ychwanegol i ddefnyddiwr fel bod modd iddo weld eitem, mae’n rhaid ichi wneud hynny yn y Casgliad o Gynnwys.

Rhagor o wybodaeth am ganiatâd i weld ffeiliau yn y Casgliad o Gynnwys:

Ar ôl copïo cwrs sydd â dolenni’r Casgliad o Gynnwys, byddwch yn gweld ‘caniatâd darllen i bob Defnyddiwr Cwrs yn y Casgliad o Gynnwys.

Mae’n bosibl y bydd eich sefydliad yn galluogi’rdewisiadau Gosodiadau Copïo'r Cwrs fel bod modd newid pwy sydd â hawliau wrth gopïo cwrs yn awtomatig. Pan fydd wedi'i alluogi, bydd y gosodiad hwn yn diweddaru pwy sydd â hawl i weld eitemau yn y Casgliad o Gynnwys yn awtomatig ar gyfer pob cwrs bron. Ni ddiweddarir caniatâd yn awtomatig ar gyfer eitemau’r Casgliad o Gynnwys y cysylltir â nhw mewn profion, arolygon, a chronfeydd cwestiynau. Rhaid i hyfforddwyr ddiweddaru'r caniatâd i'r eitemau hyn â llaw trwy Reoli Cynnwys.

Mae uwchraddio caniatâd awtomatig yn gymwys yn unig i gyrsiau a gopiir.


Mewngludo neu adfer cwrs sydd â dolenni i'r Casgliad o Gynnwys

Wrth allgludo neu archifo cwrs yn Blackboard Learn, bydd dolenni i unrhyw ffeiliau'r Casgliad o Gynnwys yn cael eu cynnwys hefyd. Os mewngludir neu adferir pecyn wedyn, cynhwysir y dolenni hyn yn y cynnwys. Bydd ymddygiad y dolenni hyn yn dibynnu ar gyflwr yr eitemau yn y Casgliad o Gynnwys.

Os yw’r eitemau yn dal i fod yn eu lleoliad gwreiddiol yn y Casgliad o Gynnwys, bydd y dolenni i'r eitemau hyn yn y cwrs yn gweithio’n iawn. Ond os yw’r eitemau wedi cael eu symud neu hailenwi, bydd y dolenni wedi eu torri.

Yn yr un modd, os caiff pecyn cwrs ei adfer neu ei fewngludo i gwrs ar Blackboard Learn heb y Casgliad o Gynnwys, bydd pob un o’r dolenni at eitemau’r Casgliad o Gynnwys wedi ei thorri. Mae hyn oherwydd bod y cwrs yn cadw dolen i bob eitem, nid y ffeiliau eu hun. Rhaid i hyfforddwyr ddileu'r dolenni i'r eitemau hyn o'r cwrs. Os yw'r eitemau'n hygyrch, fe'u hychwanegir at y Casgliad o Gynnwys a chysylltir â nhw eto o'r cwrs.

Os symudir neu dileir y Casgliad o Gynnwys, bydd yr un ymddygiad ag a ddisgrifir uchod yn digwydd. Torrir yr holl ddolenni i'r Casgliad o Gynnwys.

Nid yw Blackboard Learn yn diweddaru’n awtomatig hawl defnyddwyr i weld eitemau’r Casgliad o Gynnwys mewn cyrsiau a fewngludwyd neu a adferwyd.


Uwchlwytho ffeiliau i’r Casgliad o Gynnwys

Uwchlwytho Ffeil Gywasgedig i’r Casgliad o Gynnwys

Gwylio’r fideo am Lawrlwytho Ffeiliau mewn Pecyn Cywasgedig o’r Casgliad o Gynnwys