Cyn i chi ychwanegu cynnwys at y Casgliad o Gynnwys, dylech gynllunio sut y byddwch yn rheoli cynnwys. Gallwch drefnu cynnwys mewn ffordd sy'n bodloni'ch anghenion unigol ac anghenion eich cyrsiau orau.

Mae ffeiliau yn Casgliad o Gynnwys wedi'u trefnu mewn strwythur coeden o ffolderi o fewn ffolderi hyd at ac yn cynnwys y lefel ardal cynnwys. Mae ffolder yn cadw ffeiliau'n ogystal â ffolderi eraill. Mae'n bwysig cofio y cynhwysir pob ffolder o fewn ffolderi eraill i fyny at y ffolder (/) gwraidd. Mae ardaloedd cynnwys, fel Defnyddwyr, Cyrsiau, Sefydliadau, a Llyfrgell, yn ffolderi a storir o dan y ffolder gwraidd.

Mae ffolder ar gael yn awtomatig i'r defnyddiwr a'i creodd, a gall hefyd fod yn weladwy i ddefnyddwyr eraill os byddwch yn ei chreu yn ardal y cwrs. Os ydych chi am rannu ffolder rydych chi'n ei chreu, rhowch ganiatâd i ddefnyddwyr eraill weld y ffolder a'i chynnwys.

Rhaid i ffolderi a ffeiliau fod ag enwau unigryw os ydynt yn cael eu storio yn yr un lleoliad.


Mathau o Ffolderi

Gallwch greu ffolderi ar wahân ar gyfer gwahanol fathau o gynnwys a rheoli gwelededd ar lefel y ffolder. Pan fyddwch yn barod i rannu cynnwys gyda defnyddwyr ychwanegol, gallwch ei gopïo neu ei symud i ffolder arall.

Caiff caniatadau ffolderi eu hetifeddu'n ddiofyn. Pan fyddwch yn diweddaru caniatâd defnyddwyr ar gyfer ffolder, defnyddir y caniatâd hwnnw hefyd yn awtomatig ar gyfer pob eitem (ffolder a ffeil) sydd yn y ffolder honno. Efallai y byddwch am gadarnhau nad oes gan ddefnyddwyr fynediad heb awdurdod i ffolderi penodol os ydych yn gwneud newidiadau i ganiatadau ffolder lefel uchaf.

Rhagor am ganiatâd ffolder yn y Casgliad o Gynnwys

Ffolderi defnyddwyr

Mae ffolderi defnyddwyr yn ffolderi personol, preifat lle y gallwch storio cynnwys nad ydych yn barod i'w rannu eto. Pan fyddwch yn dewis Casgliad o Gynnwys o'r bar llywio, eir â chi i sgrin Fy Nghynnwys, sy'n rhestru’ch ffolderi a ffeiliau defnyddiwr. I ychwanegu ffolder newydd yn y lleoliad hwn, dewiswch Creu Ffolder.

Yn ddiofyn, mae'r ffolderi hyn dim ond ar gael i'r defnyddir a'u creodd. Gallwch roi caniatâd ychwanegol i ddefnyddio ffolderi yn Fy Nghynnwys.

Cofiwch os storir cynnwys yn ymwneud â chwrs mewn ffolder defnyddiwr nid yw wedi'i rannu. Ni fydd y cynnwys hwn ar gael os bydd y defnyddiwr yn gadael y sefydliad a bydd yn cael ei ddileu o'r system.

Ffolderi cyrsiau

Mae ffolder cwrs ar gyfer pob cwrs yn ymddangos yn ôl rhagosodiad o dan Cyrsiau. O fewn pob cwrs, gallwch greu is-ffolderi ychwanegol. I ychwanegu ffolder newydd i gwrs, dewiswch Creu Ffolder

Y rolau sydd â chaniatadau llawn diofyn (darllen, ysgrifennu, rheoli a thynnu) i is-ffolderi mewn cwrs yw hyfforddwyr, cynorthwywyr addysgu, ac adeiladwyr cyrsiau. Gallwch storio gwybodaeth breifat am gyrsiau, fel canlyniadau profion ac arolygon. Gall gweinyddwyr olygu'r gosodiad caniatâd diofyn hwn. Mae angen i chi ddeall pa ganiatadau sydd wedi'u rhoi i'r ffolder cyn i chi osod mwy o is-ffolderi a chaniatadau ychwanegol.

Gallwch hefyd greu ffolder rydych chi am ei rhannu gyda holl aelodau'r cwrs, gan gynnwys myfyrwyr. Ar ôl i chi greu ffolder newydd, diweddarwch ganiatadau'r ffolder ar sail eich dewisiadau. Mae ffolder cwrs cyhoeddus yn lle da i rannu cynnwys gyda'r holl ddefnyddwyr sydd wedi'u cofrestru yn y cwrs. Byddai'r ffolder hwn yn cynnwys gwybodaeth neu erthyglau cwrs y mae angen i'r dosbarth cyfan eu darllen.

Os yw'n well gennych, efallai y byddwch yn penderfynu cadw'r ffolder cwrs fel gweithle ar gyfer y cwrs, ac yn peidio â chaniatáu i ddefnyddwyr gyrchu unrhyw eitemau yn ffolder y cwrs. Yn lle hynny, gallwch greu dolen i eitemau'r Casgliad o Gynnwys o'r cwrs. Yn y senario hon, byddai ffolder gyfan y cwrs yn ffolder breifat. I wneud hyn, golygwch ganiatadau defnyddwyr ar sail eich dewisiadau.

Storio cynnwys cwrs

Mae natur dros dro cwrs yn golygu bod ffolder y cwrs - sydd wedi'i gysylltu ag ID y cwrs - yn ddefnyddiol ar gyfer storio cynnwys sy'n benodol i gwrs unigol. Os caiff cwrs ei dileu, nid yw'r ffolder sy'n gysylltiedig ag ID y cwrs ar gael bellach. Os ydych chi am ailddefnyddio cynnwys sydd wedi'i storio mewn ffolder cwrs, gallwch gopïo neu symud yr eitemau hyn.

Mae'n bosibl y byddwch am storio cynnwys sy'n cael ei ddefnyddio mewn sawl cwrs yn ffolder y sefydliad neu ddefnyddio'ch ffolder. Gwiriwch sut mae'r gweinyddwr wedi ffurfweddu ffolder y sefydliad a'i argaeledd.

Ffolderi grŵp

Mae ffolderi grŵp yn debyg i ffolderi cwrs, ond maen nhw'n cael eu rhannu â rhai grwpiau yn hytrach nag â phob defnyddiwr. Gallwch roi ffolderi grŵp ar gael i grwpiau neu sefydliadau unigol fel y gallant eu defnyddio fel meysydd cydweithredu. Ar ôl i chi greu ffolder grŵp, golygwch y caniatadau i roi mynediad i grwpiau cwrs i'r ffolder.

Mwy am ffolderi grŵp


Sut mae defnyddwyr yn dod o hyd i fathau ar ffolderi

Gall gosodiadau caniatâd effeithio ar sut mae defnyddwyr yn dod o hyd i ffolderi a ffeiliau yn y Casgliad o Gynnwys. Gallwch osod ffolderi mewn dwy ffordd fel y bydd defnyddwyr yn dod o hyd iddynt mewn gwahanol ardaloedd.

Defnyddiwch y camau hyn er mwyn i fyfyrwyr allu defnyddio'r teclyn Canfod Ffolder i ddod o hyd i'r ffolder.

  1. Gallwch roi mynediad darllen i'r holl fyfyrwyr yn y cwrs yn ffolder lefel uchaf y cwrs.
  2. Tynnwch ganiatâd darllen i fyfyrwyr i bob ffolder preifat.
  3. Ar gyfer ffolderi cyrsiau, ychwanegwch ganiatadau ar gyfer holl ddefnyddwyr y cwrs at y ffolder gyhoeddus. Ar gyfer ffolderi grwpiau, ychwanegwch ganiatadau ar gyfer pob grŵp ar gyfer eu ffolder grŵp priodol.

Neu, gallwch ganiatáu i fyfyrwyr ddefnyddio Chwilio, Mynd i Leoliad, a Nodau Tudalen i ddod o hyd i'r ffolder.

  1. Peidiwch â rhoi unrhyw ganiatâd i ddefnyddwyr y cwrs i'r ffolder cwrs lefel uchaf.
  2. Ar gyfer ffolder cwrs, dylech ganiatáu pob caniatâd defnyddiwr cwrs i'r ffolder gyhoeddus. Os ydych yn defnyddio ffolder grŵp, dylech roi caniatâd i bob grŵp cwrs i'w ffolder grŵp unigol.

Gall myfyrwyr nawr ddefnyddio Chwilio, Mynd i Leoliad , a Nodau Tudalen i ddod o hyd i'r ffolderi hyn.

Rhagor am declynnau i ddod i hyd i eitemau a'u rhannu yn Casgliad o Gynnwys


Ffolderi preifat a chyhoeddus

Mae creu ffolderi ar wahân ar gyfer cynnwys personol (lle preifat) a ffolderi sydd ar gael i ddefnyddwyr eraill (lle cyhoeddus) yn ddefnyddiol iawn. Mae'r dull hwn yn eich caniatáu i gael ffolderi penodol ar gael i chi, lle gallwch chi storio cynnwys personol. Er enghraifft, gallai un ffolder bersonol gynnwys papurau a phrosiectau sydd ar waith, tra bod un arall yn cynnwys dogfennau proffesiynol sydd ddim yn barod i'w rhannu, megis CV a llythyron eglurhaol ar gyfer swyddi. Ni roddir caniatadau ychwanegol ar gyfer y ffolderi personol hyn i unrhyw un arall oni bai eich bod yn golygu caniatadau.

Pan fyddwch yn barod i rannu dogfen, gallwch ei chopïo neu ei symud i ffolder gyhoeddus. Os ydych chi'n gweithio ar ddogfen cwrs, mae'n bosibl y byddwch chi'n dewis creu'r drafft mewn ffolder bersonol, ac yna ei symud i ffolder a rennir pan fyddwch wedi'i chwblhau. Mae hyn yn caniatáu mynediad a chydweithrediad cyflym i aelodau'r cwrs.