Golygu Priodweddau Ffolder

Ar ôl i chi greu ffolder, gallwch newid ei osodiadau. Tudalen Gosodiadau Golygu yw hefyd lle byddwch yn dod o hyd i wybodaeth fanwl ar y ffolder, megis pwy greodd y ffolder, pryd grëwyd y ffolder a phryd gafodd ei olygu ddiweddaf.

Golygu priodweddau ffolder

  1. Yn y Content Collection, ewch i'r ffolder sy'n cynnwys yr eitem.
  2. Dewiswch Gosodiadau Golygu o ddewislen y ffolder.
  3. Dewiswch yr opsiynau fel bo'n briodol.
  4. Dewiswch Cyflwyno.

Opsiynau sydd ar gael

Meysydd
Maes Disgrifiad
Gwybodaeth am y Ffolder
Enw’r Ffolder Edrychwch ar neu newidiwch enw'r ffolder.
URL Gwe-ffolder URL y ffolder. Gellir cyrchu'r URL hwn yn unig gan ddefnyddwyr sydd â chyfrif defnyddiwr cyfredol a breintiau i edrych ar y ffolder.
URL Parhaol Y ddolen gwe ar gyfer y ffeil hon sy'n cynnwys y dynodwr unigryw, digyfnewid ar ei chyfer ond nid ei llwybr lleoliad. Mae'r dangosyddion parhaus hyn yn golygu na fod dolenni i'r Content Collection yn torri pan fyddant yn cael eu symud.
Perchennog Mae'n arddangos enw defnyddiwr yr unigolyn sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r ffolder a'i chynnwys. Os yw'r maes yn nodi SYSTEM, yna fe grëwyd y ffolder hon yn awtomatig.
Crëwyd Gan Mae'n arddangos enw defnyddiwr yr unigolyn a grëodd y ffolder.
Crëwyd Ar Mae'n arddangos y dyddiad a'r amser y crëwyd y ffolder.
Golygwyd Ddiwethaf Gan Mae'n arddangos enw defnyddiwr y sawl a wnaeth newidiadau i'r eitem ddiwethaf.
Golygwyd Ddiwethaf Mae'n arddangos y dyddiad a'r amser diweddaraf y gwnaethpwyd newidiadau i'r ffolder.
Gwybodaeth am y Cwota
Maint Mae'n arddangos maint y ffolder mewn megabeitiau.
Cwota mewn Megabeitiau Nodwch gwota o le ar gyfer y ffolder mewn megabeitiau (MB). Ni all cwota o le fod yn fwy na'r cwota ar gyfer y ffolder lle bydd y ffolder newydd yn cael ei chadw. Er enghraifft, ni all y cwota ar gyfer /cyrsiau/hanes/dogfennau fod yn fwy na'r cwota ar gyfer /cyrsiau/hanes.
Cwota sydd Ar Gael Yn dangos faint o le sydd ar gael ar gyfer y rhiant ffolder. Er enghraifft, ar gyfer y ffolder /cyrsiau/hanes/dogfennau, bydd y maes hwn yn dangos y lle sydd ar gael ar gyfer /cyrsiau/hanes. Ni all y cwota ar gyfer ffolder fod yn fwy na'r lle sydd ar gael yn y ffolder a fydd yn ei gadw.
Opsiynau Cloi
Cloi Dewiswch glo ar gyfer y ffolder o'r opsiynau canlynol:
  • Dim Clo
  • Cloi’r ffolder hwn
  • Cloi’r ffolder hwn a’i holl gynnwys.

Mae clo yn diogleu'r ffolder ei hun (enw a gosodiadau) rhag newidiadau. Mae cloi'r ffolder a'i holl gynnwys yn diogleu'r ffolder ei hun yn ogystal â'r deunydd y mae'n ei chynnwys. Os cloir ffolder, ni all y defnyddiwr olygu eitemau trwy'r ffolder gwe, er enghraifft, copïo eitem yn uniongyrchol i mewn i'r ffolder gwe.

Ar y Mac, gelwir ffolder gwe yn lleoliad a rennir.

Opsiynau ar gyfer Sylwadau
Sylwadau Dewiswch opsiwn ar gyfer ymdrin â sylwadau:
  • Mae’r holl sylwadau am y ffolder hon yn breifat
  • Rhannu sylwadau am y ffolder hon
  • Rhannu sylwadau am y ffolder hon a phopeth y mae'n ei chynnwys
  • Mae’r holl sylwadau am y ffolder hon a phopeth y mae'n ei chynnwys yn breifat
Opsiynau Fersiwn
Fersiynau Dewiswch opsiwn ar gyfer rheoli pennu fersiynau:
  • Dim Fersiynau
  • Galluogi fersiynu ar y ffeiliau o fewn y ffolder hon
  • Galluogi fersiynu ar y ffeiliau o fewn y ffolder hon a'i holl is-ffolderi
Opsiynau Olrhain
Olrhain Dewiswch opsiwn olrhain ar gyfer y ffolder hon:
  • Dim Olrhain
  • Galluogi olrhain ar y ffeiliau o fewn y ffolder hon
  • Galluogi olrhain ar y ffeiliau o fewn y ffolder hon a phob un o'i his-ffolderi
Opsiynau Alinio
Aliniadau Dewiswch opsiwn alinio ar gyfer y ffolder hon:
  • Cymhwyso Aliniadau i r ffolder hon yn unig.
  • Cymhwyso Aliniadau i r ffolder hon a r ffeiliau y mae'n ei chynnwys
  • Cymhwyso Aliniadau i r ffolder hon, ei his-ffolderi a r holl ffeiliau y maent yn eu cynnwys
Opsiynau Metadata
Metaddata Dewiswch opsiwn ar gyfer rheoli metadata ar gyfer y ffolder hon:
  • Mae’r metadata yn berthnasol i’r ffolder hon yn unig
  • Cymhwyso metadata i’r ffolder hon a’r ffeiliau y mae'n ei chynnwys
  • Cymhwyso metadata i'r ffolder hon, ei his-ffolderi a r holl ffeiliau y maent yn eu cynnwys

Mae metadata'n cynnwys gwybodaeth am y ffeiliau yn y ffolder hon. Bydd ychwanegu metadata at y ffeiliau o fewn y ffolder hon a i holl is-ffolderi yn disodli unrhyw fetadata presennol.


Cloi is-ffolder

Mae ffolderi'n gallu cynnwys ffeiliau ac is-ffolderi. Wrth ddewis cloi neu datgloi ffolder, cofiwch y daw caniatâd a chloeon eitemau o'r rhiant ffolder. Os newidir clo'r eitem, gall hyn effeithio ar glo'r rhiant ffolder hefyd.

Er enghraifft, gall datgloi is-ffolder newid math y clo ar y rhiant ffolder. Os byddwch yn newid clo is-ffolder i Dim Clo o Cloi'r ffolder hwn a'i holl gynnwys, bydd y rhiant ffolder yn cael ei osod yn awtomatig i Dim Clo. Mae hyn yn digwydd hyd yn oed os mai Cloi'r ffolder hwn a'i holl gynnwys oedd gosodiad y rhiant ffolder.

Yn yr un modd, ni ddylid cloi is-ffolderi os yw rhiant ffolder eisoes wedi'i gloi. Bydd y weithred hon yn torri'r clo ar y rhiant ffolder, ac yn ei osod i Dim Clo, gan adael yr is-ffolder wedi'i gloi a'r rhiant ffolder heb glo.