Uwchlwytho a Lawrlwytho Pecynnau

Uwchlwytho unrhyw ddogfennau, lluniau, ffolderi, a gwaith i'r Casgliad o Gynnwys. Gallwch ddefnyddio ffeil eich enw defnyddiwr i storio ffeiliau personol y cwrs rydych yn gweithio arnynt. Pan fyddwch yn barod, gallwch gyflwyno'r ffeiliau neu eu hatodi i waith cwrs arall. Yn eich cyrsiau, gallwch ychwanegu dolenni i ffeiliau a storiwyd yn y Casgliad o Gynnwys. Gallwch hefyd ychwanegu dolen at brosiectau y gallech fod yn gweithio arnynt.

Gallwch lawrlwytho eitemau ac unrhyw fetaddata cysylltiedig o'r Casgliad o Gynnwys. Bydd hyn yn creu pecyn ffeil .ZIP sy'n cynnwys strwythur gwreiddiol y ffeiliau a ffolderi yn ogystal ag un ffeil .XML sy'n diffinio'r metaddata ar gyfer yr holl ffeiliau a ffolderi yn y pecyn.

Os ydych wedi lawrlwytho eitem o'r Casgliad o Gynnwys ac wedi ei golygu, gallwch uwchlwytho'r pecyn a'r metaddata cysylltiedig. Pan fyddwch wedi gorffen, bydd y ffeiliau a ffolderi yn disodli'r ffeiliau neu ffolderi presennol (neu'n ychwanegu fersiwn newydd) yn y Casgliad o Gynnwys. Bydd ffeil metaddata'r eitem yn y pecyn hefyd yn disodli'r metaddata cyfredol.

Mae rhaid i'r pecyn fod yn un sydd wedi ei lawrlwytho'n flaenorol o'r Casgliad o Gynnwys ac mae rhaid iddo fod ar ffurf ffeil .ZIP.


Lawrlwytho pecyn

  1. Yn y Casgliad o Gynnwys, ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffeiliau neu ffolderi rydych eisiau eu lawrlwytho.
  2. Dewiswch y ffeiliau a'r ffolderi i'w lawrlwytho.
  3. Dewiswch fotwm Lawrlwytho Pecyn. Gallwch hefyd ddod o hyd i'r opsiwn i Lawrlwytho Pecyn yn newislen yr eitem.
  4. Efallai bydd ffenestr yn agos yn gofyn a ydych am agor neu gadw'r ffeil. Dewiswch Cadw Ffeil a dewiswch Iawn.

Daw un ffeil .XML gyda'r ffeiliau a ffolderi a lawrlwythir o'r enw metadata.xml. Mae'r ffeil .XML hon yn cynnwys y metaddata ar gyfer yr holl eitemau a lawrlwythyd.


Golygu'r metaddata

Ar ôl i chi lawrlwytho'r eitem, gallwch olygu'r ffeil metadata.xml y tu allan i Blackboard. Cofiwch y canlynol pan fyddwch yn golygu'r ffeiliau:

  • Gallwch ychwanegu meysydd metaddata newydd i'r ffeil. Er mwyn i'r meysydd metaddata newydd fod yn weladwy yn Blackboard Learn, bydd hefyd angen i chi gysylltu priodwedd metaddata ar gyfer yr eitem yn y ffeil. Heb y briodwedd, caiff y metaddata ei gadw, ond nid yw'n weladwy.
  • Rhaid bod y ffeil .XML wedi'i fformatio'n gywir er mwyn i'r system uwchlwytho'r ffeil.

Uwchlwytho pecyn

Gallwch uwchlwytho ffeiliau i unrhyw ardal gynnwys lle mae gennych ganiatâd i wneud hynny. Mae'r botwm Uwchlwytho yn ymddangos ynghyd â'r opsiynau i Uwchlwytho Ffeiliau neu Uwchlwytho Pecyn. Bydd y pecynnau ar ffurf ffeiliau .ZIP a fydd yn cael eu dadbacio i'r ffolder ddewiswch chi.

  1. Yn y Casgliad o Gynnwys, ewch i'r lleoliad lle rydych eisiau uwchlwytho ffeiliau.
  2. Pwyntiwch at Uwchlwytho a dewiswch Uwchlwytho Pecyn Zip.
  3. Porwch am y ffeil a dewiswch y math o amgodio, os yn berthnasol.
  4. Dewiswch Cyflwyno i ddechrau uwchlwytho.