Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol. Mae aseiniadau ar gael i hyfforddwyr ar bob adeg yng Ngwedd Cwrs Ultra.

Pan fyddwch yn creu aseiniad grŵp, crëir colofn graddau'n awtomatig.

Cyrchu aseiniad grŵp

Gallwch ddechrau graddio aseiniadau grŵp o’r dudalen Angen Graddio neu'r Ganolfan Raddau.

Tudalen Angen Graddio

O'r Panel Rheoli, ehangwch yr adran Canolfan Raddau a dewiswch Angen Graddio

  1. Ar y dudalen Angen Graddio, defnyddiwch yr hidlyddion i leihau’r rhestr o eitemau i’w graddio yn ôl Categori, Eitem, Defnyddiwr, a Dyddiad Cyflwyno. Er enghraifft, hidlwch y rhestr yn ôl Categori ac arddangos aseiniadau yn unig ac yn ôl Defnyddiwr i ddewis grŵp penodol.
  2. Dewiswch Iawn. Mae’r eitemau wedi'u hidlo yn ymddangos ar y dudalen Angen Graddio. Dewiswch bennawd colofn i sortio'r eitemau.
  3. Cyrchwch ddewislen eitem a dewis Graddio’r Holl Ddefnyddwyr. Neu, dewiswch enw grŵp yn y golofn Ymgais Defnyddiwr. Mae’r dudalen Aseinio Gradd yn ymddangos.

Rhagor am y dudalen Angen ei Raddio

O’r Ganolfan Raddau

Yn y Ganolfan Raddau, mae gan aseiniadau grŵp sydd wedi'u u cyflwyno, ond heb eu graddio eto, symbol Angen Graddio.

Mae celloedd holl aelodau’r grŵp yn dangos Angen Graddio, ni waeth pwy a gyflwynodd aseiniad y grŵp.

Dileu ymgais grŵp

Os gwnaethoch ganiatáu un cyflwyniad yn unig ar gyfer aseiniad a bod grŵp yn cyflwyno’r ffeil anghywir, mae'n rhaid i chi dynnu'r ymgais hwnnw er mwyn i'r grŵp allu ailgyflwyno.

  1. O'r Ganolfan Raddau, cyrchwch ddewislen y golofn aseiniad grŵp a dewiswch Ymgeisiau Gradd. Neu, gallwch leoli cell unrhyw aelod o'r grŵp ar gyfer yr aseiniad grŵp sydd angen ei graddio. O ddewislen y gell, dewiswch yr Ymgais Grŵp.

    Mae’r dudalen Aseinio Gradd yn ymddangos.

  2. Dewiswch Dileu Ymgais Grŵp i dynnu cyflwyniad y grŵp.

 

Newid gradd aelod unigol o grŵp

Pan fyddwch yn ychwanegu gradd ar gyfer aseiniad grŵp, rhoddir y radd yn awtomatig i bob aelod o'r grŵp. Ond, gallwch aseinio gradd i aelod unigol o’r grŵp sy’n wahanol i radd y grŵp. Os byddwch yn newid gradd aelod o'r grŵp ac yn neilltuo gradd grŵp newydd, ni fydd y radd grŵp newydd yn affeithio gradd newydd yr unigolyn. Mae aelodau unigol yn gweld eu graddau eu hunain, nid yr hyn a enillodd pob aelod.

Yn y bar ochr graddio, dewiswch y botwm Gwrthwneud/newid yn ôl i newid gradd ar gyfer aelod o’r grŵp. Rhowch radd newydd a dewiswch Cadw. Mae'r radd hon yn dod yn radd gwrthwneud.

Mae gradd y grŵp a gradd a olygwyd yr aelod grŵp unigol hefyd yn ymddangos yn y Ganolfan Raddau. Mae celloedd mewn print llwyd yn ymddangos yn y golofn aseiniad grŵp ar gyfer aelodau cwrs nad ydynt yn rhan o'r grŵp.

Newid gradd wedi’i haddasu ar gyfer aelod yn ôl

Gallwch droi gradd aelod a olygwyd yn ôl i'r radd grŵp gwreiddiol, roedd pob aelod o'r grŵp wedi ei derbyn.

Yn y bar ochr graddio, dewiswch y botwm Gwrthwneud/newid yn ôl ar gyfer y defnyddiwr â'r radd olygedig. Dewiswch y saeth sy'n pwyntio i'r chwith i newid y radd i'r radd grŵp wreiddiol. 


Ychwanegu a dileu aelodau'r grŵp

Os fyddwch yn ychwanegu aelod at grŵp ar ôl i chi aseinio gradd am aseiniad grŵp, nid yw'r aelod newydd yn derbyn gradd, gan nad oeddent yn rhan o'r broses. Hyd yn oed os fyddwch yn diweddaru gradd y grŵp, ni fydd yr aelod newydd yn derbyn gradd. Gallwch aseinio gradd ar gyfer yr aelod newydd o'r dudalen Manylion Gradd, ond nid oes cyflwyniad ar gael i edrych arno wrth raddio.

Os byddwch yn tynnu aelod o grŵp ar ôl i chi aseinio gradd ar gyfer aseiniad grŵp, defnyddir unrhyw ddiweddariadau graddio gyda chell yr aelod grŵp hwnnw. I ddileu’r sgôr ar gyfer aelod sydd wedi’i dynnu o'r grŵp, dewiswch Anwybyddu'r Ymgais ar dudalen Manylion Gradd yr aelod. Gofynnir i chi a ydych yn siŵr eich bod am ddileu'r ymgais. Dilëir gradd yr aseiniad grŵp o gell yr aelod yn y Ganolfan Raddau.

 

Angen nodiadau atgoffa am waith cwrs sydd ar goll

Gallwch anfon e-byst atgoffa o golofnau'r Ganolfan Raddau i fyfyrwyr ac aelodau grwpiau y mae eu gwaith cwrs ar goll. Bydd myfyrwyr yn cael e-bost a gynhyrchir gan y system sy’n rhestru’r cwrs, y gwaith cwrs, a’r dyddiad cyflwyno os rydych wedi pennu un.

Mwy ar anfon negeseuon atgoffa


Graddio mewnol Bb Annotate

Gallwch ddefnyddio Bb Annotate i raddio’n fewnol yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol a’r Wedd Cwrs Ultra. Mae Bb Annotate yn cynnig cyfres o nodweddion sy’n fwy cadarn i roi adborth y gellir ei addasu i fyfyrwyr. Mae'r nodweddion yn cynnwys gwedd crynodeb bar ochr, offer lluniadu â llaw, gwahanol liwiau a llawer mwy.

Nid yw cyflwyniadau aseiniadau a grëir gan grwpiau â'r golygydd cynnwys yn gydnaws â graddio mewn llinell. Mae'r math hwn o gyflwyniadau'n ymddangos yn y sgrîn graddio, ond nid yw anodi ar gael.

Mwy ar raddio mewn llinell a’r mathau o ffeiliau a gefnogir


Graddio dienw

Os galluogoch y graddio dienw ar gyfer aseiniad grŵp, cuddir gwybodaeth adnabod grŵp yn y ffyrdd canlynol:

O’r Ganolfan Raddau Ar ôl i ddyddiad dyledus aseiniad grŵp fynd heibio neu y cyflwynwyd pob ymgais, cyrchwch golofn yr aseiniad grŵp a chliciwch Graddio Ymgeisiau. Ar gyfer colofnau lle galluogoch raddio dienw, mae pob cell mewn print llwyd fel nad ydych yn gwybod pa grwpiau a gyflwynodd.

O’r Dudalen Angen Graddio: Hidlwch yr eitemau sydd angen eu graddio i ddangos yr aseiniad grŵp rydych am ei raddio'n unig. Yn y golofn Ymgais Defnyddiwr, mae’r holl wybodaeth adnabod yn cael ei disodli gan "Grŵp Dienw” ac ID ymgais. O ddewislen aseiniad grŵp, dewiswch Graddio’r Holl Ddefnyddwyr i ddechrau graddio.

Mae'r ddau opsiwn yn mynd â chi i'r dudalen Aseinio Gradd lle gallwch chi edrych ar y cyflwyniadau a graddio mewn llinell fel yr ydych chi’n arfer ei wneud. Wrth i chi lywio o grŵp i grŵp, mae enwau grwpiau’n cael eu disodli gyda Grŵp Dienw. Gallwch hefyd weld sawl eitem grŵp raddedig sydd yn y ciw.

Rhagor am raddio dienw


Dirprwyo graddio

Pan fyddwch yn graddio aseiniadau grŵp, gallwch ddefnyddio graddau ac adborth gan fwy nag un graddiwr i hyrwyddo dibynadwyedd a chael gwared ar ragfarn. Gallwch hefyd rannu cyfrifoldebau graddio ar gyfer dosbarthiadau mawr.

Mae graddwyr dirprwyedig yn dilyn yr un camau graddio â chi, ond, mae nifer yr ymgeisiau aseiniad grŵp y maent yn edrych arnynt yn dibynnu ar yr opsiynau rydych yn eu dewis. Er enghraifft, efallai y byddwch yn gofyn i bob graddiwr raddio is-set o'r aseiniadau grŵp ar hap neu bod pob graddiwr yn graddio pob cyflwyniad grŵp. Yna, gallwch gymharu'r graddau a neilltuo'r graddau grŵp terfynol.

Mwy ar ddirprwyo graddio