Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Sicrhau fod y Ganolfan Graddau yn hygyrch

Ddim yn gyfarwydd i chi? Efallai bydd eich cwrs yn ymddangos yn y Wedd Cwrs Ultra. Rhagor ynghylch llywio’r llyfr graddau Ultra.

I sicrhau fod y Ganolfan Raddau Wreiddiol yn hygyrch i gymaint o bobl ag y bo modd, gallwch chi ddefnyddio dau fodd:

  • Modd Rhyngweithiol: Gosodiad rhagosodedig y Ganolfan Graddau ble gallwch chi rewi colofnau a theipio graddau yn uniongyrchol yn y celloedd – gelwir yn olygu mewnol.
  • Modd Darllenydd Sgrin: Mae data Canolfan Raddau yn ymddangos mewn grid syml. Byddwch yn teipio graddau yn y dudalen Manylion Gradd a gyrchir o ddewislen cell. Ni allwch chi rewi colofnau na golygu yn fewnol. Pan fyddwch chi’n cyrchu’r Ganolfan Graddau â darllenydd sgrîn, byddwch chi’n cael y dewis i ddefnyddio’r wedd hon sydd ddim yn rhyngweithiol. Cyrchwch y ddewislen ar gyfer pennawd y Ganolfan Graddau a throwch y modd ymlaen.

Ni chaiff y Modd Darllenydd Sgrîn ei gadw ar draws sesiynau. Wedi i chi allgofnodi, mae’r wedd yn newid yn ôl yn ddiofyn i’r Modd Rhyngweithiol.

Yn y ddau fodd, gallwch wneud un o'r canlynol:

  • Symudwch bwyntiwr y llygoden o golofn i golofn yn defnyddio’r allwedd tab.
  • Llywiwch y celloedd yn defnyddio’r allweddi daeth fyny, lawr, chwith, a dde ar allweddell safonol.