Ynglŷn â phroffiliau
Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i’r adran gymorth "Ultra" am gael mynediad at eich proffil.
Mae proffil yn dangos sut rydych eisiau cyflwyno'ch hun i'ch cyfoedion ac i fyfyrwyr. Yn eich proffil Blackboard, chi sy'n penderfynu beth rydych chi eisiau cael eich galw, a ydych am rannu'ch diddordebau academaidd, llun proffil a mwy.
Os caniateir, gallwch olygu'ch gwybodaeth bersonol sydd wedi'i storio yn eich cyfrif defnyddiwr yn eich sefydliad.
Ychwanegu llun proffil
Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i’r adran gymorth "Ultra" am luniau proffil.
Os caniateir, gallwch uwchlwytho llun proffil sy'n ymddangos trwy gydol y system ac o fewn rhwydwaith academaidd ehangach Blackboard.
Mae eich delwedd bersonol yn ymddangos ym mhennyn y dudalen, offer pobl, blogiau, dyddlyfrau, trafodaethau, wikis ac amserlen. Mae'ch llun proffil hefyd yn ymddangos yn y modiwlau hysbysiadau, megis Beth sy'n Newydd. Gall y modiwlau ymddangos ar dap Fy Sefydliad neu ar hafan cwrs.
Mae'r ddelwedd y byddwch yn uwchlwytho i'ch tudalen proffil yn disodli unrhyw ddelwedd proffil arall sydd gennych gyda'ch cyfrif defnyddiwr.
Rhaid i ddelweddau fod yn llai na 5MB gyda dimensiwn o leiaf 50 x 50 picsel. Ymhlith y fformatau ffeil derbyniol mae GIF, PNG, a JPEG.
Does dim eicon proffil yn ymddangos yn y ddewislen
Os nad ydych yn gweld yr eicon proffil gwag yn y ddewislen, nid yw'ch sefydliad wedi galluogi offer proffil.
- Dewiswch y saeth nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen i agor y ddewislen.
- Dewiswch Offer ar waelod y panel.
- Dewiswch Gwybodaeth Bersonol > Personoli Fy Ngosodiadau.
- Ar dudalen Personoli Fy Ngosodiadau, dewiswch Defnyddio delwedd avatar bersonol a phorwch eich cyfrifiadur am eich llun.
- Dewiswch Cyflwyno. Mae'ch llun proffil yn ymddangos ym mhennyn y dudalen nesaf at eich enw.
Proffil
- Ar dudalen Golygu Fy Mhroffil Blackboard yn y panel ar y dde, dewiswch Newid Llun i uwchlwytho llun o'ch cyfrifiadur.
- Dewiswch Cyflwyno.
Video: Add a Profile Picture in the Original Experience
Watch a video about adding a profile picture
The following narrated video provides a visual and auditory representation of some of the information included on this page. For a detailed description of what is portrayed in the video, open the video on YouTube, navigate to More actions, and select Open transcript.
Video: Add a profile picture shows how to upload your profile picture in the Original experience.
ULTRA: Proffil
Hyfforddwyr, rydych yn y lle iawn!
Myfyrwyr, gweld gwybodaeth proffil sy'n benodol ar gyfer myfyrwyr.
Gweinyddwyr, gweld gwybodaeth proffil sy'n benodol ar gyfer gweinyddwyr.
Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i'r adran gymorth "Gwreiddiol" am broffiliau.
Yn y rhestr lle mae'ch enw yn ymddangos, dewiswch eich enw i gael mynediad at eich proffil. Mae'ch proffil yn ymddangos gydag ychydig o wybodaeth, a ni allwch ddileu'ch proffil. Eich sefydliad sy'n penderfynu beth gallwch ei bersonoli.
- Llun proffil: Uwchlwythwch lun i ddisodli'r silwét generig.
- Gwybodaeth Sylfaenol: Diweddaru'ch gwybodaeth bersonol.
- Cyfrinair: Newid eich cyfrinair system.
- Gosodiadau Hysbysiadau Cyffredinol: Gosod hysbysiadau ar gyfer gweithgareddau cwrs.
- Cyfrifon Storfa Cwmwl: Cyrchu’ch ffeiliau yn storfa'r cwmwl.
Mae enwau defnyddwyr yn ymddangos trwy gydol y system os yw’ch sefydliad yn eu caniatáu.
Uwchlwytho eich llun
Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i'r adran gymorth "Gwreiddiol" am luniau proffil.
Gallwch storio un ffeil delwedd yn eich proffil.
- Pwyntiwch at y silwét generig neu eich llun a dewiswch eicon y pensil i uwchlwytho, newid neu gael gwared ar lun.
- Yn y panel, dewiswch Uwchlwytho llun proffil newydd i bori am eich llun ar eich cyfrifiadur. Neu, gallwch lusgo ffeil i'r ardal Uwchlwytho.
- Cedwir eich delwedd yn awtomatig. Caewch y panel i ddychwelyd i'ch proffil.
Tynnu neu ddisodli'ch llun: Uwchlwythwch neu lusgwch lun arall. I ddychwelyd i'r silwét generig, dewiswch eicon Dileu'r llun hwn i ddileu'ch ffeil delwedd gyfredol.
Golygu'ch gwybodaeth a dewisiadau
Eich proffil yw'r lle i olygu’r wybodaeth sy'n gysylltiedig â'ch persona.
- Pwyntiwch at fanylyn megis Enw Llawn a dewiswch yr eicon pensil.
- Yn y panel, gwnewch newidiadau a dewiswch Wedi gorffen.
Video: Edit Your Profile
ULTRA: Watch a video about editing your profile
The following narrated video provides a visual and auditory representation of some of the information included on this page. For a detailed description of what is portrayed in the video, open the video on YouTube, navigate to More actions, and select Open transcript.
Video: Edit your profile shows how to edit information attached to your profile and add a profile picture.