Ble ydw i’n marcio gwaith fy myfyrwyr?
Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i adran gymorth "Ultra” am wybodaeth ynghylch ble i farcio gwaith myfyrwyr.
Rydych yn cyrchu'r Ganolfan Raddau o'r Panel Rheoli.
Ehangwch adran y Ganolfan Raddau i ddangos y dolenni at dudalen Angen Graddio, y Ganolfan Raddau Lawn, a’r gweddau clyfar.
Ar dudalen Angen Graddio, gallwch fwrw ati i farcio aseiniadau, aseiniadau grŵp, profion, blogiau a chofnodion dyddlyfrau, arbediadau tudalennau wici a physt trafod.
Mwy o wybodaeth ynghylch marcio
Sut mae dyfarnu graddau?
Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i adran gymorth “Ultra” am ddyfarnu graddau.
Dyfernir sgoriau yn awtomatig yn achos profion ar-lein ac holiaduron nid ydynt yn cynnwys cwestiynau y mae angen ichi eu marcio â llaw. Gallwch olygu graddau â llaw a sgorir yn awtomatig.
Gallwch aseinio graddau yn y Ganolfan Raddau trwy'r dulliau hyn:
- Ewch at yr aseiniadau i’w marcio yn y Ganolfan Raddau neu ar dudalen Angen Graddio.
- Aseinio graddau eich hun yn y Ganolfan Raddau. Gallwch ddyfarnu graddau i rai eitemau, fel blogiau neu drafodaethau, yn y system.
- Uwchlwytho graddau o ffynhonnell allanol, fel ffeil gwerthoedd wedi’u gwahanu gydag atalnod (CSV) neu daenlen Excel. Gallwch weithio oddi ar-lein ac wedyn uwchlwytho graddau i'r Ganolfan Raddau.
Mwy o wybodaeth am farcio tasgau, gan gynnwys marcio ymgeisiau a dileu graddau
Cuddio Colofnau rhag Myfyrwyr
Allaf reoli pan fydd myfyrwyr yn gweld eu graddau ac adborth?
Gallwch guddio colofn o dudalennau Fy Ngraddau myfyrwyr wrth ichi aseinio graddau ac adborth. Pan fyddwch yn cuddio colofn rhag eich myfyrwyr, byddwch yn ei gweld o hyd yng ngrid y Ganolfan Raddau.
- O'r Ganolfan Raddau, ewch i ddewislen colofn a dewiswch Golygu Gwybodaeth am y Golofn.
- Ar dudalen Golygu Colofn page, ewch i'r adran Opsiynau.
- Dewiswch Na ar gyfer Cynnwys y golofn hon yng nghyfrifiadau'r Ganolfan Raddau a Dangos y golofn hon i fyfyrwyr.
- Dewiswch Cyflwyno.
Ni fydd y gwaith a raddiwyd yn ymddangos i fyfyrwyr ar eu tudalennau Fy Ngraddau. Os yw myfyriwr yn cyrchu'r gwaith a raddiwyd o fewn ardal cynnwys, nid ymddengys gradd nac adborth.
Yng ngrid y Ganolfan Raddau, ymddengys y golofn gyda'r eicon Nid yw'r Golofn yn Weladwy i Ddefnyddwyr nesaf at deitl y golofn.
Pan fyddwch yn barod i ryddhau graddau ac adborth i fyfyrwyr, ewch i'r dudalen Golygu Colofn a dewiswch Ie ar gyfer y ddau opsiwn.
ULTRA: Ble ydw i’n marcio gwaith fy myfyrwyr?
Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i'r adran gymorth "Gwreiddiol" am le i raddio gwaith myfyrwyr.
Ydych am weld faint o eitemau sy’n barod i gael eu marcio ymhob un o’ch cyrsiau? Yn y rhestr lle mae’ch enw’n ymddangos, mae gennych fynediad ar unwaith i bob un o dasgau marcio ar dudalen hafan Graddau. Mae'ch tasgau graddio yn cael eu trefnu yn ôl cwrs.
Mae'r dudalen yn dangos gwybodaeth dim ond os oes angen i chi gymryd camau. Byddwch yn gweld eitemau sy’n barod i gael eu marcio ynghyd â faint o fyfyrwyr sy’n hwyr yn dychwelyd gwaith.
Ydych chi eisiau bod yn fwy manwl? Mewn cwrs penodol, gallwch weld llyfr graddau’r cwrs ar y bar llywio. Gallwch weld pwy sydd wedi gwneud cyflwyniadau a dechrau graddio.
Mwy o wybodaeth am farcio yn Ultra
ULTRA: Sut mae dyfarnu graddau?
Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i'r adran gymorth “Gwreiddiol” am aseinio graddau.
Gallwch aseinio, golygu a phostio graddau o dri lleoliad:
- Cell yng ngwedd grid y myfyriwr
- Yn llyfr graddau eich cwrs, mae'r grid myfyrwyr yn dangos y sgoriau maent wedi’u hennill.
- Y dudalen lle mae rhestr o’r gwaith sydd wedi ei gyflwyno ar gyfer eitem o gynnwys.
- Yn llyfr graddau eich cwrs, dewiswch eitem i ddechrau graddio.
- Mae'r dudalen rhestr gyflwyniadau'n ymddangos gyda rhestr o'r holl fyfyrwyr cofrestredig. Gallwch chwilio am fyfyriwr neu grŵp a hidlo yn ôl statws graddio.
- Tudalen cyflwyniadau y myfyriwr
- Yn llyfr graddau eich cwrs, gallwch gael mynediad at gyflwyniadau myfyrwyr o’r dudalen rhestr cyflwyniadau.
- Gallwch lawrlwytho dogfennau a gyflwynwyd gan fyfyrwyr neu’u gweld yn fewnol a gwneud anodiadau.