Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.

Beth yw Swp-olygu?

Mae rheoli cynnwys wrth sefydlu a chynnal cyrsiau'n cymryd amser. Mae hyfforddwyr yn treulio amser gwerthfawr yn trefnu cynnwys ac asesiadau i'w ryddhau i fyfyrwyr eu cyrchu ar adegau penodol.

Yng Ngwedd Cwrs Ultra, gallwch ddefnyddio Swp-olygu i ddiweddaru gosodiadau cyffredin ar draws yr holl gynnwys, megis gweladwyedd a dyddiadau dyledus. Gallwch hefyd ddefnyddio'r offeryn i ddileu grŵp o gynnwys cwrs a ddewiswyd. Mae Swp-olygu yn eich caniatáu i reoli gosodiadau cynnwys mewn un lle ac ar yr un pryd er mwyn arbed amser wrth reoli'ch cwrs.

I gychwyn arni, ewch i Cynnwys y Cwrs a Swp-olygu.

Pan fyddwch yn agor ffenestr Swp-olygu, bydd eich holl gynnwys yn ymddangos yn yr un modd ag y mae ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Trefnwch y rhestr yn ôl teitl yr eitem, categori neu weladwyedd.


Golygu gweladwyedd cynnwys

  1. Ar y dudalen Cynnwys y Cwrs, dewiswch Swp-olygu.
  2. Dewiswch y blychau ticio nesaf at yr eitemau rydych eisiau eu diweddaru. Gallwch ddewis eitemau unigol o gynnwys neu gallwch olygu gweladwyedd ffolderi.
  3. Ar waelod y ffenestr, nesaf at Golygu detholiad, dewiswch Golygu gweladwyedd yn y ddewislen Opsiynau.
  4. Dewiswch ddangos neu guddio'r cynnwys o fyfyrwyr a dewiswch Cadw Gweladwyedd.
  5. Bydd neges yn ymddangos yn dweud y diweddarwyd eich cynnwys yn llwyddiannus. Dewiswch Gweld Manylion i gadarnhau gosodiadau gweladwyedd y cynnwys.

Ar hyn o bryd, ni allwch ddefnyddio rheolau rhyddhau amodol gyda Swp-olygu.

Ffolderi cynnwys

Mae ffolderi'n fodd defnyddiol o drefnu a rhyddhau cynnwys cysylltiedig yn eich cwrs. Ar y cyd â Swp-olygu, mae ffolderi'n gallu helpu lleddfu baich rheoli cynnwys.

Gallwch ddiweddaru gweladwyedd ffolderi gan ddefnyddio Swp-olygu, yn yr un modd ag y byddech yn gwneud ar gyfer eitemau unigol o gynnwys. Sicrhewch eich bod yn gwneud newidiadau i'r cynnwys sydd gennych ar agor. Ni allwch ddewis a golygu cynnwys rhwng ffolderi lluosog.

Rhagor am olygu rhwng ffolderi

  1. Ar y dudalen Cynnwys y Cwrs, dewiswch Swp-olygu.
  2. Ar y ffenestr Swp-olygu, dewiswch ffolder i'w hagor.
  3. Dewiswch gynnwys o fewn y ffolder a dewiswch Golygu'r detholiad a Golygu gweladwyedd.
  4. Dewiswch ddangos neu guddio'r cynnwys o fyfyrwyr a dewiswch Cadw Gweladwyedd.
  5. Bydd neges yn ymddangos yn dweud y diweddarwyd eich cynnwys yn llwyddiannus. Dewiswch Gweld Manylion i gadarnhau gosodiadau gweladwyedd y cynnwys.

Os byddwch yn cuddio ffolder o fyfyrwyr, bydd yr holl gynnwys yn y ffolder hefyd yn cael ei guddio. Os byddwch yn gwneud ffolder yn weladwy, gallwch dal i reoli gweladwyedd yr eitemau yn y ffolder. Gallwch ddewis dangos neu guddio cynifer o eitemau mewn ffolder ag y mynnwch.

Caiff gosodiadau gweladwyedd cynnwys eu cadw os byddwch yn newid gweladwyedd y ffolder. Er enghraifft, mae gennych ffolder gyda phum dogfen weladwy a phrawf cudd. Pan fydd y ffolder wedi'i guddio, ni fydd myfyrwyr yn gweld y cynnwys. Pan fyddwch yn newid y ffolder i Gweladwy i fyfyrwyr, bydd y pum dogfen hefyd yn weladwy ond bydd y prawf dal yn gudd.


Golygu dyddiadau dyledus

Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i'r adran gymorth "Gwreiddiol" am fanylion ar newid dyddiadau dyledus gyda Date Management.

Gallwch ddefnyddio Swp-olygu i ddiweddaru dyddiadau dyledus cynnwys pan fyddwch yn ailddefnyddio, copïo neu fewnforio cynnwys. Os ddysgoch gyrsiau yn ystod tymor neu flwyddyn calendr blaenorol, mae Swp-olygu yn eich caniatáu i ddewis mwy nag un darn o gynnwys ac addasu dyddiadau dyledus gan ddefnyddio llai o gamau.

  1. Ar y dudalen Cynnwys y Cwrs, dewiswch Swp-olygu.
  2. Dewiswch y blychau ticio nesaf at yr eitemau rydych eisiau eu diweddaru. Gallwch ddewis eitemau unigol o gynnwys neu ffolderi.
  3. Ar waelod y ffenestr, nesaf at Golygu detholiad, dewiswch Golygu dyddiadau yn y ddewislen Opsiynau.
  4. Dewiswch ddiweddaru dyddiadau dyledus yn seiliedig ar ddyddiad cychwyn y cwrs neu'n seiliedig ar nifer o ddiwrnodau.
    • Newid dyddiadau'n seiliedig ar ddyddiad cychwyn y cwrs: Dewiswch Dyddiad cychwyn presennol a Dyddiad cychwyn newydd. Bydd yr offeryn yn cyfrifo nifer y diwrnodau rhwng y ddau ddyddiad yn awtomatig ac yn addasu'r holl ddyddiadau dyledus gan ddefnyddio'r nifer hwnnw. Ar ôl i chi ddewis dau ddyddiad, bydd neges yn ymddangos i gadarnhau sawl diwrnod sydd rhyngon nhw.
      Enghraifft: Ailddefnyddiodd fy nghynnwys cwrs o dymor blaenorol, pan oedd dyddiad dechrau'r cwrs yn Ionawr 8 2018. Dyddiad dechrau fy nghwrs newydd yw Medi 10 2018. Ychwanegir 245 diwrnod at yr holl ddyddiadau dyledus.
    • Newid y dyddiad gan ddefnyddio nifer y diwrnodau: Teipiwch rif yn y blwch Symud dyddiadau ymlaen neu Symud dyddiadau yn ôl. Bydd yr holl ddyddiadau dyledus ar gyfer y cynnwys a ddewiswyd yn symud ymlaen neu yn ôl yn seiliedig ar y blwch a'r rhif a ddewiswch chi.
      Enghraifft: Mae fy nghwrs yn barod ond mae eira mawr ar gychwyn y tymor yn gwthio'r calendr academaidd yn ôl ychydig. Ychwanegir 4 diwrnod at yr holl ddyddiadau dyledus.
  5. Bydd neges yn ymddangos yn dweud y diweddarwyd eich cynnwys yn llwyddiannus. Dewiswch Gweld Manylion i gadarnhau pa gynnwys y diweddarwyd.

Ni fydd hyn yn effeithio ar gynnwys heb ddyddiadau dyledus os yw yn y detholiad.


Dileu eitemau cwrs lluosog

Gallwch ddefnyddio Swp-olygu i ddileu darnau lluosog o gynnwys cwrs ar unwaith.

  1. Ar y dudalen Cynnwys y Cwrs, dewiswch Swp-olygu.
  2. Dewiswch y blychau ticio nesaf at yr eitemau rydych eisiau eu diweddaru. Gallwch ddewis eitemau unigol o gynnwys neu ffolderi.
  3. Ar waelod y ffenestr, nesaf at Golygu detholiad, dewiswch Dileu eitemau yn y ddewislen Opsiynau.
  4. Os ydych yn sicr eich bod am ddileu'r cynnwys a ddewiswyd yn barhaol, dewiswch Dileu. Os nad ydych yn sicr, dewiswch Canslo i adael y cynnwys fel y mae.

Golygu cynnwys ar draws ffolderi

Mae Swp-olygu ond yn caniatáu i chi olygu cynnwys o fewn y ffolder rydych yn edrych arni ar y pryd. Ni allwch ddewis cynnwys mewn dwy ffolder wahanol a diweddaru gweladwyedd, newid dyddiadau, neu dileu ar yr un pryd.

Gwnewch ddetholiad ar y sgrin rydych yn edrych arni a gorffenwch eich tasg cyn i chi adael. Gallwch ddewis cymysgedd o eitemau a ffolderi, ond gallwch ond olygu'r eitemau ar yr un pryd os ydynt yn ymddangos ar yr un sgrin.

Pan fyddwch yn llywio i mewn neu allan o ffolder, caiff eich dewisiadau cynnwys blaenorol eu clirio.


Cynnwys ac offer a gefnogir yn Swp-olygu

Cefnogir yr eitemau hyn sy'n ymddangos ar dudalen Cynnwys y Cwrs yn Swp-olygu:

  • Dogfennau, ffeiliau a dolenni
  • Ffolderi a modiwlau dysgu
  • Pecynnau SCORM
  • Offer Adnoddau addysgu gyda chysylltiadau LTI
  • Asesiadau, megis profion ac aseiniadau
  • Trafodaethau

Ni allwch chi symud dyddiadau dyledus neu weladwyedd ar gyfer colofnau gradd â llaw gan ddefnyddio Swp-olygu.

Ni allwch chi symud dyddiadau cychwyn a gorffen sesiwn Blackboard Collaborate gan ddefnyddio Swp-olygu. Gallwch ddefnyddio Swp-olygu i olygu gweladwyedd ar gyfer y dolenni i'r sesiynau sy'n ymddangos ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Rhaid golygu dyddiadau cychwyn a gorffen sesiwn Blackboard Collaborate yn Trefnydd Collaborate.