Ychwanegu maes llafur
Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i adran gymorth "Ultra" am y maes llafur.
Gallwch uwchlwytho ffeil maes llafur presennol ac mae myfyrwyr yn dewis y ddolen i'w hagor. Neu, gallwch ddefnyddio'r offeryn adeiladu maes llafur. Bydd y maes llafur yn ymddangos fel eitem ar ei ben ei hun yn y rhestr gynnwys. Eich sefydliad sy'n rheoli p'un a yw'r offeryn hwn ar gael ai beidio.
Defnyddio'r offeryn adeiladu maes llafur
Gallwch ddefnyddio'r offeryn adeiladu maes llafur i adeiladu maes llafur mewn fformat modiwlaidd. Gallwch bennu'r dyluniad ac ychwanegu gwybodaeth am wersi hefyd.
Cofiwch sicrhau bod y Modd Golygu YMLAEN fel y gallwch chi gyrchu'r holl opsiynau hyfforddwr.
Mewn ardal gynnwys neu ffolder, dewiswch Adeiladu Cynnwys i agor y ddewislen a dewiswch Maes Llafur. Ar y dudalen Ychwanegu Maes Llafur, teipiwch enw a deiswch yr opsiwn Creu Maes Llafur Newydd. Ar ôl cyflwyno, bydd y dudalen Adeiladu Maes Llafur yn ymddangos.
Blychau testun corff diofyn
Ar y dudalen Adeiladu Maes Llafur, bydd tair adran yn ymddangos yn ddiofyn: Disgrifiad, Amcanion Dysgu, a Materion Gofynnol. Gallwch olygu penawdau'r adrannau. Teipiwch gyfarwyddiadau neu ddisgrifiad ym mhob blwch. Gallwch fformatio'r testun gyda'r opsiynau yn y golygydd.
Dylunio, gwersi, ac opsiynau
Yn yr adran Dylunio Maes Llafur dewiswch yr arddull a lliwiau ar gyfer eich maes llafur.
Yn yr adran Adeiladu Gwersi, dewiswch yr opsiwn Creu Nifer Penodol o Gregyn Gwersi a theipiwch rif. Byddwch yn rhoi gwybodaeth am wers mewn camau hwyrach. Fel arall, gallwch ddewis yr opsiwn Peidio â Chreu Cregyn Gwersi.
Dewiswch yr opsiynau priodol ar gyfer argaeledd, tracio a dyddiadau arddangos. Nid yw dyddiadau arddangos yn effeithio ar argaeledd maes llafur, dim ond pan fydd yn ymddangos.
Ar ôl cyflwyno, gallwch weld eich maes llafur a darparu'r manylion ar gyfer y gwersi. Gallwch newid cynnwys y maes llafur ar unrhyw adeg. Agorwch ddewislen y maes llafur a dewiswch Golygu.
Ychwanegwch wybodaeth am y wers
Cyrchwch y maes llafur a greoch. Agorwch ddewislen gwers a dewiswch Golygu. Ar y dudalen Golygu Gwers, teipiwch enw a disgrifiad. Yn ddewisol, dewiswch ddyddiad ac amser pan fydd y wers yn ymddangos yn y maes llafur. Dewiswch Cyflwyno a dewiswch Iawn i weld y maes llafur.
I dynnu gwers, dewiswch flwch ticio gwers a dewiswch Dileu'r Wers uwchben gwybodaeth y maes llafur. Gallwch ychwanegu mwy o wersi hefyd.
Uwchlwytho ffeil maes llafur
Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i adran gymorth "Ultra" am uwchlwytho ffeil maes llafur.
Os nad ydych am ddefnyddio'r maes llafur modiwlaidd sy'n cymryd lle yn y rhestr gynnwys, gallwch uwchlwytho ffeil maes llafur cyfredol.
Cofiwch sicrhau bod y Modd Golygu YMLAEN fel y gallwch chi gyrchu'r holl opsiynau hyfforddwr.
Mewn ardal gynnwys neu ffolder, dewiswch Adeiladu Cynnwys i agor y ddewislen a dewiswch Maes Llafur. Ar y dudalen Ychwanegu Maes Llafur, teipiwch enw a dewiswch yr opsiwn Defnyddio Ffeil Gyfredol.
Porwch am ffeil ar eich cyfrifiadur neu o gronfa ffeiliau'r cwrs: Ffeiliau’r Cwrs neu’r Content Collection. Gallwch atodi mwy nag un ffeil. Gallwch hefyd olygu Teitl y Ddolen i ddarparu enw ystyrlon ar gyfer myfyrwyr.
Gallwch ddefnyddio'r opsiynau yn y golygydd i deipio disgrifiad, ychwanegu delweddau a fformatio'r testun. Dewiswch yr opsiynau priodol ar gyfer argaeledd, tracio a dyddiadau arddangos. Nid yw dyddiadau arddangos yn effeithio ar argaeledd maes llafur, dim ond pan fydd yn ymddangos.
Ar ôl cyflwyno, gallwch weld eich maes llafur yn y rhestr gynnwys.
Gallwch newid cynnwys y maes llafur ar unrhyw adeg. Agorwch ddewislen y maes llafur a dewiswch Golygu. Gallwch newid ble mae'r maes llafur yn ymddangos yn y rhestr gyda'r swyddogaeth llusgo a gollwng neu'r offeryn aildrefnu bysellfwrdd hygyrchedd.
ULTRA: Uwchlwytho ffeil maes llafur
Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i adran gymorth "Gwreiddiol" am uwchlwytho ffeil maes llafur.
Ar y dudalen Cynnwys y Cwrs, gallwch bori am ffeil maes llafur mewn storfa cwmwl neu ar eich cyfrifiadur.
Mae'r mathau o ffeiliau a gefnogir yn cynnwys DOC, DOCX, HTM, HTML, MP3, MPG, PDF, PPT, PPTX, XLS, XLSX, RTF, TXT, ZIP, a'r mwyafrif o fathau o ddelweddau.
Uwchlwytho ffeil maes llafur. Dewiswch yr arwydd plws ble bynnag y byddwch am uwchlwytho ffeiliau. Yn y ddewislen, dewiswch Uwchlwytho i bori am ffeiliau ar eich cyfrifiadur. Mae'r ffeiliau'n ymddangos yn y rhestr gynnwys. Agorwch ddewislen y ffeil i adolygu enw'r ffeil, alinio â nodau, disodli'r ffeil, neu ychwanegu disgrifiad. Gallwch hefyd ehangu neu greu ffolder neu fodiwl dysgu ac wedyn uwchlwytho ffeiliau.
Ychwanegu ffeiliau maes llafur o storfa cwmwl: Os oes gennych ffeiliau a storiwyd yn y cwmwl yn barod, megis yn OneDrive® a Google Drive™, gallwch eu hychwanegu at eich cwrs.
Ychwanegu ffeil maes llafur yn y Casgliad o Gynnwys. Os oes gennych ffeiliau wedi'u storio eisoes yn y Casgliad Cynnwys, gallwch eu hychwanegu at eich cwrs.
Rhagor am bori ac ychwanegu ffeiliau o'r Casgliad o Gynnwys
Rheoli beth mae myfyrwyr yn ei weld. Mae'r holl gynnwys wedi'i guddio rhag myfyrwyr hyd nes i chi benderfynu ei ddangos. Mae pob eitem yn dangos p'un a yw'n weladwy neu wedi'i guddio rhag myfyrwyr. Dewiswch y gweladwyedd i'w newid.
Gyda'ch bysellfwrdd, tabiwch i'r rhestr weladwyedd a gwasgwch Enter i agor y ddewislen. Defnyddiwch Alt/Option a'r saethau i fyny ac i lawr i ddewis opsiwn.
Aildrefnu, golygu, a dileu cynnwys yn hwylus. Pwyntiwch at eitem er mwyn datgelu ei opsiynau rheoli. Dewiswch yr eicon Symud a llusgwch yr eitem i leoliad newydd yn y rhestr cynnwys. Dewiswch yr eicon Mwy o opsiynau i ddileu neu olygu'r eitem. Er enghraifft, gallwch newid enw ffeil a theipio disgrifiad sy’n ymddangos gyda’r ffeil ar y dudalen Cynnwys y Cwrs.
Gyda'ch bysellfwrdd, gallwch symud eitem i leoliad newydd, symud eitem i ffolder wedi'i ehangu, a symud ffolder i ffolder wedi'i ehangu arall.
- Tabiwch i eicon symud yr eitem.
- Pwyswch Enter i actifadu’r modd symud.
- Defnyddiwch y bysellau saethau i ddewis lleoliad.
- Pwyswch Enter i ollwng yr eitem yn y lleoliad newydd.