Os oes gan eich sefydliad fynediad at reoli cynnwys, gallwch storio, rhannu, a chyhoeddi cynnwys. Gallwch storio a dod o hyd i gynnwys mewn ffolderi personol, cwrs, a sefydliad yn y Content Collection, a chreu dolenni rhwng y ffeiliau hyn mewn ardaloedd eraill o'ch cwrs. Gallwch gadw ffeiliau rydych yn eu llwytho i fyny i'ch cwrs yn y Casgliad o Gynnwys a chysylltu â nhw eto.
Profiad Gwreiddiol: Mae tab Casgliad o Gynnwys yn ymddangos ar bennawd y dudalen os yw'r teclyn ar gael i chi.
Profiad Ultra: Mae Casgliad o Gynnwys yn ymddangos ar dudalen Offer os yw'r teclyn ar gael i chi.
Ffeiliau Cwrs o'i gymharu â Content Collection
Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i adran gymorth "Ultra" am fanylion ar gael mynediad at y Content Collection.
Ffeiliau Cwrs yw'r storfa ffeiliau ar gael ar gyfer holl gyrsiau Blackboard Learn. Fodd bynnag, os oes gan eich sefydliad fynediad at reoli cynnwys, y Content Collection yw'r storfa ffeiliau. Gallwch benderfynu'n hawdd pa un y mae'ch sefydliad yn ei ddefnyddio drwy edrych ar y Control Panel mewn cwrs. Os bydd yr eitem gyntaf yn dweud Ffeiliau, mae eich sefydliad yn defnyddio Ffeiliau Cwrs. Os bydd yn dweud Casgliad o Gynnwys, mae eich sefydliad yn defnyddio Casgliad o Gynnwys fel ei storfa.
Ffeiliau Cwrs
- Cedwir cynnwys ar gyfer cwrs unigol.
- Ni allwch rannu cynnwys ar draws cyrsiau.
- Nid oes gan fyfyrwyr fynediad i storio neu rannu ffeiliau.
Mwy am ddefnyddio Ffeiliau Cwrs
Casgliad o Gynnwys
- Gallwch gadw cynnwys ar gyfer cyrsiau lluosog rydych yn eu haddysgu.
- Gallwch rannu cynnwys ar draws cyrsiau a gyda defnyddwyr eraill.
- Mae'n bosib bod gan fyfyrwyr fynediad i storio neu rannu ffeiliau.
ULTRA: Cael mynediad at y Content Collection
Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i'r adran gymorth "Gwreiddiol" am fanylion ar gael mynediad at y Content Collection.
Yn y rhestr lle mae'ch enw yn ymddangos, dewiswch Offer i gyrchu’r ffwythiannau cyffredinol sydd y tu allan i gwrs.
Mae offer Blackboard sydd ar gael ar draws cyrsiau yr ydych yn gyfarwydd â hwy ar gael ar y dudalen Offer, megis y Casgliad o Gynnwys
Yn y Casgliad o Gynnwys, gallwch uwchlwytho ffeiliau i'w defnyddio yn eich cyrsiau. Mae hefyd gennych fynediad at y ffeiliau yr ychwanegoch at eich cyrsiau pan greoch chi gynnwys.