Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.
Mae Blackboard wedi ymrwymo i ddefnyddioldeb a hygyrchedd pob un o'n cynhyrchion a gwasanaethau. Mae gennym strategaeth hygyrchedd ragweithiol ac amlweddog sy'n cynnwys model atebolrwydd a rennir ar gyfer hygyrchedd sy'n seiliedig ar adborth y gymuned anabl. Rydym yn gweithio gyda thîm rhyngwladol o arbenigwyr hygyrchedd i fentora timau cynnyrch wrth integreiddio arferion gorau hygyrchedd a chynwysoldeb. I gyd-fynd â'n traddodiad cryf o arweinyddiaeth ym maes hygyrchedd, mae ein cynhyrchion wedi'u dylunio a'u datblygu'n gyffredinol gan ystyried Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG).
Gan ddefnyddio'r Templed Hygyrchedd Cynnyrch Gwirfoddol (VPAT), mae rhagor o fanylion am gydymffurfio â safonau ar gyfer Blackboard yn nogfen yr adroddiad cydymffurfio â hygyrchedd (ACR) (.docx) y gellir ei lawrlwytho.
Ar y dudalen hon, dewch o hyd i wybodaeth am:
- Trosolwg hygyrchedd yn Blackboard Learn (fideo)
- Strwythur semantig a llywio
- Llywio â'r bysellfwrdd
- Golygydd cynnwys
- Cyflwyniad gweledol a chynnwys amlgyfrwng
- Gosodiad symudiad wedi'i leihau
- Cydnawsedd technoleg gynorthwyol
- Adborth
Ddim yn gyfarwydd i chi? Ewch i Hygyrchedd ar gyfer Blackboard Gwreiddiol.
Trosolwg hygyrchedd yn Blackboard Learn
Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.
Fideo a thrawsgrifiad ar Youtube: Trosolwg Hygyrchedd yn Blackboard Learn
Strwythur semantig a llywio
Mae tudalennau yn Learn Ultra yn dilyn cynllun gweledol safonol i sicrhau cynefindra wrth i ddefnyddwyr lywio trwy'r platfform. Strwythurwyd y rhaglen yn rhesymegol yn ôl penawdau a thirnodau. Mae hyn yn rhoi'r gallu i ddefnyddwyr ddeall strwythur unrhyw dudalen yn y rhaglen yn gyflym a symud yn hawdd i adran briodol y dudalen neu'r eitem gynnwys. p
Strwythuro yn ôl penawdau
Mae H1 unigol yn adnabod y dudalen bresennol. Yn Blackboard Learn, enw'r cwrs — fel "Bioleg 101" — yw'r H1 bob amser.
Defnyddir penawdau H2 i amlinellu prif adrannau tudalen. Er enghraifft, mae gan dudalen cwrs dri phennawd H2: un ar gyfer Staff Cyfadran y Cwrs, un ar gyfer y ddewislen Manylion a Gweithrediadau, ac un ar gyfer Cynnwys y Cwrs.
Strwythuro yn ôl tirnodau
Mae gan Learn Ultra adrannau wedi'u diffinio ar bob tudalen gan ddefnyddio tirnodau HTML ac ARIA sy'n caniatáu i'r sawl sy'n defnyddio technolegau cynorthwyol lywio'r dudalen yn fwy effeithlon. Gyda thirnodau, gall defnyddwyr ddeall strwythur unrhyw dudalen yn y rhaglen yn gyflym a symud i adran briodol y dudalen yn hawdd.
Mae tirnodau yn Learn Ultra yn cynnwys:
- baner
- ategol
- gwybodaeth am gynnwys
- ffurflen
- prif
- llywio
- chwilio
- adran
Llywio â'r bysellfwrdd
Mae tîm cynnyrch Blackboard Learn yn gweithio'n barhaus i weithredu nodweddion gweithredadwy gan ddefnyddio rhyngweithiadau bysellfwrdd safonol y diwydiant. Rydym yn ystyried y gofynion ar gyfer pob cydran er mwyn i ddefnyddwyr allu canfod a gweithredu'r nodweddion yn gywir.
Mae patrymau llywio â'r bysellfwrdd yn wahanol mewn gwahanol borwyr (Microsoft Edge, Firefox, Safari, Chrome), ond mae'r rhyngweithiadau o fewn unrhyw borwr penodol yn gyffredin ac yn gyson.
Neidio i'r prif gynnwys
Ar draws y platfform, mae Ultra yn cynnwys dolen neidio fel mecanwaith i osgoi blociau o gynnwys sy'n cael eu hailadrodd ar nifer o dudalennau — megis y pennawd neu lywio'r cwrs — sy'n caniatáu i ddefnyddwyr neidio'n uniongyrchol i'r prif faes cynnwys. Gall defnyddwyr sy'n defnyddio darllenyddion sgrin neu'r bysellfwrdd yn unig osgoi cynnwys ailadroddus a llywio'n gyflymach trwy'r dudalen.
Gall defnyddwyr dabio nes i'r bysellfwrdd ffocysu ar y ddolen "Neidio i'r prif gynnwys" sy'n mynd yn uniongyrchol i gynnwys y cwrs. Mae dolen "Neidio i wybodaeth am y cwrs" hefyd sy'n mynd i'r elfen ryngweithiol gyntaf yn Cyfadran y Cwrs neu Manylion a Gweithrediadau.
Trefn ffocws
Gall defnyddwyr lywio'r rhaglen yn olynol gan ddefnyddio'r bysellfwrdd. Mae elfennau rhyngweithiol yn dod dan ffocws yn y drefn mae'r cynnwys wedi'i drefnu'n weledol, gan gadw ystyr ac ymarferoldeb.
Swyddogaethau llusgo a gollwng
Mae Ultra yn darparu swyddogaeth llusgo a gollwng i aildrefnu eitemau ar amlinelliad cynnwys y cwrs ac i uwchlwytho delwedd o ddyfais y defnyddiwr. Mae'r swyddogaeth hon yn ganfyddadwy ac yn gallu cael ei gweithredu gan ddefnyddio'r bysellfwrdd neu ddarllenyddion sgrin.
Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, gallwch ddefnyddio'ch bysellfwrdd i:
- Symud eitem i safle newydd yn amlinelliad y cwrs.
- Symud eitem i mewn i ffolder neu fodiwl dysgu wedi'i ehangu.
- Symud ffolder i ffolder neu fodiwl dysgu wedi'i ehangu arall.
Bysellau hwylus
- Tabiwch i fotwm aildrefnu eitem
- Pwyswch Enter i alluogi’r modd symud.
- Defnyddiwch y bysellau saethau i fyny ac i lawr i ddewis lleoliad.
- Defnyddiwch y bysellau saethau i'r dde ac i'r chwith i ehangu neu gwympo ffolder neu fodiwl dysgu.
- Pwyswch Enter i ollwng yr eitem yn y lleoliad newydd.
Golygydd cynnwys
Mae’r golygydd cynnwys yn Learn Ultra yn darparu rheolyddion hygyrch, wedi'u nodi â labeli, yn ogystal â bysellau hwylus ar gyfer fformatio cynnwys a grëwyd ynddo. Mae’r golygydd yn glanhau cod HTML yn gywir y gellir ei gynnwys pan fydd cynnwys wedi ei gopïo o ddogfennau Microsoft Office. Mae’r HTML glân hwn yn sicrhau y gall defnyddwyr darllenyddion sgrin ddefnyddio unrhyw gynnwys a grëwyd yn neu a gopïwyd i’r golygydd.
Bysellau hwylus
- I ddefnyddio'ch bysellfwrdd i neidio i far offer y golygydd cynnwys, pwyswch ALT + F10. Ar Mac, pwyswch Fn + ALT + F10.
- Defnyddiwch y bysellau saethau i'r dde ac i'r chwith i symud trwy'r opsiynau.
- Defnyddiwch y saeth I Lawr neu'r bylchwr i agor is-ddewislen.
- Pwyswch y fysell Enter i ddewis opsiwn.
- Pwyswch y fysell ESC i gau'r is-ddewislen.
Cyflwyniad gweledol a chynnwys amlgyfrwng
- Mae cyflwyniad gweledol testun, elfennau graffig, a chydrannau a chyflyrau'r rhyngwyneb defnyddiwr yn cynnig cyferbyniad lliw priodol.
- Gall defnyddwyr ddiffinio testun amgen ar gyfer delweddau a uwchlwythir trwy gynnwys y cwrs, baner y cwrs, neu'r golygydd cynnwys.
- Mae gan fotymau yn y rhyngwyneb Ultra enw neu label hygyrch sy'n caniatáu i ddefnyddwyr sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol ddeall pwrpas yr elfen.
Gosodiad symudiad wedi'i leihau
Gallwch leihau symudiad animeiddiadau yn Blackboard Learn Ultra. Mae modd troi'r gosodiad ymlaen ar eich dyfais:
- iOS: Accessibility > Motion > Reduce motion (on)
- Android: Settings > Accessibility > Remove Animations (on)
- Windows: Gosodiadau > Hygyrchedd > Effeithiau gweledol > Effeithiau animeiddio (wedi'u diffodd)
- Mac OS: System Settings > Accessibility > Display > Reduce motion (on)
Pan fydd ymlaen, bydd animeiddiadau Blackboard Learn Ultra, fel paneli, yn cael eu lleihau o ran symudiadau nad ydynt yn hanfodol.
Cydnawsedd technoleg gynorthwyol
I gael y profiad gorau gyda darllenyddion sgrin, rydym yn argymell y cyfuniadau hyn:
Darllenydd sgrin | System Gweithredu | Porwr |
---|---|---|
JAWS | Windows | Google Chrome |
NVDA | Windows | Firefox / Google Chrome |
VOICEOVER | MAC OS | Firefox / Google Chrome |
Mae Bysellau Hwylus Sylfaenol JAWS, NVDA a VOICEOVER yn darparu gorchmynion ar gyfer llywio tudalennau gwe yn ôl math y darllenydd sgrin.
Adborth
Rydym yn croesawu eich adborth ar hygyrchedd ar gyfer pobl ag anableddau a'r sawl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol gyda'n cynnyrch. Rydym yn eich annog i gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau neu bryderon yn [email protected]. Sylwer bod y cyfeiriad e-bost hwn dim ond yn cael ei ddefnyddio i ymateb i gwestiynau am y defnydd o dechnolegau cynorthwyol gyda chynhyrchion Anthology.
Dylai myfyrwyr gysylltu â'u sefydliad neu hyfforddwr yn gyntaf cyn defnyddio'r cyfeiriad e-bost [email protected].