Mae’r Datganiad Cwcis yn disgrifio sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein Datganiad Preifatrwydd am ragor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio’ch wybodaeth bersonol.

Beth yw cwcis a sut maen nhw’n gweithio?

Ffeiliau testun bach sy'n cael eu gosod ar eich dyfais yw cwcis i sicrhau bod ein gwefannau yn gweithio'n effeithlon ac yn ddi-dor ac i gyflawni swyddogaethau penodol. Maent yn unigryw i’ch cyfrif neu’ch porwr. Mae’r wefan yn anfon gwybodaeth i’r porwr, sydd wedyn yn creu ffeil testun. Bob tro y byddwch chi'n mynd yn ôl i'r un wefan, mae'r porwr yn adfer ac yn anfon y ffeil hon at weinydd y wefan. Ni all cwcis gael mynediad at, darllen neu addasu unrhyw ddata arall ar eich cyfrifiadur.

Dysgwch mwy am cwcis yn http://www.allaboutcookies.org/.

Sur Rydym Yn Defnyddio Cwcis

Rydym yn defnyddio cwcis a thechnolegau tebyg ar ein gwefannau, fel y mae bron pob gwefan yn ei wneud. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis pan fyddwch yn cael mynediad at rai o'n cynhyrchion a'n gwasanaethau. Mae cwcis yn caniatáu i ni, ymysg pethau eraill, storio eich dewisiadau a'ch gosodiadau, dilysu a'ch mewngofnodi, rhoi profiad personol i chi, cadw ein gwefannau yn ddiogel, a dadansoddi sut mae ein gwefannau a'n gwasanaethau ar-lein yn perfformio.

Mae’r tabl canlynol yn rhoi gwybodaeth ar y mathau o cwcis rydym yn defnyddio ar gyfer ein gwefannau, cynnyrch a gwasanaethau.

Mathau o gwcis y mae Blackboard yn eu defnyddio
Math o Gwcis Disgrifiad
Mewngofnodi a dilysu Mae’r cwcis hyn yn ein helpu i ddilysu chi, eich cadw chi wedi’ch mewngofnodi a phersonoleiddio’r gwasanaethau lle rydych chi’n defnyddio gwefannau a gwasanaethau gydag elfen mewngofnodi, megis Behind the Blackboard a Blackboard Learn.
Dewisiadau a gosodiadau Mae’r cwcis hyn yn ein helpu i gofio’ch gosodiadau a dewisiadau a darparu profiad personol hyd yn oed os nad ydych wedi’ch mewngofnodi. Er enghraifft, gallwn storio pa iaith sydd orau gennych. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis o'r fath i’ch helpu i lenwi ffurflenni ac arolygon yn haws. Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti megis Eloqua, Acquia Lift a GetSiteControl at y dibenion hyn.
Diogelwch Mae cwcis diogelwch yn cefnogi’n nodweddion diogelwch a’n helpu i ganfod gweithgareddau maleisus.
Dadansoddiadau Rydym yn defnyddio cwcis Blackboard a chwcis trydydd parti megis Google Analytics a Siteimprove i gasglu gwybodaeth am weithgareddau defnyddwyr a pherfformiad. Mae hyn yn ein helpu i ddadansoddi a gwella perfformiad ein gwefannau. Mae hefyd yn caniatáu i ni ddeall, gwella ac ymchwilio sut mae ein cynnyrch a’n gwasanaethau yn cael eu defnyddio a’r math o ddyfeisiau rydych yn defnyddio i gael mynediad atynt. Mae’r wybodaeth a dderbyniwn gan y darparwyr trydydd parti yn anhysbys, sy'n golygu na allwn ei holrhain yn ôl i chi. Ar gyfer Google Analytics rydym wedi galluogi Anhysbysiad IP i anhysbysu’ch cyfeiriad IP. Dysgwch fwy am anhysbysiad IP yn Google Analytics.
Rhannu Cymdeithasol Ar rai o'n gwefannau, rydym ni'n defnyddio botymau a chwcis o Facebook, Twitter, LinkedIn, a gwasanaethau cyfryngau cymdeithasol eraill sy'n eich galluogi i rannu cynnwys trwy eu gwasanaethau os ydych chi'n aelod ac wedi mewngofnodi. Efallai y bydd y cwmnïau cyfryngau cymdeithasol hyn yn eich adnabod chi ac yn casglu gwybodaeth am eich ymweliad â'n gwefannau, a gallant osod cwci neu ddefnyddio technolegau tracio eraill. Mae’ch rhyngweithiadau â'r nodweddion hynny'n cael eu llywodraethu gan bolisïau preifatrwydd y cwmnïau cyfryngau cymdeithasol. Darllenwch eu datganiadau preifatrwydd a pholisïau cwcis i ddeall sut maen nhw'n defnyddio'ch gwybodaeth.
Marchnata a hysbysebu

Rydym yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon megis Eloqua i'ch adnabod pan fyddwch chi'n dychwelyd i'n gwefannau ac i ddeall pa dudalennau rydych chi'n ymweld â nhw. Os ydych yn cyflwyno’ch gwybodaeth ar ein tudalennau (megis mewn ffurflen we), byddwn yn cysylltu'r wybodaeth hon â'r wybodaeth sydd wedi'i storio ar y cwci. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i bersonoli'ch profiad ar ein gwefannau a sicrhau ein bod yn cyfathrebu â chi yn y ffordd fwyaf perthnasol bosibl.

Rydym hefyd yn defnyddio cwcis trydydd parti gan wasanaethau megis Google AdWords, Facebook Business, LinkedIn Campaign Manager a Twitter Ads. Mae hyn yn caniatáu i'r gwasanaethau hynny ddangos i chi hysbysebion perthnasol ac ymgyrchoedd gennym ni yn eu hamgylchedd pan wnaethoch chi ymweld ag un o'n gwefannau yn flaenorol. Rydym hefyd yn derbyn gwybodaeth gan rai o'r gwasanaethau hyn ynglŷn â pha rai o'n hysbysebion neu’n hymgyrchoedd yr ydych wedi'u rhyngweithio â hwy. Gallwch ddysgu mwy am sut byddwn yn defnyddio'r cwcis trydydd parti hyn ar gyfer hysbysebu ar-lein a hysbysebu ar sail diddordebau a'ch dewisiadau mewn perthynas â'r gweithgareddau hyn yn adran "Ymgysylltu â'r Cleient & amp; Marchnata" ein Datganiad Preifatrwydd.

Sylwer: Nid ydym yn defnyddio hysbysebu ymddygiadol neu hysbysebu ar sail diddordebau i fyfyrwyr trwy'r cynhyrchion neu'r gwasanaethau a ddarparwn ar ran cleient sefydliad addysgol oni bai bod y cleient yn ein cyfarwyddo i wneud hynny.


Sut i Reoli Cwcis ac Optio Allan

Mae gennych amrywiaeth o offer i reoli ac optio allan o gwcis a thechnolegau tebyg. Er enghraifft, gallwch ddefnyddio rheolaethau porwr i atal a dileu cwcis. Gallwch hefyd ddefnyddio rheolaethau sydd ar gael gan rai darparwyr gwasanaethau dadansoddiadau trydydd parti i optio allan o gasglu data trwy lwybrau gwe a thechnolegau tebyg. Mewn rhai porwyr gallwch osod eich dewisiadau cwcis ar gyfer pob safle, sy'n golygu y gallwch analluogi cwcis yn gyffredinol ond eu galluogi iar gyfer gwefannau rydych chi'n ymddiried ynddynt. Cofiwch efallai na fydd llawer o'n gwasanaethau gweithio'n iawn os byddwch yn analluogi cwcis ar gyfer ein gwefannau neu ein gwasanaethau.

Dysgwch fwy am y gosodiadau cwcis ar gyfer y porwyr mwyaf poblogaidd:

Ar gyfer porwyr eraill, ewch i wefan y darparwr. Dylech ddod o hyd i'r wybodaeth hon trwy chwilio am "[enw’r porwr] cookie settings."

Nid yw rhwystro neu ddileu cwcis yn dileu Gwrthrychau Storio Lleol (LSO) megis gwrthrychau Flash neu HTML5. I reoli gosodiadau a dewisiadau cwcis Flash, rhaid i chi ddefnyddio'r rheolwr gosodiadau ar wefan Adobe. Os byddwch yn dewis dileu gwrthrychau Flash o'n Gwasanaeth, wedyn efallai na fyddwch yn gallu cael mynediad at a defnyddio’r Gwasanaeth cyfan neu ran ohono neu elwa o'r wybodaeth a'r gwasanaethau a gynigir.

I gael gwybodaeth am sut bydd Google Analytics yn casglu ac yn prosesu data, yn ogystal â sut y gallwch reoli gwybodaeth a anfonir at Google, edrychwch ar yr adran "How Google uses data when you use our partners' sites or apps" ar wefan Google. Dysgfwch fwy am y dewisiadau optio allan sydd ar gael ar hyn o bryd gan Google Analytics, gan gynnwys Ychwanegyn Porwr Google Analytics.

I ddysgu mwy am eich dewisiadau optio allan ar gyfer hysbysebu ar-lein a hysbysebu ar sail ddiddordebau, edrychwch ar adran Ymgysylltu â Chleient & a Marchnata ein Datganiad Preifatrwydd.


Rhagor o Wybodaeth

Dysgwch fwy am sut rydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol yn ein Datganiad Preifatrwydd. Mae gennym hefyd Ganolfan Preifatrwydd sy'n esbonio ein hymagwedd at breifatrwydd data ac yn darparu adnoddau pellach.

Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â ni yn [email protected]. Am ragor o opsiynau cysylltu, gweler ein Datganiad Preifatrwydd.

Diweddarwyd y Datganiad hwn ddiwethaf ar 10 Rhagfyr 2020.

Gosodiadau Cwcis