Mae Geiriadur Data Blackboard Data Developer yn cyflwyno diffiniadau tablau a cholofnau mewn fformat hawdd ei ddarllen. Defnyddiwch yr adnodd hwn i greu adroddiadau. Dysgu am ffynhonnell, defnydd a pherthnasau'r endidau sydd ar gael.
Dyma rai pethau y dylech eu gwybod am Eiriadur Data Blackboard.
- Mae cofnodion yn cynnwys tablau a cholofnau.
- Mae is-fodelau yn grwpio cofnodion cysylltiedig.
- Mae Blackboard Data yn defnyddio storfa ddata Snowflake.
Ewch i wefan dogfennaeth Snowflake i gael tiwtorialau a chymorth gyda phob gorchymyn, swyddogaeth a gweithredydd SQL a gefnogir.
Cofnod
Mae cofnodion yn cynnwys tablau a cholofnau. Dewiswch gofnod i weld y diffiniad, manylebau technegol, a pherthnasau endidau ar gyfer y cofnod.
- Eicon tic dilyswyd : Gweld ar gipolwg a yw cofnod wedi'i fapio a'i ddilysu yn ôl yr argymhelliad.
- Diffiniad y Cofnod: Mae'n disgrifio'r tabl neu'r golofn mewn fformat hawdd ei ddarllen.
- System Ffynhonnell: Mae'n nodi o ble mae'r wybodaeth yn dod. Er enghraifft, Blackboard Learn.
- Gwrthrychau Ffynhonnell: Mae'n nodi'r sgema, tabl a cholofn y mae'r data yn dod ohonynt.
- Cyd-destun: Mae'n nodi lle y defnyddir cofnodion. Er enghraifft, mewn cwrs neu sesiwn defnyddiwr.
- Gall y Golofn fod yn Nwl: Mae'n nodi a all data'r golofn fod yn Nwl.
- Mae'r Golofn yn Hunaniaeth: Mae'n nodi a yw'r golofn yn golofn hunaniaeth.
- Math o Ddata'r Golofn: Y math o ddata sydd yn y golofn.
- Perthnasau Endidau: Mae'r Diagramau Perthnasau Endidau (ERD) yn dangos y perthynas a llif y data yn y gronfa ddata i chi. Mae ERD Blackboard Data yn defnyddio nodiannau traed brân i ddangos y perthnasau i chi.
Gallwch ddefnyddio'r dewisydd iaith i ddewis eich dewis iaith. Mae termau nad ydynt wedi'u lleoleiddio ar hyn o bryd a byddant yn parhau i fod yn Saesneg ar ôl i chi ddewis iaith arall. Caiff y fersiwn wedi'i leoleiddio o'r termau hyn ei gyflenwi'n raddol drwy gydol 2021 a 2022.
Diagram Perthnasau Endidau
Mae Diagramau Perthnasau Endidau (ERD) yn dangos y perthynas a llif y data i chi.
Gellir rhyngweithio â'r ERD.
- Dewiswch dabl neu golofn i amlygu'r perthnasau.
- Dewiswch y ddolen wrth ochr enw tabl neu golofn i weld diffiniad y cofnod hwnnw.
- Dewiswch Sgrin lawn , os hoffech gael gwedd fwy.
- Symudwch eich cyrchwr dros yr eicon gwybodaeth i weld allwedd eiconau ERD.
- Defnyddiwch yr offeryn Chwilio i ganfod tabl yn yr ERD.
- Defnyddiwch ddau fys neu'ch olwyn sgrolio i nesáu at yr ERD neu bellhau oddi wrtho.
- Pwyswch Ctrl a dewis yr ERD i'w symud. Ar Mac, pwyswch Command a dewis yr ERD.
Mae'r ERD yn defnyddio nodiannau traed brân i ddangos perthnasau.
Lleoleiddio
Gallwch ddefnyddio'r dewisydd iaith i ddewis eich dewis iaith. Er hynny, mae termau nad ydynt wedi'u lleoleiddio ar hyn o bryd a byddant yn parhau i fod yn Saesneg ar ôl i chi ddewis iaith arall. Caiff y fersiwn wedi'i leoleiddio o'r termau hyn ei gyflenwi'n raddol drwy gydol 2021 a 2022, ac eithrio termau'r Geiriadur Data sy'n gysylltieidig â'r meysydd hyn, a fydd yn parhau i fod yn Saesneg:
-
Disgrifiad o'r cofnod
-
Gall y Golofn fod yn Nwl
-
Mae'r Golofn yn Hunaniaeth
-
Math o Ddata'r Golofn