Mae'r adroddiad Mabwysiadu'r AI Assistant yn eich helpu i ddeall ac ateb:
- Sut mae'r AI Design Assistant yn cael ei ddefnyddio?
- Faint o gyrsiau sy'n defnyddio'r AI Design Assistant?
- Faint o ddefnyddwyr sy'n defnyddio'r AI Design Assistant?
- Faint o eitemau cwrs sydd wedi'u creu gan ddefnyddio'r AI Design Assistant?
- Pa gyfran o gyrsiau sy'n defnyddio'r AI Design Assistant?
- Faint o gyrsiau sy'n defnyddio'r AI Design Assistant a faint o gyrsiau nad ydynt yn ei ddefnyddio?
- Sut mae'r AI Design Assistant yn cael ei ddefnyddio i greu eitemau cwrs?
- Pa ganran o eitemau sydd wedi'u creu gan ddefnyddio'r AI Design Assistant o'i chymharu ag eitemau a grëwyd heb yr AI Design Assistant?
- Pa ganran o eitemau cwrs sydd wedi'u creu gan ddefnyddio'r AI Design Assistant ar gyfer pob math o eitem gwrs?
- Sut mae'r AI Design Assistant yn cael ei ddefnyddio dros amser?
- Beth yw'r cyfanswm o eitemau cwrs a grëwyd gan ddefnyddio neu heb yr AI Design Assistant o fewn ystod dyddiadau a ddewiswyd?
- Sut mae'r AI Design Assistant yn cael ei ddefnyddio yn ôl Nod Hierarchaeth Sefydliadol?
- Faint o gyrsiau a grëwyd gan ddefnyddio a heb yr AI Design Assistant yn ôl nod hierarchaeth sefydliadol?
- Faith o eitemau cwrs a grëwyd gan ddefnyddio a heb yr AI Design Assistant yn ôl nod hierarchaeth sefydliadol?
- Sut mae'r AI Design Assistant yn cael ei ddefnyddio mewn cyrsiau?
- Beth yw'r cyfanswm o eitemau cwrs a grëwyd gan ddefnyddio a heb yr AI Design Assistant yn ôl rhif adnabod cwrs, enw cwrs, a math o eitem gwrs o fewn ystod dyddiadau a ddewiswyd?
- Sut mae'r AI Design Assistant yn cael ei ddefnyddio gan hyfforddwyr?
- Faint o gyrsiau sy'n defnyddio'r AI Design Assistant fesul hyfforddwr?
- Beth yw'r cyfanswm o eitemau cwrs a grëwyd gan bob hyfforddwr gan ddefnyddio'r AI Design Assistant?
Ffynhonnell Ddata: Blackboard Learn
Cyrchu'r Adroddiad
Ar hafan Illuminate, dewiswch Mynd i Adroddiadau. Dewiswch faes effaith Addysgu. Gallwch nawr fynd i'r adroddiad Mabwysiadu AI Design Assistant drwy ddewis y teitl.
Mae'r adroddiad hwn dim ond ar gael i sefydliadau yn y Garfan Rhagolwg ar hyn o bryd.
Defnyddio Rheolyddion
Gallwch ddefnyddio'r adran Rheolyddion i hidlo a mireinio'r data a ddangosir ym mhob tab adroddiad yn seiliedig ar eich anghenion. Mae gan bob tab set benodol o Reolyddion neu hidlyddion y gallwch eu defnyddio. Gallwch fynd yn ôl unrhyw bryd i ailosod eich rheolyddion.
Cael disgrifiad mwy manwl o bob rheolydd yn ein Hadran Rheolyddion Rhestr Termau Adroddiadau Anthology Illuminate.
Mabwysiadu'r AI Design Assistant
Mae'r adroddiad Mabwysiadu'r AI Design Assistant yn rhoi trosolwg o sut mae cyrsiau ac eitemau cwrs yn defnyddio creu â chymorth AI dros amser. Mae'r adroddiad hefyd yn dangos sut mae hyfforddwyr yn defnyddio creu â chymorth AI.
Marcir patrymau gweledol a cholofnau tabl sy'n cynnwys data SIS â diemwnt glas.
Mae hidlo gweledol ar gael ar gyfer pob siart a thabl. Nid yw hidlo gweledol ar gael ar gyfer KPIs.
Faint o gyrsiau, defnyddwyr ac eitemau cwrs sy'n defnyddio'r AI Design Assistant?
Mae'r KPIs hyn yn cymharu'r defnydd o'r AI Design Assistant dros yr wythnos bresennol a'r wythnos flaenorol. Mae'r dyddiadau a ddangosir yn ddeinamig a byddant yn newid yn seiliedig ar yr ystod dyddiadau a ddewiswyd yn y rheolyddion. Mae'r KPIs hefyd yn dangos y cynnydd neu ostyngiad canrannol o ran defnydd rhwng y ddwy wythnos.
Pa gyfran o gyrsiau sy'n defnyddio'r AI Design Assistant?
Mae'r siart toesen hwn yn cyfrif y nifer o gyrsiau sy'n defnyddio'r AI Design Assistant a'r nifer o gyrsiau nad ydynt yn ei ddefnyddio. Cyfrifir y ganran o gyrsiau ar bob cyfrif.
Sut mae'r AI Design Assistant yn cael ei ddefnyddio i greu eitemau cwrs?
Mae'r siart bar stac hwn yn cymharu'r ganran o eitemau a grëwyd gan ddefnyddio a heb yr AI Design Assistant ar gyfer pob math o eitem gwrs.
Gallwch ddewis a llusgo'r llithrydd ar waelod y siart bar i ganolbwyntio ar fath penodol o eitem gwrs.
Sut mae'r AI Design Assistant yn cael ei ddefnyddio dros amser?
Mae'r siart cyfunol hwn yn dangos y cyfanswm o eitemau cwrs a grëwyd gan ddefnyddio'r AI Design Assistant o fewn yr ystod dyddiadau a ddewisoch. Mae'r llinell yn dangos y ganran o eitemau cwrs a grëwyd gan ddefnyddio'r AI Design Assistant allan o'r cyfanswm o eitemau cwrs a grëwyd.
Gallwch ddewis a llusgo'r llithrydd ar waelod y siart bar i ganolbwyntio ar ystod dyddiadau benodol.
Sut mae'r AI Design Assistant yn cael ei ddefnyddio yn ôl Nod Hierarchaeth Sefydliadol?
Mae'r siart bar stac hwn yn cymharu'r nifer o gyrsiau a grëwyd gan ddefnyddio a heb yr AI Design Assistant yn ôl nod hierarchaeth sefydliadol. Mae'r siart bar yn dangos y cyfanswm o gyrsiau a grëwyd o fewn yr ystod dyddiadau a ddewisoch. Os byddwch yn cael gwedd fanwl, byddwch yn gweld y ganran o eitemau cwrs yn ôl y math a grëwyd gan ddefnyddio a heb yr AI Design Assistant.
Sut mae'r AI Design Assistant yn cael ei ddefnyddio mewn cyrsiau?
Mae'r tabl hwn yn dangos y cyfanswm o eitemau cwrs a grëwyd yn ôl rhif adnabod cwrs, enw cwrs, a math o eitem gwrs o fewn yr ystod dyddiadau a ddewisoch. Mae pob rhes yn dangos y nifer o eitemau cwrs sydd ar gael ac nad ydynt ar gael a grëwyd gan ddefnyddio'r AI Design Assistant.
Sut mae'r AI Design Assistant yn cael ei ddefnyddio gan hyfforddwyr?
Mae'r tabl hwn yn defnyddio'r nifer o gyrsiau fesul hyfforddwr ac yn dangos y cyfanswm o eitemau cwrs a grëwyd gan bob un ohonynt. Mae hyn dim ond ar gyfer eitemau cwrs sy'n defnyddio'r AI Design Assistant.
Gallwch anfon neges e-bost at hyfforddwyr yn uniongyrchol o bob rhes.