Mae'r Adroddiad Crynodeb Myfyriwr yn darparu gwybodaeth fanwl y gellir ei gweithredu am un myfyriwr ar draws pob un o'i gyrsiau.
Gellir ehangu rhai o'r derminoleg a ddefnyddir yn yr adroddiad yn ein Rhestr Termau.
Ffynhonnell Ddata: Blackboard Learn.
Defnyddio Rheolyddion
Yn wahanol i adroddiadau eraill, nid yw'r adroddiad hwn wedi'i hidlo ymlaen llaw; mae wedi'i osod er mwyn i chi greu adroddiad sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr. Yr unig beth mae angen i chi ei wneud yw dewis yr hidlyddion i nodi'r myfyriwr penodol rydych eisiau ei adolygu a'r gweithgaredd ffâm amser penodol.
Gallwch ddewis gweld gweithgarwch y myfyriwr gan ddefnyddio:
- Yr hidlydd Dangos Gweithgarwch o fewn sy'n caniatáu i chi:
- Weld holl weithgarwch myfyrwyr
Agor y posibilrwydd o ddewis ystod dyddiadau benodol
Pan fyddwch yn dewis ystod dyddiadau benodol, bydd y ffrâm amser honno dim ond yn berthnasol i batrymau data sydd wedi'u marcio â'r eicon hwn: 🗓️
- Yr hidlydd Dangos Cyrsiau o fewn Tymhorau, sy'n rhestru dim ond y tymhorau sy'n gysylltiedig â chyrsiau mae'r myfyriwr penodol wedi cofrestru arnynt. Byddai hyn yn hidlo'r holl batrymau data i gynnwys data o gyrsiau yn y tymor/tymhorau a ddewiswyd yn unig.
Cael disgrifiad mwy manwl o bob rheolydd yn ein Hadran Rheolyddion Rhestr Termau Adroddiadau.
Tab Trosolwg
Mae'n crynhoi gweithgarwch cyffredinol myfyriwr dros amser. Defnyddiwch yr hidlyddion uchod i ddangos holl weithgarwch y myfyriwr neu o fewn ystod dyddiadau benodol.
Rhai o'r pwyntiau data allweddol yn y tab hwn:
- Amser mewn cyrsiau o'i gymharu â chyd-fyfyrwyr
- Math o gymwysiadau
- Defnydd Fformatau Amgen
- Statws cyflwyniadau ym mhob cwrs
Nodiadau ar gyfer y tab hwn:
- Anfon e-bost: gallwch ddefnyddio'r ddolen e-bost yn y rhes Cyfeiriad E-bost Myfyriwr (yn y tabl Gwybodaeth am y Myfyriwr) i anfon e-bost at fyfyriwr. Unwaith eich bod wedi dewis y ddolen e-bost, cewch eich ailgyfeirio at eich ffurfweddiad e-bost rhagosodedig.
- Yn y map gwres am amlder mynediad:
- Gweld cyfanswm y mynediadau drwy gydol y ffrâm amser rydych wedi'i dewis ac am bob diwrnod o'r wythnos mewn cynyddiadau dwy awr.
- Mae arlliwiau glas mwy tywyll yn dynodi mwy o weithgarwch yn ystod y ffrâm amser honno, gan ddefnyddio cylchfa amser y sefydliad.
- Pan fo diwrnod ar goll, mae'n golygu nad oes unrhyw weithgarwch gan fyfyrwyr yn yr LMS.
Tab Ymgysylltiad a Pherfformiad
Adnabod sut mae'r myfyriwr yn ymgysylltu â chyrsiau a sut mae perfformiad ar raddau yn cydberthyn i'r math o weithgaredd. Mae ymgysylltiad a pherfformiad myfyrwyr o'u cymharu â chyd-fyfyrwyr yn seiliedig dim ond ar y cyrsiau mae'r myfyriwr wedi cofrestru arnynt ac mae eu cyd-fyfyrwyr wedi cofrestru arnyn hefyd.
Rhai o'r pwyntiau data allweddol yn y tab hwn:
- Cyfradd cyfranogi o'i chymharu â chyd-fyfyrwyr
- Lefel ymgysylltiad (mynediad i eitemau) o'i gymharu â chyd-fyfyrwyr
- Prydlondeb cwblhau asesiadau
- Gweithgarwch a pherfformiad (graddau) ym mhob cwrs o'u cymharu â chyd-fyfyrwyr
- Cynnydd manwl fesul cwrs a fesul asesiad
Nodiadau ar gyfer y tab hwn:
- Mae asesiadau'n cynnwys unrhyw beth mae angen ei raddio ac sydd â dyddiad cyflwyno: aseiniadau, profion, arolygon, neu hyd yn oed trafodaethau, blogiau a dyddlyfrau.
- Yn y tabl diwethaf am Sut mae ymgysylltiad a pherfformiad y myfyriwr fesul cwrs:
- Mae cynnydd asesiad yn cael ei fesur yn ôl y ganran o asesiadau sydd â chyflwyniadau o'i gymharu â chyfanswm asesiadau.
- Mae top y tabl yn dangos cyfansymiau'r colofnau: swm pan fydd y golofn yn dangos rhifau absoliwt a chyfartaledd pan fydd y golofn yn dangos canrannau.
- Mae amser mae'r myfyriwr wedi'i dreulio mewn cwrs, cyfanswm y cyflwyniadau, a metrigau cyfanswm rhyngweithiadau yn seiliedig ar chwartelau. Mae modd adnabod chwartelau yn ôl:
- X: chwartel cyntaf
- I: ail chwartel
- II: trydydd chwartel
- III: pedwerydd chwartel
Tab Cofnodydd Gweithgarwch
Mae'n darparu golwg fanwl o weithgarwch gronynnog y myfyriwr o fewn ffrâm amser benodol, gan gynnwys math o gwrs a gweithgaredd (fel cyflwyniadau), sy'n caniatáu i chi adnabod patrymau ac adnabod newidiadau dros amser a datrys problemau.
Rhai o'r pwyntiau data allweddol yn y tab hwn:
- Gweithgarwch yn ôl math o ddigwyddiad (mynediad, cyflwyniadau, cliciau)
- Gweithgarwch dros amser
- Log gweithgarwch
Nodyn ar gyfer y tab hwn:
- Hidlydd Math o Ddigwyddiad: yn y tab hwn, gallwch ddewis dangos dim ond data sy'n gysylltiedig ag un math o ddigwyddiad:
- Cyrchu cwrs
- Cyrchu eitem
- Mewngofnodi
- Allgofnodi
- Cyflwyniad
- Cyfanswm Mynediad
- Clicio Ultra