Banner mentioning that Blackboard Data is evolving to Anthology Illuminate

Dysgu mwy am Anthology Illuminate

Archwilio eich data sefydliadol drwy ofyn cwestiynau sy'n ymwneud ag agweddau hanfodol o'r profiad myfyriwr a chael atebion gweledol mae modd eu haddasu. Gallwch adnabod tueddiadau a phatrymau yn eich data yn gyflym a rhannu'ch mewnwelediadau'n hawdd â phobl eraill. Ewch i'r pwnc "Nodyn Tryloywder AI" i ddysgu mwy am sut mae AI yn cael ei ddefnyddio o fewn Data Q&A. 

Sylwer bod Data Q&A ar gael yn Saesneg yn unig.

Gyda Data Q&A gallwch:  

  • Ateb cwestiynau am ddata'r sefydliad gan ddefnyddio AI i ofyn cwestiynau mewn iaith naturiol.
  • Cyflwyno atebion i'r cwestiynau hynny mewn ffordd ystyrlon gan ddefnyddio gwahanol mathau o batrymau data.
  • Pinio patrymau cwestiynau cyffredin mewn dangosfyrddau wedi'u personoli er mwyn cael mynediad sydyn iddynt.
  • Cael mynediad i opsiynau hidlo uwch, rhagolygon, a chwestiynau rhagnodol.
  • Gofyn cwestiynau a chael atebion gan ddibynnu ar hierarchaeth a rôl sefydliadol y defnyddiwr.
Landing page for Data Q and A, with the search field at the top

Beth sydd ei angen?

Er mwyn cael Data Q&A, mae angen y rhagofynion canlynol ar eich enghraifft Illuminate: 

  1. Mabwysiadwch y Dilysiad Sefydliadol
  2. Optiwch i mewn i AI cynhyrchiol. 
    • Mewngofnodwch fel defnyddiwr â'r rôl Datblygwr Illuminate yn Blackboard. 
    • Agorwch y panel ochr a dewiswch Gosodiadau
    • Ewch i'r tab Gosodiadau Cyffredinol
    • Dewiswch Optio i mewn i alluoedd AI cynhyrchiol

Yn ddiofyn, mae'r opsiwn galluoedd AI cynhyrchiol wedi'i ddiffodd.

Settings screen, with the toggle for Generative AI capabilities highlighted
  1. Dim ond defnyddwyr sydd â mynediad data heb gyfyngiad sy'n cael defnyddio Data Q&A. Gallwch reoli'r fraint hon yn eich gosodiadau. 
    • Mewngofnodwch fel defnyddiwr â'r rôl Datblygwr Illuminate yn Blackboard. 
    • Agorwch y panel ochr a dewiswch Gosodiadau
    • Ewch i'r tab Rheoli Trwyddedau
    • Chwiliwch am y defnyddiwr rydych eisiau addasu breintiau ar ei gyfer a dewis Golygu.
License management screen, with the pencil icon for Edit highlighted
  • Dan y gwymplen Caniatâd Adroddiad, dewiswch Data Heb Gyfyngiad, dewis Ychwanegu, ac wedyn dewis Cadw.
Report Permissions screen, with Data Unrestricted highlighted in the dropdown

Nid oes gan ddefnyddwyr sydd â chaniatâd Data Cyfyngedig a Mynediad yn Seiliedig ar Rôl ar waith fynediad at Data Q&A.


Pa fath o gwestiynau i'w ofyn:  

Cwestiynau sy'n helpu i gael mewnwelediadau mawr o'ch data sefydliadol, gallwch ofyn am: 

  • Tueddiadau gweithgarwch myfyrwyr
  • Cymharu myfyrwyr â chyd-fyfyrwyr cwrs
  • Ymgysylltiad myfyrwyr â chyrsiau
  • Perfformiad myfyrwyr

Gallwch hefyd gael eich ysbrydoli gan un o'r cwestiynau sampl hyn: 

  • Pa fyfyrwyr sydd â graddau sy'n methu?
  • Beth yw graddau'r myfyriwr ar gyfartaledd ym mhob cwrs wedi'u cymharu â'u cyd-fyfyrwyr?
  • Beth yw'r oriau cyfartalog a dreulir mewn cwrs wythnosol fesul cwrs fesul myfyriwr?
  • Pa fyfyrwyr nad ydynt wedi cael mynediad i'w cyrsiau yn ystod y 3 wythnos diwethaf?
  • Pa fyfyrwyr sydd â gweithgarwch sy'n gollwng?
  • Pa fyfyrwyr sydd â'r ymgysylltiad lleiaf?
  • Pa gyfran o fyfyrwyr sydd â graddau sydd ar neu'n fwy na, ac yn llai na'r ffin raddau?
  • Sut mae gweithgarwch a pherfformiad y myfyriwr ym mhob cwrs o'u cymharu â chyd-fyfyrwyr?
  • Beth yw cyfradd cyfranogiad y myfyriwr o'i chymharu â chyd-fyfyrwyr?
  • Beth yw'r lefel o ymgysylltiad â chynnwys cwrs fesul myfyriwr?

Sut i ryngweithio â Data Q&A: 

Dewis y pwnc

O far Data Q&A, defnyddiwch y gwymplen a dewis y pwnc sydd ar gael yr hoffech ofyn amdano. Mae'r pwnc enghreifftiol Ymgysylltiad a Pherfformiad Myfyrwyr, eisoes wedi'i ddewis i chi.

A sample visualization page for an institution

Rhoi cwestiwn

O far Data Q&A, rhowch eich cwestiwn i gynhyrchu ateb gweledol personol.

The search field of Data Q & A, showing a dropdown offering different endings to a question

Adolygu sut cafodd eich cwestiwn ei ddehongli 

Dan eich cwestiwn, gallwch ddod o hyd i ddisgrifiad o'r patrwm data.

Explanation below a query in the Data Q and A search field

Gallwch hefyd fynd i'r tri dot yn newislen dde y patrwm data a dewis Gweld esboniad i weld disgrifiad manylach o sut adeiladwyd yr ateb gweledol.

The View explanation dropdown at the top right of a visualization

Newid mathau gweledol 

Ar ôl i chi gael ateb gweledol personol, ewch i'r ddewislen â thri dot yn y gornel dde uchaf, dewis eicon y siart bar, a newid y mathau gweledol cynifer o weithiau yn ôl yr angen i ddod o hyd i'r ateb gweledol mwyaf priodol ar gyfer eich cwestiwn.

Options for different types of visualization in graphical format

Ychwanegu eich atebion gweledol personol at binfwrdd

Gallwch binio ateb gweledol defnyddiol a dod yn ôl iddo'n hawdd yn nes ymlaen ym mhinfwrdd eich sefydliad. Gallwch ychwanegu neu dynnu atebion ar unrhyw bryd. Gallwch binio'ch hoff batrymau er mwyn gweld data wedi'i ddiweddaru heb orfod gofyn yr un cwestiwn dro ar ôl tro.

Yn newislen y patrwm gweledol yn y gornel dde uchaf, dewiswch y tri dot ac wedyn eicon y pinfwrdd i binio'r patrwm gweledol presennol. Gallwch ddod o hyd i bob un o'ch pinnau'n nes ymlaen drwy ddewis eicon y pinfwrdd uwchben y maes cwestiwn ar frig y sgrin.

Top right menu of a visualization with the Add to pinboard option highlighted

Newid enw'r patrwm gweledol 

Ewch i un o'r patrymau gweledol a biniwyd. Yn y ddewislen â thri dot yn y gornel dde uchaf, dewiswch Ailenwi a rhowch y teitl newydd.

Rename option at the top right of a pinned visualization

Allgludo fel CSV

Yn yr ateb gweledol presennol neu drwy fynd i'ch pinfyrddau, ewch i'r ddewislen â thri dot a dewis Allgludo fel CSV .

Export to CSV option at top right of a donut chart visualization

Rhoi adborth

Pryd bynnag y bydd ateb gweledol yn ddefnyddiol neu'n annefnyddiol, dewiswch y botwm Adborth i rannu bawd i fyny neu fawd i lawr ar gyfer perchnogion y pwnc. Gallwch ddarparu manylion ychwanegol.

Feedback option shown above the search field