Banner mentioning that Blackboard Data is evolving to Anthology Illuminate

Dysgu mwy am Illuminate


Fersiynau Illuminate

Mae Anthology Illuminate yn blatfform "rhanwedd" sy'n darparu rhai nodweddion i gleientiaid Learn SaaS yn safonol a chyfres o uwchraddiadau premiwm modiwlaidd i'r sefydliadau hynny a hoffai fynd â gwneud penderfyniadau'n seiliedig ar ddata ymhellach. Mae'r nodweddion sydd ar gael i gleientiaid Learn SaaS cymwys yn cael eu cynnwys mewn pecyn o'r enw Illuminate Included, ac mae'r uwchraddiadau premiwm yn cael eu cynnig fel modiwlau ar wahân dan yr enw Illuminate Enhanced. Mae'r dudalen help hon yn rhoi manylion am y gwahanol nodweddion sydd wedi'u cynnwys ym mhob haen a modiwl.

 

Illuminate Included

Mae Illuminate Included yn darparu'r swyddogaethau canlynol ar draws dwy haen sef Datblygwr ac Adroddiadau:

Datblygwr

  • Model Data Canonaidd (CDM) sy'n cyfuno data o ar draws eich datrysiadau Anthology trwyddedig cymwys ac yn ei ailstrwythuro ar gyfer ymholiadau haws.
  • Geiriadur Data  sy'n darparu gwybodaeth fanwl am bob tabl a cholofn yn y model data canonaidd a'r Diagramau Perthnasau Endidau (ERDs) rhyngweithiol.
  • Mynediad at ddata Telemetreg o'r datrysiadau Anthology trwyddedig cymwys sy'n darparu data ffrwd clicio mwy gronynnol.
  • Mynediad darllen yn unig ac uniongyrchol i ymholi'r gronfa ddata hon gan ddefnyddio SQL safonol yn Snowflake.
  • Cyfrif gwasanaeth a hunan-reolir y mae modd ei ddefnyddio i gysylltu â datrysiadau trydydd parti, fel offer BI i Snowflake.
  • 350 o gredydau Snowflake y mis.
    • Mae credyd Snowflake yn gydwerth ag oddeutu awr o brosesu ymholiadau yn Snowflake, ac felly darperir dros 11 awr y dydd o amser prosesu yn y cwota hwn.
    • Dangosir nifer y credydau sy'n weddill yn y mis presennol ar y dudalen Gosodiadau.

Er bod Snowflake yn cael ei ddefnyddio i ddarparu buddion Datblygwr Illuminate, nid yw'r holl nodweddion Snowflake ar gael nac yn cael eu cefnogi.

Os rydych yn defnyddio'r 350 o gredydau Snowflake i gyd, ni allwch redeg ymholiadau nes i'r nifer o gredydau ailosod ar ddiwedd y mis.


Adroddiadau

  • Cyfres o adroddiadau parod sydd wedi'u dylunio i gefnogi gwneud penderfyniadau'n seiliedig ar ddata gan ddefnyddwyr fel rheolwyr academaidd, arweinyddwyr EdTech a chymorth i fyfyrwyr.
  • 30 trwydded sedd Gwyliwr ar gyfer mynediad darllen yn unig i'r adroddiadau.
  • Mynediad yn Seiliedig ar Rolau sy'n galluogi mynediad diogel cyfyngedig i adroddiadau yn seiliedig ar rôl defnyddiwr yn y sefydliad (e.e. gall Deon y Dyniaethau gael mynediad i ddim ond data o gyrsiau'r Dyniaethau)
  • Y gallu i allgludo data o bob patrwm mewn dangosfwrdd.
  • Nodwedd Data Q&A sy'n galluogi Gwylwyr ac Awduron i archwilio'r data sydd ar gael ar draws "pynciau" wedi'u curadu a chynhyrchu patrymau gweledol i ateb eu cwestiynau mewn amser real a heb arbenigedd technegol.
  • Ar hyn o bryd, darperir un pwnc - Gweithgarwch, Ymgysylltiad a Pherfformiad Myfyrwyr

Fel mesur lleihau costau, os nad yw Adroddiadau Illuminate yn cael ei gyrchu am 30 diwrnod, bydd y system yn mynd i mewn i'r "modd cysgu", ac mae'n rhaid ei "deffro" pan fydd defnyddiwr yn ceisio cael mynediad i adroddiad.


Galluoedd y Platfform

  • Dilysiad Sefydliadol (Mewngofnodi Unwaith) gan ddefnyddio'ch dewis o SAML neu Learn fel darparwr hunaniaeth.
  • Rolau system i reoli pwy sy'n gallu cael mynediad i Adroddiadau, Datblygwr a nodweddion eraill.

Gall Anthology newid nodweddion Illuminate Included fel y mynno.

 

Illuminate Enhanced

Mae'r modiwlau premiwm canlynol ar gael i gleientiaid eu defnyddio â thrwydded, ac maent yn darparu swyddogaethau ychwanegol ar ben Illuminate Included. Diweddarir y dudalen hon wrth i fodiwlau a nodweddion newydd gael eu rhyddhau.

Adroddiadau Enhanced

  • Seddi Gwylwyr ychwanegol yn seiliedig ar faint y pecyn a brynwyd er mwyn galluogi defnyddio adroddiadau parod Included yn ehangach.
  • Nifer o seddi Awdur yn seiliedig ar faint y pecyn a brynwyd sy'n galluogi creu adroddiadau/dangosfyrddau personol y mae modd eu defnyddio ochr yn ochr ag adroddiadau parod Included.
  • Y gallu i Wylwyr ac Awduron greu Tanysgrifiadau a Rhybuddion mewn adroddiadau parod ac adroddiadau personol.

Ar ben hynny, nid yw'r modd cysgu (a ddisgrifir uchod) yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Adroddiadau Enhanced.

Pecynnau

Mae'r wybodaeth ganlynol yn esbonio'r modiwlau a phecynnau sydd ar gael ar hyn o bryd i'w prynu yn Illuminate Enhanced, a sut maent yn eu cymharu â nodweddion a hawliau Illuminate Included.

FersiwnIncluded

Enhanced

Pecyn

Ysgafn

Safonol

Pro

Menter

Cofnodion parod*YesYesYesYesYes
Adroddiadau wedi'u Rhannu'n AdrannauYesYesYesYesYes
Data Q&AYesYesYesYesYes
Creu Adroddiadau PersonolNoYesYesYesYes
Seddi Awduron0251020
Seddi Gwylwyr3050100200500

*Mae'r adroddiadau a gynhwysir yn safonol ar draws pob maint pecyn