Gosodiadau 

Yn yr ardal Gosodiadau, gallwch adolygu statws eich cyfrif gwasanaeth, galluogi cyfrifon gwasanaeth, neu newid cyfrinair eich cyfrif gwasanaeth.


Gosodiadau cyfrif Snowflake 

  1. Mewngofnodwch i Anthology Illuminate. 
  2. Dewiswch opsiwn y ddewislen.
  3. Dewiswch Gosodiadau
  4. Dan Gosodiadau Cyfrif Snowflake, dewch o hyd i'r golofn Statws Cyfrif Gwasanaeth.
The Service Account List, with Service Account Status highlighted

Mae Statws Cyfrif Gwasanaeth yn dangos a yw'r cyfrif wedi'i alluogi neu wedi'i analluogi.


Galluogi cyfrif gwasanaeth 

Os yw eich cyfrif wedi'i analluogi ac rydych eisiau ei alluogi, bydd yn rhaid i chi newid cyfrinair y cyfrif gwasanaeth. 

Gosodiadau i integreiddio â systemau eraill 

Gallwch ddefnyddio eich Cyfrif Gwasanaeth i integreiddio â systemau eraill. 

Bydd y cyfrifon unigol dim ond yn gweithio gyda'r Consol Snowflake mewn porwr a data.blackboard.com

Gellir cael eich cyfrif gwasanaeth o Anthology Illuminate, fel y'i esboniwyd uchod. 

Gosodiadau Snowflake 

Gallwch ddod o hyd i'r gosodiadau pan fyddwch wedi mewngofnodi i Snowflake:

  • Gweinydd: eich URL Snowflake. Er enghraifft, oha52661.snowflakecomputing.com.  
  • Warws: yn adran Cyd-destun yr UI Snowflake, fel arfer BLACKBOARD_DATA_WH. 
  • Cronfa Ddata: yn y panel ar y chwith lle rhestrir y sgemâu. 

Gallwch dde-glicio a dewis Enw'r Lle yn SQL er mwyn ei gopïo'n haws. Er enghraifft, BLACKBOARD_DATA_512586BFD5794746B0E5D14CB8322067.


Newid cyfrinair cyfrif gwasanaeth 

Cadw golwg ar y nifer o ddiwrnodau cyn i gyfrinair eich cyfrif gwasanaeth ddod i ben a'r dyddiad dod i ben. Mae'n rhaid i chi newid eich cyfrinair mewn pryd. 

Mae'n rhaid i'ch cyfeiriad IP beidio â bod ar restr gyfyngedig yn eich cyfrif gwasanaeth Snowflake. Ewch i'n tudalen ar gyfyngiad cyfeiriad IP i ddysgu mwy. 

  1. Mewngofnodwch i Anthology Illuminate. 
  2. Dewiswch opsiwn y ddewislen. 
  3. Dewiswch Gosodiadau
  4. Dan Gosodiadau Cyfrif Snowflake, dewiswch Newid Cyfrinair
  5. Cewch eich ailgyfeirio at Snowflake i gwblhau newid eich cyfrinair. 
  6. Dewiswch Ie i barhau. 

Gall meddalwedd sganio URLau, megis meddalwedd wrthfirysau, rwystro eich mynediad at ddolen ailgyfeirio Snowflake. Ni fydd hyn yn caniatáu i chi gwblhau newid y cyfrinair. Rhowch gynnig ar borwr arall nad yw'n defnyddio'r feddalwedd hon neu newid gosodiadau eich meddalwedd wrthfirysau.


Rheoli Trwyddedau 

Mae Rheoli Trwyddedau yn rhoi trosolwg o ddefnydd y drwydded, mynediad defnyddwyr, a'u statws yn y mis presennol.

License management tab in Settings

Dim ond ar gael ar gyfer sefydliadau sydd â Dilysiad Sefydliadol. 

Yn y panel ar y chwith, ewch i Datblygwr ac wedyn Gosodiadau. Yn y tab cyntaf, Rheoli Trwyddedau, gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanwl. 

  • Trwyddedau a defnyddir o'u cymharu â'r cyfanswm: Trwyddedau a ddefnyddir allan o'r cyfanswm yn y mis calendr presennol. Cyfanswm yw'r cwota a osodwyd ar gyfer eich cyfrif ac mae'n cynnwys Gwylwyr ac Awduron. 
  • Defnyddwyr awduron: Defnyddwyr sy'n gallu creu adroddiadau yn Adroddiadau Uwch (Adroddiadau Personol) a chael mynediad i Adroddiadau Safonol. o Defnyddwyr Gweithredol: Defnyddwyr (Awduron a Gwylwyr) a gyrchodd Adroddiadau Illuminate yn ystod y mis calendr hwn drwy Adroddiadau Safonol, Adroddiadau Personol, neu Data Q&A. 
  • Defnyddwyr segur: Defnyddwyr (Gwylwyr) nad ydynt wedi cyrchu unrhyw un o'r ardaloedd Adroddiadau Illuminate yn ystod y mis calendr presennol. 

Gallwch hefyd ddod o hyd i dabl sy'n cynnwys gwybodaeth fanwl am bob defnyddiwr: 

  • Enw defnyddiwr 
  • Rôl 
  • Statws 
  • Mynediad Diwethaf (dyddiad ac amser)


Defnydd Credydau 

Gallwch gadw llygad ar y credydau a ddefnyddiwyd o'u cymharu â'r rhai sy'n weddill gan ddefnyddio Defnydd Credydau. 

Mae credyd Snowflake yn fwy neu lai yn 1 awr o ddefnyddio Snowflake. 

  1. Mewngofnodwch i Anthology Illuminate. 
  2. Dewiswch opsiwn y ddewislen. 
  3. Dewiswch Gosodiadau
  4. Ewch i'r tab Gosodiadau Cyfrif Snowflake
  5. Dewch o hyd i'r cerdyn Defnydd Credydau sy'n cynnwys gwybodaeth am y mis presennol.


Gosodiadau Cyffredinol 

Mae Gosodiadau Cyffredinol yn caniatáu i weinyddwyr ffurfweddu gosodiadau i reoli terfyn amser mewngofnodi, i osod cydsyniad ar gyfer galluoedd AI cynhyrchiol, ac i storio cyfeiriad e-bost cyswllt allweddol.

Terfyn amser diffyg gweithgarwch sesiwn

Yr amser diofyn ar gyfer UI Illuminate yw 15 munud. Mae ffurfweddu terfyn amser diffyg gweithgarwch sesiwn yn caniatáu i weinyddwyr ymestyn terfyn amser y sesiwn ar gyfer eu henghraifft. Gweithredir terfyn amser y sesiwn ar gyfer enghraifft Illuminate y cleient pryd bynnag y gwneir newid i'r gwerth hwn. 

Gallai newid y gosodiad hwn effeithio ar gydymffurfio â'r gofynion diogelwch sy'n berthnasol i'ch rhanbarth. Gwiriwch unrhyw newid yn erbyn polisïau diogelwch y sefydliad.

The session inactivity timeout toggle, displaying time left to forced log out and the option to reset to default

Galluoedd AI cynhyrchiol 

Mae gan weinyddwyr yr opsiwn i optio i mewn neu optio allan ar gyfer galluoedd AI cynhyrchiol. Mae hyn er mwyn i sefydliadau gydsynio yn unol â Fframwaith AI Dibynadwy Anthology a gwneud penderfyniadau gwybodus am ddefnyddio nodweddion AI.

Generative AI toggle

Prif gyfeiriad e-bost y sefydliad 

Defnyddir prif gyfeiriad e-bost y sefydliad ar gyfer cyfathrebiadau pwysig, megis rhoi gwybod bod y system i lawr a hysbysiadau dod i ben. Gall cysylltiadau allweddol cleientiaid gael y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau pwysig i'r platfform Illuminate. 

Mae prif gyfeiriad e-bost y sefydliad yn cael ei storio yn unol â Pholisi Preifatrwydd a Diogelwch Anthology. Dim ond nifer gyfyngedig o weithwyr sydd â mynediad at y cyfeiriad e-bost, sy'n cael ei storio'n ddiogel.

Institutional email field