Dysgu mwy am Anthology Illuminate
Cael mynediad i Snowflake gan ddefnyddio eich Manylion Mewngofnodi Anthology
- Dewiswch Lansio Snowflake.
- Os ydych yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf, caiff eich mynediad at Snowflake ei ffurfweddu'n awtomatig. Arhoswch nes i'r broses gael ei chwblhau'n llwyddiannus.
- Unwaith bod eich cyfrif Snowflake wedi'i ffurfweddu'n llwyddiannus, cewch eich ailgyfeirio at Snowflake mewn tab newydd yn eich porwr.
-
Os yw eich ffurfweddiad mynediad i Snowflake yn methu, gwnewch y broses eto o gam 1.
-
- Yn Snowflake, bydd angen i chi ddewis Mewngofnodi â SSO, a chewch eich ailgyfeirio at y dudalen ddilysu.
- Mewngofnowch â'ch manylion mewngofnodi Anthology ar y dudalen ddilysu.
- Dewiswch Mewngofnodi.
Cyfyngu mynediad at Snowflake a Gosodiadau
Mae gan ddefnyddwyr newydd Anthology Illuminate fynediad i Adroddiadau, Datblygwr, a Gosodiadau yn ddiofyn. Gall defnyddwyr sydd â mynediad i'r Gosodiadau reoli manylion adnabod y cyfrif gwasanaeth sy'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiadau rhwng peiriannau, er enghraifft, PowerBI.
Gallwch gyfyngu mynediad i Datblygwr a Gosodiadau i rolau neu unigolion penodol, wrth ganiatáu iddynt gael mynediad i Adroddiadau, os yw eich sefydliad yn defnyddio dull Mewngofnodi Anthology ar gyfer dilysu.
Er mwyn cyfyngu mynediad i Snowflake a Gosodiadau:
- Neilltuwch rôl system wahanol yn Blackboard Learn ar gyfer defnyddwyr Datblygwr ac Adroddiadau. Mae angen bod gan bob defnyddiwyr y mae angen mynediad arnynt rôl system berthnasol wedi'i neilltuo iddynt yn Learn:
- Datblygwr (mynediad i Snowflake, Gosodiadau, ac Adroddiadau) – dewiswch Gweinyddwr y System
- Adroddiadau (yn unig) – dewiswch rôl arall. Rydym yn argymell eich bod yn creu rôl newydd.
- Gwiriwch fod y defnyddwyr hyn yn rhan o'r grŵp mewngofnodi cywir sy'n darparu mynediad i Anthology Illuminate drwy Mewngofnodi Anthology.
- Cyflwynwch docyn cymorth i ofyn am fapio grŵp defnyddwyr Anthology Illuminate a rhowch fanylion y rolau system rydych wedi'u dewis.
Os nad yw eich system yn defnyddio Mewngofnodi Anthology, bydd angen i chi newid eich dull dilysu ar gyfer Anthology Illuminate os rydych eisiau defnyddio'r cyfyngiadau mynediad hyn:
- Crëwch docyn cymorth i ofyn am help i fabwysiadu Mewngofnodi Anthology ar gyfer Anthology Illuminate.
- Unwaith eich bod wedi mabwysiadu Mewngofnodi Anthology, dilynwch y camau i gyfyngu mynediad i Snowflake a Gosodiadau.
Ni fydd hyn yn newid eich dull dilysu ar gyfer Blackboard Learn. Ar ôl cwblhau hyn, dilynwch y camau uchod i gyfyngu mynediad i'r Datblygwr a'r Gosodiadau.
Gwiriwch ba ddull mewngofnodi Anthology mae eich sefydliad yn ei ddefnyddio:
- Os rydych yn mewngofnodi i Anthology Illuminate gan ddefnyddio'r opsiwn "Mewngofnodi â'ch cyfrif sefydliadol", mae eich sefydliad yn defnyddio Mewngofnodi Anthology.
- Os rydych yn mewngofnodi i Anthology Illuminate gan ddefnyddio'r opsiwn "Mewngofnodi â'ch cyfrif Anthology Illuminate", nid yw'ch sefydliad yn defnyddio Mewngofnodi Anthology.