Cael mynediad at y wybodaeth sydd ei hangen arnoch, mewn fformat sy'n gyfleus i chi.

A ydych erioed wedi cyrchu cynnwys a oedd yn anodd ei ddarllen, neu roeddech yn dymuno ei fod mewn fformat arall? Nawr, os yw'ch ysgol yn defnyddio Blackboard Ally, gallwch lawrlwytho fformatau amgen yn uniongyrchol o'r wefan.

Mae fformatau amgen yn rhoi rhagor o gyfle i bawb gyrchu’r wybodaeth sydd arnynt ei hangen yn y dull mae arnynt ei angen neu ei eisiau. 

Nid yw fformatau amgen ar gyfer grŵp dethol o bobl yn unig. Mae fformatau amgen o fudd i bawb. Er enghraifft, efallai bod gennych lawer o ddeunydd i'w ddarllen a’ch bod yn profi straen ar y llygaid, neu efallai bod yn well gennych wrando ar y deunydd. Gwrandewch ar fformat sain y ffeil yn lle hynny.

Peidiwch â chadw at un fformat yn unig! Defnyddiwch gymaint o fformatau ag y dymunwch. Er enghraifft, os nad yw'r cynnwys yn eich iaith gyntaf, gallech ei ddilyn yn yr ePub wrth wrando ar y ffeil sain. A hyn oll o gysur eich hoff siop goffi neu wrth deithio.

Dewiswch y fformat, neu'r fformatau, sy'n fwyaf addas ar gyfer eich anghenion.

Wrth lawrlwytho fformat amgen, rydych yn cytuno i'r telerau gwasanaeth. Dewiswch y ddolen i'r Telerau Defnyddio yn y panel lawrlwytho i ddysgu mwy.

Ally ar gyfer Gwefannau Canfod Fformatau Amgen


Dewch o hyd i'r fformatau amgen sydd ar gael

Mae Ally yn creu fformatau amgen o ffeiliau a thudalennau’ch gwefan yn seiliedig ar y ffeiliau a thudalennau gwreiddiol. Er enghraifft, os mai PDF yw'r cynnwys gwreiddiol, bydd Ally yn creu fformatau sain, braille electronig ac ePub o'r un cynnwys. Mae'r fformatau hyn ar gael gyda'r cynnwys gwreiddiol felly mae popeth mewn un lleoliad cyfleus.

Mae'r fformatau amgen a grëir yn dibynnu ar y math o gynnwys gwreiddiol. Os nad ydych yn gweld opsiwn i lawrlwytho fformatau amgen, ni alluogwyd Ally ar gyfer y wefan honno neu nid yw’r ffeil yn fath o gynnwys a gefnogir.

Chwiliwch am yr eicon Lawrlwytho Fformatau Amgen. Byddwch yn gweld yr eicon ar ochr dde’r dudalen neu ar y gwaelod. 

Dewiswch fformat ar gyfer y dudalen gyfan neu ar gyfer ffeiliau unigol ar y dudalen. Mae rhestr o'r fformatau amgen sydd ar gael yn ymddangos er mwyn i chi allu dewis o’r rhestr.

Os nad oes ffeiliau ar y dudalen, yr unig peth rydych yn ei weld yw’r fformatau amgen sydd ar gael ar gyfer y dudalen.

Canllawiau Fformatau Amgen


Pa fformat ddylwn i ei ddefnyddio?

Ddim yn siŵr pa fformat i'w lawrlwytho? Gadewch i ni eich helpu i benderfynu. Mae'r tabl hwn yn dangos ar gipolwg y fformatau gorau ar gyfer eich anghenion gwahanol.

Efallai na fyddwch yn gweld pob fformat amgen yn eich rhestr o ddewisiadau i'w lawrlwytho. Mae'r fformatau a gynhyrchir yn dibynnu ar fath y cynnwys gwreiddiol.

Buddion fformat amgen
Eich anghenion Braille electronig Sain PDF, OCR PDF, Wedi’i Thagio HTML, Semantic ePub Fersiwn Cyfieithiedig BeeLine Reader
Addasu testun, ffont a lliw cefndir         Ydy Ydy    
Addasu cyflymder chwarae sain   Ydy            
Cymudo   Ydy Ie Ie   Ie Ie Ydy
Cymudo, gyrru   Ydy            
Copïo, pastio a chwilio     Ydy Ie Ie Ie Ydy  
Fformat yn addasu i ddyfais, ymatebol         Ydy Ie   Ydy
Amlygu, cymryd nodiadau, a llyfrnodi     Ydy Ie   Ydy    
Dangosyddion dyfeisiadau symudol   Ydy     Ie Ie   Ydy
All-lein Ydy Ie Ie Ie Ie Ie Ie Ydy
Ffafrio gwrando   Ydy            
Ffafrio darllen Ydy   Ie Ie Ie Ie Ie Ydy
Printio Ydy   Ie Ie Ie Ie Ydy  
Testun i leferydd ag addasu cyflymder     Ydy Ie Ie Ydy    
Iaith wahanol             Ydy  

Sain

Mae'r fformat amgen sain yn darllen y testun yn y cynnwys gwreiddiol yn uchel. Mae hyn hefyd yn cynnwys disgrifiadau amgen ar gyfer delweddau, os ydynt yn cael eu darparu.

Mae'r fformat sain yn cael ei gadw fel MP3. Mae MP3s yn ffeiliau sain o ansawdd uchel wedi'u cywasgu, y gellir eu chwarae ar unrhyw gyfrifiadur neu ddyfais symudol.

Bydd fformatau sain yn methu os yw'r ddogfen wreiddiol yn cynnwys dros 100,000 o nodau.

Pam defnyddio sain?

Nid yn unig mae sain o fudd i unigolion sydd â nam ar y golwg, mae ymchwil hefyd wedi profi y gall sain gynyddu dysgu (Boyle et al., 2003).

Efallai fod y rhain yn swnio fel chi. Os felly, mae sain yn opsiwn da.

  • Mae'n well gennych chi wrando na darllen.
  • Rydych chi'n ddysgwr clywedol.
  • Rydych eisiau darllen a gwrando ar y cynnwys ar yr un pryd.
  • Mae gennych lawer o ddeunydd i'w ddarllen ac mae eich llygaid yn mynd yn flinedig.
  • Rydych yn darllen wrth gymudo.
  • Nid ydych eisiau, neu ni allwch, gario deunyddiau print am unrhyw gyfnod o amser.
  • Mae gennych nam ar y golwg.
  • Rydych chi eisiau addasu cyflymder y sain.

    Mae'r rhan fwyaf o chwaraewyr yn caniatáu ichi addasu cyflymder chwarae. Er enghraifft, chwaraewr Windows Media, VIC, Audacity, ac iTunes.

Iaith sain

Mae Ally yn adnabod iaith y cynnwys gwreiddiol ac yn dewis iaith gyfatebol ar gyfer ffeil y fformat sain. Os ydych eisiau cael y cynnwys gwreiddiol mewn iaith wahanol, rhowch gynnig ar fformat y Fersiwn Cyfieithiedig.

Dyma’r ieithoedd sydd ar gael:

  • Benyw Arabeg
  • Benyw Tsieinëeg, Mandarin
  • Benyw Daneg
  • Benyw Iseldireg
  • Benyw Saesneg (UD)
  • Benyw Saesneg (DU)
  • Dyn Saesneg (Awstralia)
  • Benyw Saesneg (Seland Newydd)
  • Benyw Saesneg (India)
  • Benyw Saesneg (De Affrica)
  • Dyn Saesneg (Cymru)
  • Benyw Ffrangeg 
  • Benyw Ffrangeg (Canada)
  • Dyn Almaeneg
  • Benyw Hindi
  • Benyw Islandeg
  • Benyw Eidaleg
  • Dyn Japaneg
  • Benyw Corëeg
  • Benyw Norwyeg (bokmaal)
  • Benyw Pwyleg
  • Benyw Portiwgaleg (Brasil)
  • Benyw Portiwgaleg (Portiwgal)
  • Benyw Rwmaneg
  • Benyw Rwseg
  • Dyn Sbaeneg (Ewrop)
  • Benyw Sbaeneg (UD)
  • Benyw Sbaeneg (Mecsico)
  • Benyw Swedeg
  • Benyw Tyrceg
  • Benyw Cymraeg

Braille electronig

Mae'r ffeil amgen braille electronig yn creu ffeil BRF y gellir ei darllen ar ddangosydd Braille y gellir ei adnewyddu (RBD), ddyfeisiau eraill sy'n darllen Braille, neu o fewn meddalwedd Braille megis Duxbury. 

Meddyliwch am Ddangosydd Braille y gellir ei Adnewyddu (RBD) fel cyfrifiadur heb fonitor. Mae mwyafrif y dyfeisiau hyn yn gallu cysylltu â'r we, creu dogfennau, cyrchu calendrau, a gwneud llawer o'r swyddogaethau sylfaenol a ddarperir gan gyfrifiadur. Gall y dyfeisiau hyn fod yn ddyfeisiau annibynnol. Hefyd, gellir eu cysylltu â ffôn clyfar, iPad neu liniadur. Mae'r rhan fwyaf o ddyfeisiau RBD yn gallu darllen un llinell o Braille ar y tro yn unig. 

Gwyliwch y fideos hyn i ddysgu rhagor.

Pam defnyddio braille electronig?

Er bod sain yn wych ar gyfer deall wrth ddarllen, mae'r rhai hynny sy'n darllen braille yn ennill cyfraddau llythrennedd uwch ar gyfartaledd (Erthygl manteision braille). Â braille, gall defnyddwyr â nam ar eu golwg wybod sillafu, atalnodi a fformat y testun ar dudalen.

Efallai fod y rhain yn swnio fel chi. Os felly, mae braille electronig yn opsiwn da.

  • Mae gennych nam ar y golwg.
  • Rydych chi'n gyfarwydd â braille.
  • Mae'n well gennych ddarllen.
  • Rydych eisiau darllen a gwrando ar y cynnwys ar yr un pryd.

ePub

Mae'r dewis ePub yn creu ffeil gyhoeddi ddigidol y gellir ei gweld ar ddyfeisiau symudol. Gellir ail-redeg ffeiliau ePub. Mae hyn yn golygu bod y cynnwys a ddangosir yn addasu'n awtomatig i'r ddyfais mae'n cael ei weld arni.

Dyma rai apiau a awgrymir ar gyfer dogfennau ePub.

Pam defnyddio ePub?

Mae ePubyn nerthol. Gydag e, gall darllenwyr gymryd nodiadau, amlygu cynnwys, addasu testun a chefndir, ac mewn rhai achosion, defnyddio negeseuon testun-i-lais.

Efallai fod y rhain yn swnio fel chi. Os felly, mae ePub yn opsiwn da.

  • Rydych chi eisiau addasu maint ffont a lliw cefndir.
  • Rydych chi am amlygu cynnwys, cymryd nodiadau, a llyfrnodi tudalennau pwysig.
  • Rydych chi am allu copïo, gludo a chwilio testun.
  • Rydych chi eisiau defnyddio testun-i-lais ac addasu cyflymder y llais.
  • Mae'n well gennych ddarllen.
  • Rydych yn darllen wrth gymudo.

HTML Semantig

Beth yw HTML Semantig? Caiff tagiau ac elfennau - megis blockquote, paragraffau a phenawdau - eu hychwanegu i ychwanegu ystyr at dudalen. Mae'r tagiau ac elfennau hyn yn cynorthwyo defnyddwyr darllenyddion sgrin â strwythur cynnwys da.

Gwelir HTML Semantig mewn porwr ac mae'n addasu i'r ddyfais rydych yn ei weld arni.

Mae Semantic HTML ar gael all-lein ar eich dyfais symudol, os nad ydych chi'n cau eich porwr.

Pam defnyddio Semantic HTML?

Mae Semantic HTML yn ddelfrydol pan fydd gan y cynnwys gynlluniau cymhleth.

Efallai fod y rhain yn swnio fel chi. Os felly, mae Semantic HTML yn opsiwn da.

  • Rydych chi eisiau addasu maint ffont a lliw cefndir.
  • Rydych chi am amlygu cynnwys, cymryd nodiadau, a llyfrnodi tudalennau pwysig.
  • Rydych chi am allu copïo, gludo a chwilio testun.
  • Rydych chi eisiau defnyddio testun-i-lais ac addasu cyflymder y llais.
  • Mae'n well gennych ddarllen.
  • Rydych yn defnyddio darllenydd sgrin.

PDF OCR

Mae OCR yn golygu Adnabod Nodau Gweledol. Crëir dewisiadau amgen PDF OCR os yw'r cynnwys gwreiddiol yn PDF o ddelwedd. Mae technoleg OCR yn dadansoddi'r cynnwys ac yn trosi'r ddelwedd yn destun y gallwch chwilio ynddo.

Dim ond cystal ag ansawdd y cynnwys gwreiddiol yw'r trosiad. Os yw'r cynnwys yn anodd ei ddadansoddi, efallai y bydd camgymeriadau.

Pam defnyddio PDF OCR?

Efallai fod y rhain yn swnio fel chi. Os felly, mae PDF OCR yn opsiwn da.

  • Rydych chi am allu copïo, gludo a chwilio testun.
  • Rydych chi eisiau defnyddio testun-i-lais ac addasu cyflymder y llais.
  • Mae'n well gennych ddarllen.
  • Rydych yn darllen wrth gymudo.
  • Rydych yn defnyddio darllenydd sgrin.

PDF Wedi’i Thagio

Mae dewis amgen PDF â thag yn defnyddio tagiau ac elfennau -megis dyfyniad bloc, paragraff, a phennawdau - i ychwanegu ystyr at dudalen. Mae'n cynorthwyo defnyddwyr darllen sgrîn â strwythur cynnwys da.

Pam defnyddio PDF â thag?

Efallai fod y rhain yn swnio fel chi. Os felly, mae PDF â thag yn opsiwn da.

  • Rydych chi am allu copïo, gludo a chwilio testun.
  • Rydych chi eisiau defnyddio testun-i-lais ac addasu cyflymder y llais.
  • Mae'n well gennych ddarllen.
  • Rydych yn darllen wrth gymudo.
  • Rydych yn defnyddio darllenydd sgrin.

Cwesitynau Cyffredion y Fersiwn Cyfieithiedig


Fformat amgen y Fersiwn Cyfieithiedig

Mae’r fformat amgen hwn yn darparu fersiwn sydd wedi cael ei gyfieithu gan beiriant o’r cynnwys gwreiddiol yng nghyfanswm o 50 o ieithoedd gwahanol. Cefnogir dogfennau PDF, Word, Powerpoint ac HTML.

Mae manwl gywirdeb y cyfieithiadau yn amrywio ac yn dibynnu ar y math o iaith a ddefnyddir yn y ddogfen. Er enghraifft, os oes llawer o eiriau technegol, strwythurau brawddegau cymhleth ac ymadroddion llafar lleol.

Pam defnyddio fformat amgen y Fersiwn Cyfieithiedig?

Mae fformat amgen y Fersiwn Cyfieithiedig yn wych ar gyfer cynnwys nad yw yn eich iaith gyntaf. Mae'r Fersiwn Cyfieithiedig yn adnodd perffaith i gymharu dogfen â'r ddogfen wreiddiol pan fyddwch yn profi anawsterau neu’n methu deall rhywbeth.

Ym mha ieithoedd mae fformat amgen y Fersiwn Cyfieithiedig ar gael?

Mae'r Fersiwn Cyfieithiedig ar gael ar hyn o bryd yn yr ieithoedd dilynol:

  • Affricaneg
  • Albaneg
  • Amhareg
  • Arabeg
  • Armeneg
  • Azerbaijani
  • Bengaleg
  • Bosnieg - Lladin
  • Bwlgareg
  • Catalaneg
  • Tsieinëeg – Wedi’i symleiddio
  • Tsieinëeg - Traddodiadol
  • Croateg
  • Tsieceg
  • Daneg
  • Dari
  • Iseldireg
  • Saesneg
  • Estoneg
  • Ffinneg
  • Ffrangeg
  • Ffrangeg (Canada)
  • Georgeg
  • Almaeneg
  • Groeg, Modern
  • Gwjarati
  • Haiteg
  • Hausa
  • Hebraeg
  • Hindi
  • Hwngareg
  • Islandeg
  • Indoneseg
  • Eidaleg
  • Japaneg
  • Kannada
  • Kazakh
  • Corëeg
  • Latifeg
  • Lithwaneg
  • Macedoneg
  • Maleieg
  • Malayalam
  • Malti
  • Mongoleg
  • Norwyeg Bokmål
  • Pashto
  • Perseg (Farsi)
  • Pwyleg
  • Portiwgaleg
  • Rwmaneg
  • Rwseg
  • Serbeg - Lladin
  • Sinhala
  • Slovak
  • Slofeneg
  • Somaleg
  • Sbaeneg
  • Sbaeneg (Mecsico)
  • Swahili
  • Swedeg
  • Tagalog
  • Tamileg
  • Telugu
  • Thai
  • Tyrceg
  • Wcreineg
  • Wrdw
  • Uzbek
  • Fietnameg
  • Cymraeg

Nid yw cefnogaeth ar gyfer yr ieithoedd canlynol yn fformat amgen y Fersiwn Cyfieithiedig ar gael:

  • Bosnieg (Syrilig)
  • Serbeg (Syrilig)

Ally BeeLine Reader


BeeLine Reader

Mae BeeLine Reader yn gwneud darllen ar sgrin yn haws ac yn gyflymach. Yn hytrach na defnyddio testun du plaen, mae BeeLine Reader yn arddangos testun gan ddefnyddio graddfa lliwiau ysgafn sy’n helpu arwain eich llygad trwy eich darlleniadau. Mae’r fformat arddangos newydd hwn wedi’i anrhydeddu gan y Cenhedloedd Unedig ac mae’n cael ei ddefnyddio gan ddarllenwyr yn 120 o wledydd ar draws y byd.

Rhagor ar wefan BeeLine Reader

Pam defnyddio BeeLine Reader?

Nid yw techneg graddiant lliw BeeLine Reader ond yn cynyddu cyflymder darllen ond mae hefyd yn gwella ffocws. Mae BeeLine Reader yn boblogaidd ymhlith israddedigion a myfyrwyr ôl-raddedig â beichiau darllen trwm. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni fel y gyfraith, meddygaeth, a’r dyniaethau. Mae dull BeeLine Reader hefyd o fudd i bobl sydd â dyslecsia, ADHD, golwg isel, ac unrhyw un a allai brofi anawsterau gydag olrhain gweledol neu ffocysu.

Efallai fod y rhain yn swnio fel chi. Os felly, mae BeeLine Reader yn opsiwn da.

  • Rydych yn darllen llawer ar sgrin a hoffech allu darllen yn haws ac yn gyflymach.
  • Rydych yn darllen wrth gymudo ac mae darllen yn yr amgylchedd hwn yn anodd i chi.
  • Mae'n well gennych ddarllen.
  • Mae gennych lawer o ddeunydd i'w ddarllen ac mae eich llygaid yn mynd yn flinedig.
  • Rydych yn darllen yn hwyr yn y nos, pan fydd eich llygaid yn flinedig.
  • Rydych am allu darllen y cynnwys yn gyflymach.
  • Rydych yn profi dyslecsia, ADHD neu olwg isel.
  • Mae gennych anawsterau gydag olrhain gweledol neu ffocysu.