Tynnu Cynnwys a Allai fod yn Niweidiol

Gall cyfryngau digidol ysgogi ymatebion annisgwyl gan fyfyrwyr

Mae'r Rhyngrwyd yn llawn cynnwys hwyliog, ac mae ychwanegu elfennau cyfryngau creadigol at eich cwrs yn gallu hybu ymgysylltiad myfyrwyr. Fodd bynnag, mae gan GIFs a chyfryngau eraill sy’n symud yn gyflym neu sy’n fflachio - hyd yn oed delweddau llonydd sy'n or-gymhleth - botensial i sbarduno trawiadau neu ymatebion niweidiol eraill ymhlith myfyrwyr.

Mae Ally yn nodi'r ffeiliau hyn, ac yn eu sgorio fel rhai isel. Dilynwch y cyfarwyddiadau i helpu i sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu rhyngweithio'n ddiogel â chynnwys eich cwrs.

Os oes cynnwys niweidiol posibl, bydd y ffeil yn cael dangosydd sgôr hygyrchedd isel.

Dewiswch y dangosydd Sgôr Hygyrchedd i ddysgu rhagor ac i ychwanegu disgrifiad.

Esboniad o’r broblem

Mae'r ffeil 0% yn hygyrch oherwydd mae ganddo'r potensial i sbarduno trawiadau neu ymatebion niweidiol eraill ymhlith myfyrwyr.

Dewiswch Beth mae hyn yn ei olygu i gael esboniad.

Tynnwch y ffeil

Y dewis a argymhellir o safbwynt cynhwysiant yw tynnu'r ffeil, a'i chyfnewid am rywbeth tebyg a llai niweidiol. Mae hyn yn sicrhau bod eich holl fyfyrwyr yn gallu ymgysylltu â'r cynnwys yn ddiogel.

Dewiswch Tynnu nawr.

Cadwch a nodwch y ffeil

Os yw'r cynnwys yn hanfodol i'ch cwrs, dewiswch Na, mae angen i mi ei gadw.

Mae Ally yn nodi'r cynnwys ac yn rhybuddio myfyrwyr cyn agor y ffeil. Rhag ofn y bydd y myfyrwyr yn agored i ddioddef trawiad oherwydd delweddau sy’n fflachio neu sy’n weledol gymhleth, byddant yn derbyn rhybudd gan Ally cyn agor.