Rhestr Wirio Hygyrchedd Ally

Mae rhestr wirio hygyrchedd Ally yn seiliedig ar WCAG 2.1 AA (Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We). Mae hon yn safon hygyrchedd ryngwladol, ac mae'r rhan fwyaf o'r ddeddfwriaeth a'r gofynion cyfreithiol newydd ledled y byd yn cyd-fynd â'r safon hon.

Yn ogystal, mae Ally hefyd yn ychwanegu nifer o wiriadau ychwanegol ar ben hyn sy'n dechrau targedu defnyddioldeb ac ansawdd y cynnwys ychydig yn fwy.


Pa gynnwys mae Ally yn ei wirio?

Mae Ally yn gwirio’r mathau hyn o gynnwys ar hyn o bryd:

  • Tudalennau gwe/cynnwys HTML
  • Delweddau
  • Ffeiliau PDF
  • Ffeiliau Microsoft® Word
  • Ffeiliau Microsoft® Powerpoint®
  • Ffeiliau OpenOffice/LibreOffice
  • Ffeiliau HTML wedi’u huwchlwytho

Cynnwys y golygydd cynnwys (WYSIWYG)

Ar hyn o bryd, nid yw golygyddion yn gweld sgôr hygyrchedd ar gyfer cynnwys a grëwyd yn eu golygydd cynnwys system.

Mae Ally hefyd yn gwirio cynnwys a grëwyd trwy olygydd cynnwys WYSIWYG y system am broblemau hygyrchedd. Mae'r data yn ymddangos yn adroddiad y safle ar ffurf HTML. Mae'n ymddangos yn y ffeil allgludo CSV fel application/x-page.

Rhestr Wirio Hygyrchedd Gweinyddwr Ally


Rhestr wirio HTML

  • Mae rhaid i'r gwerth priodoledd bysellmynediad fod yn unigryw
    • WCAG 2.1 - 2.1.1 Bysellfwrdd
  • Mae rhaid bod gan elfennau <area> gweithredol destun amgen
    • WCAG 2.1 - 1.1.1 Cynnwys Nad Yw'n Destun
  • Mae rhaid i elfennau ond ddefnyddio priodoleddau ARIA a ganiateir
    • WCAG 2.1 - 4.1.1 Dosrannu
    • WCAG 2.1 - 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth
  • Mae rhaid darparu'r priodoleddau ARIA gofynnol
    • WCAG 2.1 - 4.1.1 Dosrannu
    • WCAG 2.1 - 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth
  • Mae rhaid i rai rolau ARIA gynnwys is-eitemau penodol
    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
  • Mae rhaid i rai rolau ARIA gael eu cynnwys gan eitemau gwreiddiol
    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
  • Mae rhaid i rolau ARIA a ddefnyddiwyd gydymffurfio â gwerthoedd dilys
    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
    • WCAG 2.1 - 4.1.1 Dosrannu
    • WCAG 2.1 - 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth
  • Mae rhaid i briodoleddau ARIA gydymffurfio ag enwau dilys
    • WCAG 2.1 - 4.1.1 Dosrannu
  • Mae rhaid i briodoleddau ARIA gydymffurfio â gwerthoedd dilys
    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
    • WCAG 2.1 - 4.1.1 Dosrannu
    • WCAG 2.1 - 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth
  • Mae rhaid bod gan elfennau <audio> fideo YouTubeTM wedi'i blannu <track> ar gyfer capsiynau
    • WCAG 2.1 - 1.2.2 Capsiynau (A recordiwyd o'r blaen)
  • Mae elfennau <blink> wedi'u hanghymeradwyo ac mae rhaid peidio â'u defnyddio
    • WCAG 2.1 - 2.2.2 Oedi, Stopio, Cuddio
  • Mae rhaid bod gan fotymau destun dirnadwy
    • WCAG 2.1 - 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth
  • Mae rhaid bod modd i dudalen fynd heibio i flociau cynnwys niferus
    • WCAG 2.1 - 2.4.1 Mynd Heibio i Flociau
  • Mae rhaid i fewnbynnau blychau ticio â'r un gwerth priodoledd enw fod yn rhan o grŵp
  • Mae rhaid bod gan elfennau testun gyferbyniad lliw digonol rhyngddynt a'r cefndir
    • WCAG 2.1 - 1.4.3 Cyferbyniad (Isaf)
    • Problem fawr
  • Mae rhaid i elfennau <dl> ddim ond gynnwys grwpiau <dt> a <dd>, neu elfennau <script> neu <template> wedi'u trefnu'n gywir yn uniongyrchol (Bach)
    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
  • Mae rhaid cynnwys elfennau <dt> a <dd> mewn <dl>
    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
  • Dylai fideos YouTubeTM wedi'u mewnblannu gynnwys capsiynau

    Ni chaiff capsiynau YouTube a gynhyrchwyd yn awtomatig eu hystyried i fod yn gapsiynau dilys.

    • WCAG 2.1 - 1.2.2 Capsiynau (A recordiwyd o'r blaen)
    • Problem fawr

    Polisi Preifatrwydd Google

  • Mae rhaid i werth priodoledd y cyfeirnod fod yn unigryw
    • WCAG 2.1 - 2.4.2 Tudalen â theitl
  • Dylai penawdau fod yn bresennol
    • Problem fawr
  • Nid yw strwythur penawdau yn dechrau ar un
    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
    • Problem fawr
  • Ni ddylai penawdau fod yn wag
    • WCAG 2.1 – 2.4.6 Penawdau a Labeli
    • Problem fawr
  • Mae rhaid bod gan fframiau briodoledd teitl unigryw
    • WCAG 2.1 - 2.4.1 Mynd Heibio i Flociau
  • Mae rhaid bod gan elfen <html> briodoledd iaith
    • WCAG 2.1 - 3.1.1
  • Nid yw'r strwythur penawdau yn briodol, dylai’r lefelau gynyddu fesul un yn unig
    • Problem fach
  • Mae rhaid bod gan ddelweddau ddisgrifiad testun amgen
    • WCAG 2.1 - 1.1.1 Cynnwys Nad Yw'n Destun
    • Problem fawr
  • Ni ddylid ailadrodd testun botymau neu ddolenni yn nisgrifiad amgen y ddelwedd
    • Problem fawr
  • Mae rhaid bod gan fotymau delwedd destun amgen
    • WCAG 2.1 - 1.1.1 Cynnwys Nad Yw'n Destun
    • Problem fawr
  • Mae rhaid bod gan elfennau ffurflen labeli
    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
    • WCAG 2.1 - 3.3.2 Labeli neu Gyfarwyddiadau
    • Problem fawr
  • Dylai elfennau ffurflen gynnwys label gweladwy
    • Problem fawr
  • Mae rhaid bod gan elfen <html> werth dilys ar gyfer y priodoledd iaith
    • WCAG 2.1 - 3.1.1 Iaith y Dudalen
    • Problem fach
  • Mae rhaid i dablau cynllun beidio â defnyddio elfennau tablau data
    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
  • Mae rhaid bod gan ddolenni destun dirnadwy
    • WCAG 2.1 - 1.1.1 Cynnwys Nad Yw'n Destun
    • WCAG 2.1 - 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth
    • Problem fach
  • Mae dolenni yn gweithio ac nid ydynt yn doredig

    Mae’r gwiriad hwn ar gyfer Ally ar gyfer Gwefannau a Web Community Manager (WCM) yn unig ar hyn o bryd.

  • Mae rhaid i <ul> a <ol> ddim ond gynnwys elfennau cynnwys <li> yn uniongyrchol
    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
  • Mae rhaid cynnwys elfennau <li> mewn <ul> neu <ol>
    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
  • Mae elfennau <marquee> wedi'u hanghymeradwyo ac mae rhaid peidio â'u defnyddio
    • WCAG 2.1 - 2.2.2 Oedi, Stopio, Cuddio
  • Mae rhaid i adnewyddu amseredig beidio â bodoli
    • WCAG 2.1 - 2.2.1 Amseru Addasadwy
    • WCAG 2.1 - 2.2.4 Ymyriadau
    • WCAG 2.1 - 3.2.5 Newid ar Gais
  • Mae rhaid peidio ag analluogi chwyddo a graddio (2x)
    • WCAG 2.1 - 1.4.4 Ailfeintio testun
  • Dylai chwyddo a graddio ganiatáu graddfa uchaf o 5
  • Mae rhaid bod gan elfennau <object> destun amgen
    • WCAG 2.1 - 1.1.1 Cynnwys Nad Yw'n Destun
  • Mae rhaid i fewnbynnau radio â'r un gwerth priodoledd enw fod yn rhan o grŵp
  • Dylai cynnwys gael ei gynnwys mewn ardal arwyddnod
  • Dylid defnyddio priodoledd cwmpas yn gywir ar dablau
  • Mae rhaid peidio â defnyddio mapiau delweddau ochr y gweinydd
    • WCAG 2.1 - 2.1.1 Bysellfwrdd
  • Dylai dolen gyntaf y dudalen fod yn ddolen neidio
  • Ni ddylai fod gan elfennau tabindex sy'n uwch na sero
  • Ni ddylai'r elfen <caption> gynnwys yr un testun â'r priodoledd crynodeb
  • Ni ddylid defnyddio celloedd data neu benawdau i gapsiynu tabl data
    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
    • Problem fawr
  • Mae rhaid bod gan bob elfen <td> nad yw'n wag mewn tabl sy'n fwy na 3 wrth 3 bennawd tabl cysylltiedig
    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
    • Problem fawr
  • Mae rhaid i bob cell mewn elfen <table> sy'n defnyddio'r priodoledd penawdau gyfeirio at gelloedd eraill o fewn yr un tabl hwnnw yn unig
    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
  • Mae rhaid bod gan bob elfen <th> ac elfennau gyda rôl=pennawdcolofn/pennawdrhes gelloedd data maent yn eu disgrifio
    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
  • Mae rhaid bod gan ddogfennau elfen <title> i gynorthwyo llywio
    • WCAG 2.1 - 2.4.2 Tudalen â theitl
  • Mae rhaid bod gan briodoledd iaith werth dilys
    • WCAG 2.1 - 3.1.2 Iaith y Rhannau
    • Problem fach
  • Mae rhaid bod gan elfennau <video> YouTubeTM wedi'i blannu <track> ar gyfer capsiynau
    • WCAG 2.1 - 1.2.2 Sain yn unig a Fideo yn unig (A recordiwyd ymlaen llaw)
    • WCAG 2.1 - 1.2.3 Sain Ddisgrifiad neu Ddewis Cyfrwng Arall (A recordiwyd ymlaen llaw)
    • Problem fawr
  • Mae rhaid bod gan elfennau <video> drac disgrifiad sain
    • WCAG 2.1 - 1.2.5 Disgrifiad Sain (A recordiwyd ymlaen llaw)
    • Problem fawr

Rhestr wirio delweddau

Mae hyn yn cynnwys ffeiliau JPG, JPEG, GIF, PNG, BPM, a TIFF.

  • Gall y ddelwedd beri trawiadau
    • WCAG 2.1 - 2.3 Trawiadau
    • Problem ddifrifol
  • Nid oes gan y ddelwedd ddisgrifiad amgen
    • WCAG 2.1 - 1.1.1 Cynnwys Nad Yw'n Destun
    • Problem fawr
  • Mae gan y ddelwedd destun nad yw'n rhan o ddisgrifiad amgen
    • WCAG 2.1 - 1.4.5 Delweddau testun
    • Problem fach
  • Mae gan y ddelwedd broblemau cyferbyniad
    • WCAG 2.1 - 1.4.3 Cyferbyniad (Isaf)
    • WCAG 2.1 - 1.4.6 Cyferbyniad (Gwell)
    • Problem fawr

Rhestr wirio PDF

  • Mae'r PDF wedi'i gam-ffurfio
    • Problem ddifrifol
  • Mae'r PDF wedi'i amgryptio
    • Problem ddifrifol
  • Mae'r PDF wedi'i sganio
    • WCAG 2.1 - 1.4.5 Delweddau testun
    • Problem ddifrifol
  • Mae'r PDF heb ei dagio
    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
    • WCAG 2.1 - 1.3.2 Dilyniant Ystyrlon
    • Problem fawr
  • Nid oes gan y PDF iaith wedi'i gosod
    • WCAG 2.1 - 3.1.1 Iaith y Dudalen
    • Problem fach
  • Nid oes gan y PDF yr iaith gywir wedi'i gosod
    • WCAG 2.1 - 3.1.1 Iaith y Dudalen
    • Problem fach
  • Mae gan y PDF ddelweddau heb ddisgrifiadau amgen
    • WCAG 2.1 - 1.1.1 Cynnwys Nad Yw'n Destun
    • Problem fawr
  • Mae gan y PDF broblemau cyferbyniad
    • WCAG 2.1 - 1.4.3 Cyferbyniad (Isaf)
    • WCAG 2.1 - 1.4.6 Cyferbyniad (Gwell)
    • Problem fawr
  • Nid oes gan y PDF benawdau

    Gorfodir y gwiriad hygyrchedd hwn ar ffeiliau PDF sydd ag isafswm o 3 tudalen yn unig ar hyn o bryd.

    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
    • Problem fawr
  • Nid oes gan y PDF strwythur penawdau priodol
    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
    • Problem fach
  • Nid yw strwythur penawdau'r PDF yn dechrau ar un
    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
    • Problem fawr
  • Mae strwythur penawdau'r PDF yn mynd yn uwch na chwe lefel
    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
    • Problem fach
  • Mae gan y PDF dablau sydd heb benawdau
    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
    • Problem fawr
  • Nid oes gan y PDF deitl
    • WCAG 2.1 – 2.4.2 Tudalen â Theitl
    • Problem fach

Rhestr wirio dogfen Office

Mae hyn yn cynnwys Microsoft® Word a LibreOffice Writer.

  • Mae'r ddogfen wedi'i cham-ffurfio
    • Problem ddifrifol
  • Nid oes gan y ddogfen iaith wedi'i gosod
    • WCAG 2.1 - 3.1.1 Iaith y Dudalen
    • Problem fach
  • Nid oes gan y ddogfen yr iaith gywir wedi'i gosod
    • WCAG 2.1 - 3.1.1 Iaith y Dudalen
    • Problem fach
  • Mae gan y ddogfen ddelweddau heb ddisgrifiadau amgen
    • WCAG 2.1 - 1.1.1 Cynnwys Nad Yw'n Destun
    • Problem fawr
  • Mae'r ddogfen hon yn cynnwys testun gyda chyferbyniad annigonol
    • WCAG 2.1 - 1.4.3 Cyferbyniad (Isaf)
    • WCAG 2.1 - 1.4.6 Cyferbyniad (Gwell)
    • Problem fawr
  • Nid oes gan y ddogfen benawdau

    Gorfodir y gwiriad hygyrchedd hwn ar ddogfennau Word sy'n cynnwys isafswm o 12 paragraff yn unig ar hyn o bryd.

    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
    • Problem fawr
  • Nid oes gan y ddogfen strwythur penawdau penodol
    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
    • Problem fach
  • Nid yw strwythur penawdau'r ddogfen yn dechrau ar un
    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
    • Problem fawr
  • Mae strwythur penawdau'r ddogfen yn mynd yn uwch na chwe lefel
    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
    • Problem fach
  • Mae gan y ddogfen dablau sydd heb benawdau
    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
    • Problem fawr

Rhestr wirio sleidiau cyflwyno

Mae hyn yn cynnwys Microsoft® PowerPoint® a LibreOffice Impress.

  • Mae'r cyflwyniad wedi'i gam-ffurfio
    • Problem ddifrifol
  • Nid oes iaith wedi'i gosod ar gyfer y cyflwyniad
    • WCAG 2.1 - 3.1.1 Iaith y Dudalen
    • Problem fach
  • Nid yw’r iaith gywir wedi'i gosod ar gyfer y cyflwyniad
    • WCAG 2.1 - 3.1.1 Iaith y Dudalen
    • Problem fach
  • Mae gan y cyflwyniad ddelweddau heb ddisgrifiadau amgen
    • WCAG 2.1 - 1.1.1 Cynnwys Nad Yw'n Destun
    • Problem fawr
  • Mae'r cyflwyniad hwn yn cynnwys testun gyda chyferbyniad annigonol
    • WCAG 2.1 - 1.4.3 Cyferbyniad (Isaf)
    • WCAG 2.1 - 1.4.6 Cyferbyniad (Gwell)
    • Problem fawr
  • Nid oes gan y cyflwyniad unrhyw benawdau

    Mae'r gwiriad hygyrchedd hwn yn gorfodi isafswm o 1 teitl ar gyfer pob 7 sleid mewn dogfen PowerPoint.

    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
    • Problem fawr
  • Mae gan y cyflwyniad dablau heb unrhyw benawdau
    • WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
    • Problem fawr