Cyflwyno Achosion Cymorth Ally

Behind the Blackboard yw ble gallwch greu tocynnau cymorth ar gyfer Blackboard Ally.

Mae gan weinyddwyr safle gyfrifon a grëwyd yn Behind the Blackboard (ar gael yn Saesneg yn unig).

Dylech dderbyn e-bost â'r manylion i fewngofnodi. Os na welwch yr e-bost hwnnw, cysylltwch â'ch cynrychiolydd Blackboard.


Pryd ddylwn i greu achos cymorth?

Dylech greu achos cymorth pan:

  • Mae gennych unrhyw broblemau neu wallau ar y system
  • Mae arnoch angen help â'ch system
  • Mae gennych chi gwestiynau mae arnoch angen atebion iddynt yn gyflym

Creu tocyn achos cymorth

  1. Mewngofnodwch i Behind the Blackboard.
  2. Dewiswch Creu achos o dan yr adran Cymorth .
  3. Llenwch y wybodaeth ofynnol ar y ffurflen, gan geisio bod mor benodol â phosib. Cofiwch gynnwys dolen URL i ble mae'r broblem yn digwydd yn y safle.
  4. Teipiwch y broblem yn y blwch testun Neges Pwnc/Gwall .
  5. Teipiwch ddisgrifiad manwl o'r neges broblem neu wall yn y blwch testun Disgrifiad .
    • Dylid cynnwys unrhyw ddolenni perthnasol, enwau lleoliadau neu unrhyw wybodaeth arall y gellid ei darparu ar y pryd.
    • Darparwch sgrinluniau lle mae'n bosib a dolenni i unrhyw eitemau cynnwys rydych chi’n profi anawsterau â nhw.
    • Atodwch y ffeil go iawn, os yn bosibl. 
  6. Darparwch gamau penodol, union i'w hatgynhyrchu yn y blwch testun Camau i Atgynhyrchu . Un enghraifft fyddai:

    Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch. Dylech gynnwys a yw'r broblem yn digwydd ar gyfer rôl neu ddefnyddiwr penodol, mewn porwr penodol, mewn un lleoliad neu leoliadau lluosog, ac unrhyw wybodaeth arall a ddarganfuwyd.

    1. Os oes angen i chi fewngofnodi
    2. Y cwrs neu barth sydd angen i chi gyrraedd
    3. Lleoliad yr eitem o gynnwys
  7. Dewiswch lefel ddifrifoldeb yr achos. Defnyddiwch y diffiniadau dilynol o'r lefelau difrifoldeb.
    • Difrifoldeb 1: Argyfwng. Mae'r system gynhyrchu i lawr. Nid yw'r system yn weithredol, mae wedi’i analluogi, neu nid yw’n ymatebol.
    • Difrifoldeb 2: Uchel. Mae'r cynnyrch yn gweithredu, ond nid oes modd defnyddio cydrannau mawr/nid ydynt ar gael.
    • Difrifoldeb 3: Canolig. Mae'r cynnyrch yn gweithredu'n agos at fod yn arferol, ond mae mân gydrannau'n gweithredu'n annormal.
    • Difrifoldeb 4: Isel. Mae angen gwneud cais am wella cynnyrch, yr holl broblemau lle rhithwir, neu gymorth hyfforddiadol. Dysgu sut i greu PDFs tagiedig
  8. Dewiswch Creu Achos i gadw a chreu'r achos.

Ar ôl i chi greu achos cymorth, gallwch ddefnyddio Behind the Blackboard i fonitro'ch achosion a chyfathrebu â Chymorth Cleientiaid Blackboard.


Sut i uwchgyfeirio tocynnau BtBb?

  1. Mewngofnodwch i Behind the Blackboard
  2. Dewch o hyd i achos agored yr hoffech ei uwchgyfeirio. Dangosir achosion diweddar yn syth ar ôl i chi fewngofnodi. Os nad ydych yn ei weld ar y rhestr, gallwch ddefnyddio'r botwm Chwilio Achosion i ddod o hyd iddo. Ni fydd achosion wedi'u cau yn dangos yr opsiwn uwchgyfeirio.
  3. Dewiswch rif eich achos i agor yr achos. Yma, gallwch adolygu unrhyw gyfathrebiadau blaenorol a allai fod yno.
  4. Dewiswch y botwm Uwchgyfeirio'r Achos ar y rhuban ar y brig.
  5. Nesaf, dewiswch y rheswm mwyaf priodol dros uwchgyfeirio o'r rhestr.
  6. Rhowch eich sylwadau am uwchgyfeirio yn y maes testun sydd ar gael.
    • Cyfyngir y maes hwn i 255 o nodau. Os oes angen mwy o le arnoch, ychwanegwch at eich achos fel sylw ar ôl ei uwchgyfeirio.
  7. Dewiswch y botwm Cyflwyno pan fyddwch wedi gorffen gyda'r neges a byddwch yn barod i'w uwchgyfeirio.

Unwaith byddwch wedi dilyn y camau uchod, anfonir hysbysiad yn syth at berchennog yr achos a'u rheolwr, i roi gwybod iddynt eich bod wedi uwchgyfeirio eich achos. Mae'r hysbysiad hwnnw yn cynnwys y sylwadau a roddoch hefyd.

Arddangosiad Fideo o Uwchgyfeirio Achos

Gallwch uwchgyfeirio dim ond un achos ar y tro. Ar ôl i chi uwchgyfeirio achos, ni fydd y botwm Uwchgyfeirio'r Achos yn ymddangos bellach wrth adolygu'r achos. Byddwn yn trin yr achos hwn fel ei fod wedi'i uwchgyfeirio nes iddo gael ei gau.