Dewiswch y fformat sydd ei angen arnoch
Mae'n debyg bod gan eich hyfforddwr lawer o wahanol ddarnau o gynnwys yn eich cwrs. Mae Ally yn creu fformatau amgen ar gyfer yr eitemau cynnwys hynny. Gallwch lawrlwytho’r fformatau amgen lle bynnag rydych yn gweld eicon lawrlwytho fformatau amgen Ally. Dewiswch y fersiwn o'r ffeil wreiddiol sydd orau i'ch anghenion!
Mewngofnodwch i’ch cwrs. Chwiliwch am yr eicon Lawrlwytho Fformatau Amgen a lawrlwythwch fformat sy’n addas ar gyfer eich anghenion dysgu.
Peidiwch â chadw at un fformat yn unig! Defnyddiwch gymaint o fformatau ag y dymunwch.
Angen help i ddewis? Rhagor am fformatau amgen