Fformatau amgen

Pa fformatau amgen mae Ally yn eu creu?

Pa fformatau amgen mae Ally yn eu creu?

Mae Ally yn darparu fformatau amgen ar gyfer y mathau hyn o gynnwys:

  • Ffeiliau PDF
  • Ffeiliau Microsoft® Word
  • Ffeiliau Microsoft® Powerpoint®
  • Ffeiliau OpenOffice/LibreOffice
  • Ffeiliau HTML wedi’u huwchlwytho
  • Cynnwys a grëir yng ngolygydd cwrs yr LMS (WYSIWYG)

    Ar hyn o bryd, dim ond ar gyfer Blackboard Learn Ultra, Blackboard Learn Gwreiddiol, Instructure Canvas, D2L Brightspace a Schoology y mae fformatau amgen ar gyfer cynnwys WYSIWYG ar gael.

Gellir cynhyrchu'r fformatau amgen hyn:

  • Fersiwn OCR (ar gyfer dogfennau wedi'u sganio)
  • PDF wedi'i dagio (ar gyfer ffeiliau Word, PowerPoint ac Open Office/LibreOffice ar hyn o bryd)
  • HTML sy'n addas ar gyfer dyfeisiau symudol
  • Sain
  • ePub
  • Braille Electronig
  • BeeLine Reader
  • Fersiwn Cyfieithiedig
    • Mae’r Fersiwn Cyfieithiedig wedi’i analluogi yn ddiofyn. Gall gweinyddwyr gyflwyno cais am gymorth i’w alluogi.

Rhagor am fformatau amgen

A gynhyrchir fformatau amgen ar ôl cyflwyno cais i lawrlwytho?

Pan ofynnir am fformat amgen ar gyfer eitem o gynnwys am y tro cyntaf, bydd Ally yn cynhyrchu’r fformat ar alw. Ar gyfer y rhan fwyaf o achosion, fe’i cynhyrchir o fewn 1-2 funud.

Ar ôl ei gynhyrchu, lawrlwythir y fformat amgen. Wedyn, mae Ally yn cadw'r canlyniad yn y storfa, er mwyn cynhyrchu a lawrlwytho ceisiadau ychwanegol ar gyfer yr un fformat amgen o'r storfa ar unwaith.

A yw Ally yn cynhyrchu fformatau amgen ar gyfer cynnwys myfyrwyr?

Ar hyn o bryd mae Ally ond yn prosesu cynnwys hyfforddiadol. Er enghraifft, cynnwys a ychwanegwyd gan rywun â chaniatâd golygu yn y cwrs, megis yr hyfforddwr neu gynllunydd hyfforddiadol. Nid yw Ally yn prosesu cynnwys myfyrwyr neu gyflwyniadau myfyrwyr ar hyn o bryd.

Cwestiynau Cyffredin Ally Braille

Pa god Braille mae Ally yn ei ddefnyddio ar gyfer y Fformat Braille Electronig?

Mae Ally yn defnyddio'r ffeil Braille .brf (Braille Ready File) fel y fformat Braille electronig. Mae'r cod braille a ddefnyddiwyd yn dibynnu ar iaith y ddogfen. Ar gyfer dogfennau Saesneg, mae Ally yn defnyddio Gradd 2 Braille Saesneg Safonol (cywasgedig).

Rhagor am Braille Saesneg Safonol ar wefan UKAAF

A ellir argraffu Fformat Braille Electronig Ally gan ddefnyddio argraffydd Braille?

Gellid defnyddio fformat .brf (Braille Ready File) ar gyfer dangosyddion braille electronig a boglynwyr braille (argraffyddion).

Bydd rhaid ichi wirio a yw boglynnwr/argraffydd Braille penodol yn cefnogi'r fformat .brf.

Rhagor am BRF ar wefan Accessible Instructional Materials

 

Pam ydw i'n gweld "Mae'r fformatau amgen ar gyfer y ffeil hon wedi'u hanalluogi"?

Gall hyfforddwyr a gweinyddwyr ddiffodd fformatau amgen ar gyfer eitem o gynnwys unigol o fewn cwrs. Er enghraifft, ar ffeil a uwchlwythwyd i'r cwrs.