Mae Blackboard yn gwbl ymroddedig i sicrhau bod yr holl gynnyrch a gwasanaethau a ddarparwn yn ymarferol a hygyrch i bob defnyddiwr, beth bynnag ei oed, gallu neu sefyllfa. I gyd-fynd â'n traddodiad cryf o arweinyddiaeth ym maes hygyrchedd, mae ein cynnyrch wedi'u dylunio a'u datblygu yn unol â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1 Lefel AA yn ogystal â safonau Adran 508 yn yr Unol Daleithiau. Cynhelir archwiliadau rheolaidd o'n meddalwedd i sicrhau y bodlonir disgwyliadau ansawdd a'u cynnal.
Mae'r dogfennau canlynol ar gael yn y Saesneg yn unig.
Cydymffurfiaeth hygyrchedd: Blackboard Ally
Llywio Fformatau Amgen
Ar dudalen cynnwys y cwrs, ar ôl cynnwys y cwrs neu ddolen ffeil, byddwch yn gweld dolen Fformatau Amgen neu Lawrlwytho Fformatau Amgen. Pan fydd wedi'i dewis, bydd y ddolen hon ar gyfer fformatau amgen yn agor y deialog Lawrlwytho fformatau amgen gyda’r opsiynau hyn:
- PDF Wedi’i Dagio: Mae’n lawrlwytho i ddyfais
- HTML: Mae’n agor mewn ffenestr pori newydd
- ePub: Mae’n lawrlwytho i ddyfais
- Braille electronig: Mae’n lawrlwytho i ddyfais
- Sain: Mae’n lawrlwytho i ddyfais
- BeeLine Reader: Mae’n agor yn y ffenestr pori
- Fersiwn Cyfieithiedig: Mae’n lawrlwytho i ddyfais