Ni fydd yn cynhyrchu adborth nac arweiniad

Mae sawl rheswm pam nad yw adborth nac arweiniad yn cael eu cynhyrchu ar gyfer eich ffeil wreiddiol neu ffeil a ddiweddarwyd. Dyma ychydig o'r rhesymau hynny:

Mathau o ffeiliau a gefnogir

Pa gynnwys mae Ally yn ei wirio?

Ar hyn o bryd, mae Ally yn gwirio ffeiliau yn y fformatau hyn:

  • Ffeiliau PDF
  • Ffeiliau Microsoft® Word
  • Ffeiliau Microsoft® PowerPoint®
  • Ffeiliau OpenOffice/LibreOffice
  • Ffeiliau HTML wedi’u huwchlwytho
  • Ffeiliau delweddau (JPG, JPEG, GIF, PNG, BMP, TIFF)
  • Cynnwys WYSIWYG/VTBE

    Mae canlyniadau ar gyfer cynnwys WYSIWYG ond yn ymddangos yr Adroddiad Sefydliadol ac Adroddiad hygyrchedd cwrs.

  • Fideos YouTubeTM sydd wedi cael eu plannu yng nghynnwys WYSIWYG/VTBE

    Polisi Preifatrwydd GoogleTM

Maint y ffeil

Nid yw Ally yn gorfodi maint ffeil mwyaf. Efallai bydd achosion lle mae'r algorithm yn methu â chynhyrchu fformatau amgen ar gyfer rai ffeiliau mawr. 

  • Cadwch y cynnwys gwreiddiol yn fyrrach na 100 o dudalennau i gynhyrchu fformat OCR.
  • Cyfyngwch gynnwys i 100,000 o nodau ar gyfer y fformat sain.
  • Cyfyngwch gynnwys i 30,000 o nodau ar gyfer y fformat wedi’i gyfieithu.