Gallwch wella defnyddioldeb a hygyrchedd eich cynnwys

Mae'ch dosbarth yn llawn myfyrwyr amrywiol sydd â galluoedd dysgu unigryw. Mae darparu cynnwys gwreiddiol mwy hygyrch iddynt yn golygu eu bod yn gallu dewis fformatau sy'n gweithio orau iddynt: HTML ar gyfer darllen yn well ar ffonau symudol, Braille Electronig ar gyfer y rhai â nam ar eu golwg, a Sain ar gyfer dysgu wrth symud. Mae Ally yn sganio'ch cynnwys gwreiddiol yn awtomatig ac yn cwblhau cyfres o gamau i'w gwneud yn fwy hygyrch.

  • Cynhyrchu fformatau amgen i fyfyrwyr eu lawrlwytho
  • Darparu sgoriau hygyrchedd
  • Rhoi adborth hyfforddwr ar sut i wella eich sgôr hygyrchedd

Yn nodweddiadol, dylech weld eich sgôr hygyrchedd o fewn 15-90 eiliad. Efallai y bydd hyn yn cymryd mwy o amser os yw'ch cynnwys yn gymhleth, neu os oes gennych lawer o gynnwys cwrs ac mae'n cael ei asesu ar yr un pryd.

Manylion Cychwyn Cyflym Hyfforddwyr Ally


Fformatau amgen

Mae Ally yn creu fformatau amgen o gynnwys eich cwrs yn seiliedig ar y cynnwys gwreiddiol. Bydd y fformatau hyn ar gael gyda'r cynnwys gwreiddiol er mwyn i fyfyrwyr allu dod o hyd i bopeth mewn un lleoliad cyfleus.

Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Caiff y fformatau amgen eu creu drosoch. Os dymunwch, gallwch analluogi fformatau amgen ar gyfer unrhyw eitem benodol o gynnwys am ba bynnag reswm.

Dewiswch yr eicon Lawrlwytho Fformatau Amgen lle bynnag rydych yn ei weld i weld y gwahanol fformatau sydd ar gael ac i’w hanalluogi.

Rhagor am fformatau amgen


Dangosyddion sgôr hygyrchedd

Mae Ally yn mesur hygyrchedd pob ffeil a atodir i’ch cwrs ac yn dangos crynodeb gyflym am sut mae’n sgorio. Mae sgoriau yn amrywio o Isel i Perffaith. Po uchaf y sgôr po leiaf y problemau.

  • Isel: Nid yw’r ffeil yn hygyrch ac mae angen sylw ar unwaith.
  • Canolig: Mae’r ffeil yn weddol hygyrch ond gellid ei gwella.
  • Uchel: Mae'r ffeil yn hygyrch ond gellid ei gwella.
  • Perffaith: Mae’r ffeil yn hygyrch. Nid oes angen ei gwella.

Ar gyfer ffeiliau â sgorau Isel i Uchel , mae Ally yn dangos y problemau i chi ac yn rhoi cyfarwyddyd cam wrth gam ar sut i'w hatgyweirio.

Dewch o hyd i ffeil a dewiswch y Sgôr hygyrchedd. Dilynwch y camau o'ch blaen i fynd cam wrth gam. Dewiswch Pob problem i weld pob problem yn y ffeil ac i benderfynu pa broblemau i'w trwsio’n gyntaf.

Dewiswch Pob problem os ydych am weld cymaint y bydd pob trwsiad yn gwella hygyrchedd y ffeil.

Rhagor am sgoriau hygyrchedd


Adborth yr hyfforddwr

Mae Ally yn rhoi adborth manwl a chymorth i chi i'ch helpu i fod yn arbenigwr ar hygyrchedd. Dysgu am broblemau hygyrchedd, pam eu bod yn bwysig, a sut i'w datrys. Gwyrdd yw'r nod! 

Dewiswch y Sgôr hygyrchedd i agor y panel adborth i hyfforddwyr. Dilynwch y camau o'ch blaen i fynd cam wrth gam. Dewiswch Pob problem i weld pob problem yn y ffeil ac i benderfynu pa broblemau i'w trwsio’n gyntaf.

Dewiswch Pob problem os ydych am weld cymaint y bydd pob trwsiad yn gwella hygyrchedd y ffeil.


Adroddiad hygyrchedd cwrs

Mae'r adroddiad hygyrchedd cwrs yn ategu’r dangosyddion hygyrchedd presennol. Mae’n darparu crynodeb hygyrchedd a throsolwg ar lefel y cwrs.

Mae’r adroddiad yn dangos y wybodaeth ddefnyddiol hon i hyfforddwyr:

  • Sgôr hygyrchedd y cwrs
  • Dosbarthiad cynnwys y cwrs yn ôl math o gynnwys
  • Rhestr o broblemau a adnabyddir yn y cwrs

Mae hyfforddwyr yn gweld eitemau o gynnwys eu cyrsiau sydd â phroblemau. Gall hyfforddwyr wedyn gyrchu'r adborth i hyfforddwyr o’r adroddiad i drwsio'r broblem.

Mae'r adroddiad yn helpu hyfforddwyr i bennu blaenoriaeth ac yn rhoi opsiynau ar gyfer y drefn o drwsio'r problemau. Er enghraifft, y cynnwys sydd â'r problemau mwyaf difrifol yn gyntaf neu ddechrau gyda’r cynnwys sy’n hawsaf ei drwsio.

Rhagor am yr adroddiad hygyrchedd cwrs