Gosod ategion offer, hidlyddion ac adroddiadau Ally

Mae Ally yn cefnogi Moodle 3.4 ac yn uwch.

  1. Lawrlwythwch neu glonio'r fersiwn sydd ei angen arnoch o offeryn gweinyddu Ally o github.

    1. Lawrlwytho fel ffeil ZIP
      1. Newidiwch fersiwn y gangen, os oes angen.
      2. Adolygwch y ffeil version.php i weld a yw'r fersiwn ofynnol o Moodle ("angen") rhif a bod rhif y fersiwn yn cyd-fynd â'ch fersiwn o Moodle. H.y. ar gyfer Moodle 3.4

        $plugin->release = '3.4.3';

        $plugin->requires = 2017111300;

        Dylai fersiwn "3.4.3" weithio gyda gosodiadau Moodle 3.4. Os nad yw'r paramedrau hyn yn cyd-fynd â'ch gosodiad o Moodle, mae'n bosibl y bydd angen ichi newid y gangen eto.

        Rhagor am y fersiynau cyfatebol o Moodle a rhifau'r fersiynau

      3. Lawrlwythwch yr ystorfa gan ddefnyddio "Clonio neu lawrlwytho > Lawrlwytho ZIP"
    2. Clonio ystorfa git
      1. Ewch i'r ffolder offer.

        cd [moodle location]/admin/tool

      2. Cloniwch yr ystorfa
        • Defnyddio SSH

          git clone [email protected]:blackboard-open-source/moodle-tool_ally ally

        • Defnyddio HTTP

          git clone https://github.com/blackboard-open-source/moodle-tool_ally.git ally

      3. Gwiriwch y gangen gyfatebol, h.y. MOODLE_34_STABLE ar gyfer Moodle 3.4

        git checkout MOODLE_34_STABLE

        Gallwch wirio'r gangen am ddiweddariadau hefyd, felly, os ydych wedi diweddaru eich gosodiad o Moodle, gallwch gymryd golwg ar y gangen gyfatebol. Os ni ddaethpwyd o hyd i'ch cangen, mae'n bosibl bod eich ystorfa wedi dyddio, gellir trwsio hyn trwy gyrchu:

        git fetch

  2. Lawrlwythwch neu gloniwch y fersiwn gofynnol o hidlydd Ally o github.

    1. Lawrlwytho fel ffeil ZIP
      1. Newidiwch fersiwn y gangen os oes angen.
      2. Adolygwch y ffeil version.php i weld a yw'r fersiwn ofynnol o Moodle ("angen") rhif a bod rhif y fersiwn yn cyd-fynd â'ch fersiwn o Moodle. H.y. ar gyfer Moodle 3.4

        $plugin->release = '3.4.3';

        $plugin->requires = 2017111300;

        Dylai fersiwn "3.4.3" weithio gyda gosodiadau Moodle 3.4. Os nad yw'r paramedrau hyn yn cyd-fynd â'ch gosodiad o Moodle, mae'n bosibl y bydd angen ichi newid y gangen eto.

        Rhagor am y fersiynau cyfatebol o Moodle a rhifau'r fersiynau.

      3. Lawrlwythwch yr ystorfa gan ddefnyddio "Clonio neu lawrlwytho > Lawrlwytho ZIP"
    2. Clonio ystorfa git
      1. Ewch i'r ffolder offer.

        cd [moodle location]/filter

      2. Cloniwch yr ystorfa
        • Defnyddio SSH

          git clone [email protected]:blackboard-open-source/moodle-filter_ally ally

        • Defnyddio http

          git clone https://github.com/blackboard-open-source/moodle-filter_ally.git ally

      3. Gwiriwch y gangen gyfatebol, h.y. MOODLE_34_STABLE ar gyfer Moodle 3.4

        git checkout MOODLE_34_STABLE

        Gallwch wirio'r gangen am ddiweddariadau hefyd, felly, os ydych wedi diweddaru eich gosodiad o Moodle, gallwch gymryd golwg ar y gangen gyfatebol. Os ni ddaethpwyd o hyd i'ch cangen, mae'n bosibl bod eich ystorfa wedi dyddio, gellir trwsio hyn trwy gyrchu:

        git fetch

  3. Lawrlwythwch neu gloniwch y fersiwn gofynnol o offer LTI adroddiad Ally o github.

    1. Lawrlwytho fel ffeil ZIP
      1. Newidiwch fersiwn y gangen os oes angen.
      2. Adolygwch y ffeil version.php i weld a yw'r fersiwn ofynnol o Moodle ("angen") rhif a bod rhif y fersiwn yn cyd-fynd â'ch fersiwn o Moodle. H.y. ar gyfer Moodle 3.4

        $plugin->release = '3.4.3';

        $plugin->requires = 2017111300;

        Dylai fersiwn "3.4.3" weithio gyda gosodiadau Moodle 3.4. Os nad yw'r paramedrau hyn yn cyd-fynd â'ch gosodiad o Moodle, mae'n bosibl y bydd angen ichi newid y gangen eto.

        Rhagor am y fersiynau cyfatebol o Moodle a rhifau'r fersiynau.

      3. Lawrlwythwch yr ystorfa gan ddefnyddio "Clonio neu lawrlwytho > Lawrlwytho ZIP"
    2. Clonio ystorfa git
      1. Ewch i'r ffolder offer.

        cd [moodle location]/report

      2. Cloniwch yr ystorfa
        • Defnyddio SSH

          git clone [email protected]:blackboard-open-source/moodle-report_allylti ally

        • Defnyddio HTTP

          git clone https://github.com/blackboard-open-source/moodle-report_allylti.git ally

      3. Gwiriwch y gangen gyfatebol, h.y. MOODLE_34_STABLE ar gyfer Moodle 3.4

        git checkout MOODLE_34_STABLE

        Gallwch wirio'r gangen am ddiweddariadau hefyd, felly, os ydych wedi diweddaru eich gosodiad o Moodle, gallwch gymryd golwg ar y gangen gyfatebol. Os ni ddaethpwyd o hyd i'ch cangen, mae'n bosibl bod eich ystorfa wedi dyddio, gellir trwsio hyn trwy gyrchu:

        git fetch

  4. Dilyswch strwythur y ffolderi.

    Dylid rhoi'r enw ally i'r cyfeiriadur offer gweinyddu. Dylai gael llwybr fel a ganlyn:

    [yourmoodledir]/admin/tool/ally

    Dylid rhoi'r enw ally i'r cyfeiriadur hidlyddion. Dylai gael llwybr fel a ganlyn:

    [yourmoodledir]/filter/ally

    Dylid rhoi'r enw allylti i'r cyfeiriadur adroddiadau. Dylai gael llwybr fel a ganlyn:

    [yourmoodledir]/report/allylti

  5. Sicrhewch fod eich gweinydd gwe yn gallu darllen pob ffolder a'i gynnwys.
  6. Mewngofnodwch fel defnyddiwr gweinyddiaeth i'ch safle Moodle ac agorwch y dudalen gweinyddu. Dylai hyn wirio am ategion newydd a'ch cyflwyno â'r opsiwn i Uwchraddio Cronfa Ddata Moodle nawr. Dewiswch y botwm hwn i osod yr ategion.
  7. Ar ôl gosod yr ategion, ewch i Gweinyddiaeth y System > Ategion > Offer Gweinyddu > Ally.
  8. Dewiswch Awto Ffurfweddu gwasanaeth gwe Ally'.

    Ar y sgrin nesaf, fe welwch docyn gwasanaeth gwe ac URL i brofi gwasanaeth gwe Ally yn llawn.

    Mae angen gallu crychu'r URL hwn yn uniongyrchol o'r rhyngrwyd er mwyn i Ally allu ei defnyddio.

    Os yw'n llwyddiannus, bydd angen i chi gopïo tocyn gwasanaeth gwe Ally, a dolen y gwasanaeth gwe a'i darparu i'ch ymgynghorydd technegol ar Ally trwy'r cyfleuster rhannu y byddant yn ei gosod ar IronBox ac yn rhoi mynediad i chi ato trwy ddolen ar e-bost. Byddant yn cysylltu â chi pan fydd popeth yn barod ganddynt ac yn eich darparu â'r 'allwedd', 'cyfrinach', 'URL lansio, 'URL diweddaru ffeiliau' ac 'id y cleient'.

    Os yw'ch fersiwn o Moodle yn defnyddio meysydd personol hanfodol ar gyfer cyfrifon defnyddwyr, "Mewngofnodwch fel" defnyddiwr Gwasanaeth Gwe Ally a gaiff ei greu gan yr ategyn awto-ffurfweddu er mwyn sicrhau bod y meysydd personol hynny yn cael eu llenwi a'u cadw.


Ffurfweddu Ategyn Moodle

Bydd yr ymgynghorydd technegol Ally yn creu cleient Ally gan ddefnyddio Tocyn Gwasanaeth Gwe Moodle a grëir yn yr adran flaenorol a byddant yn darparu'r manylion i chi allu ffurfweddu Ategyn Ally.

  1. Mewngofnodwch fel gweinyddwr Moodle.
  2. O Gweinyddiaeth y safle dewiswch Ategion ac Offer Gweinyddu. Dewiswch Ffurfweddiad Ally.
  3. Rhowch y manylion canlynol
    • Awduron Cynnwys: Y rolau defnyddwyr sy'n awduron cynnwys. Rhaid bod yn: Rheolwr, Crëwr cwrs, Athro/Athrawes (y rolau diofyn).

      Ni fydd angen i hyn newid fel arfer, gofynnir i chi beidio â newid hyn heb ymgynghori ag ymgynghorydd technegol Ally.

    • Allwedd: Yr Allwedd LTI a ddarparwyd gan ymgynghorydd technegol Ally
    • Cyfrinach: Y Gyfrinach LTI a ddarparwyd gan ymgynghorydd technegol Ally
    • URL Lansio: Yr URL Lansio LTI a ddarparwyd gan ymgynghorydd technegol Ally
    • URL Diweddaru Ffeiliau: Yr URL Diweddaru Ffeiliau/Digwyddiadau a ddarparwyd gan ymgynghorydd technegol Ally. https://[AllyEnvironment].ally.ac/api/v1/events
    • ID y Cleient: ID y Cleient a ddarparwyd gan ymgynghorydd technegol Ally
    • Ystod log: Ysgafn
  4. Cadw'r newidiadau.

Adroddiad Sefydliadol Ally

Unwaith bod ategyn Ally wedi cael ei ffurfweddu, byddwch yn gallu cael mynediad at Adroddiad Sefydliadol Ally.

Ni fydd unrhyw ddata yn bresennol yn yr adroddiad tan i gwrs Ally gael ei gysoni a bod yr adroddiad cychwynnol yn cael ei greu.

I gyrchu Adroddiad Sefydliadol Ally, ewch i Gweinyddiaeth y safle a dewiswch Adroddiadau. Dewiswch Hygyrchedd.

Mwy ar Adroddiad Sefydliadol Ally


Hidlydd Ally

Pan fyddwch chi'n barod i gael dangosyddion sgôr hygyrchedd Ally a'r opsiwn lawrlwytho fersiwn Hygyrch Amgen ar gael o fewn Moodle, bydd angen i chi ysgogi hidlydd Ally.

Galluogi hidlydd Ally

  1. O Gweinyddiaeth y safle  dewiswch Ategion  a Trosolwg o'r Ategion.
  2. Ewch i adran Hidlyddion testun i alluogi hidlydd Ally.
  3. Symudwch hidlydd Ally i dop y rhestr o Hidlyddion.

Cyrchu UI Ffurfweddiad Ally

Byddwn yn darparu cyfarwyddiadau i chi ar sut i gyrchu Ffurfweddu Ally yn ystod y broses o osod. Os nad oes gennych fynediad, cyflwynwch gais ar Behind the Blackboard.

Ffurfweddu Cyrsiau Ally


Ffurfweddu cyrsiau

Ewch i'ch tudalen Ffurfweddiad Ally a galluogwch Ally ar gyfer pob un o'ch cyrsiau neu gallwch benderfynu fesul cwrs. Chi sydd i ddewis!

  1. Gweld faint o'ch cyrsiau sy'n defnyddio Ally.
  2. Trowch Ally ymlaen neu i ffwrdd ar gyfer yr holl gyrsiau presennol. Penderfynwch ymlaen llaw os ydych am ei alluogi ar gyfer pob cwrs yn y dyfodol hefyd.
  3. Chwiliwch am gyrsiau unigol neu hidlwch bob cwrs yn ôl galluogwyd, analluogwyd a thymor.
  4. Galluogi neu analluogi Ally ar gyfer cyrsiau unigol.

Galluogi neu analluogi Ally ar gyfer cwrs unigol.

Pan fydd Ally ymlaen, mae hyfforddwyr a myfyrwyr yn elwa o'r sgoriau hygyrchedd, adborth hyfforddwyr a fformatau amgen mae Ally yn eu darparu.

Mae'r Adroddiad sefydliadol ar gael ar gyfer pob cwrs. Does dim ots os yw Ally wedi'i alluogi neu ei analluogi mewn cwrs. Bydd y cwrs yn ymddangos yn yr Adroddiad sefydliadol.

Ffurfweddu Ally, dewiswch y cwrs rydych eisiau ei diweddaru. Defnyddiwch y maes a'r hidlwyr Chwilio i chwilio yn ôl teitl y cwrs, ID y cwrs a chod y cwrs.

Dewiswch Galluogi neu Analluogi o dan y golofn Wedi’i Alluogi i droi Ally ymlaen neu i ffwrdd.

  • Mae Ally i ffwrdd: Dewiswch Galluogi integreiddio UI cwrs i droi
    ymlaen
  • Mae Ally ymlaen: Dewiswch Analluogi integreiddio UI cwrs i ddiffodd

Galluogi neu analluogi Ally ar gyfer pob cwrs.

Ddim yn siŵr a yw'r holl gyrsiau'n defnyddio Ally ai peidio? Ar frig y dudalen Ffurfweddu Ally, gwiriwch faint o'ch cyrsiau sy'n defnyddio Ally ar hyn o bryd.

Pan fydd Ally ymlaen, mae hyfforddwyr a myfyrwyr yn elwa o'r sgoriau hygyrchedd, adborth hyfforddwyr a fformatau amgen mae Ally yn eu darparu.

Mae'r Adroddiad sefydliadol ar gael ar gyfer pob cwrs. Does dim ots os yw Ally wedi'i alluogi neu ei analluogi mewn cwrs. Bydd y cwrs yn ymddangos yn yr Adroddiad sefydliadol.

Gallwch droi Ally ymlaen neu i ffwrdd ym mhob cwrs presennol oddi ar y dudalen Ffurfweddu Ally . Dewiswch Analluogi /galluogi pob cwrs a dewis Analluogi neu Galluogi.

Dewiswch Galluogi mewn cyrsiau yn y dyfodol os ydych chi am i Ally fod ymlaen yn awtomatig ym mhob cwrs newydd.

Os na fyddwch chi'n dewis hyn, ni fydd Ally wedi'i alluogi mewn cyrsiau newydd. Os ydych chi eisiau Ally ymlaen nes ymlaen, trowch Ally ymlaen ar gyfer cyrsiau sengl.

Ar ôl i chi ddewis analluogi neu alluogi ym mhob cwrs, mae angen i chi gadarnhau eich dewis. Dewiswch Galluogi neu Analluogi, yn dibynnu ar eich dewis. Dewiswch Diddymu os ydych chi wedi newid eich meddwl ac nad ydych am newid unrhyw beth.


Galluogi neu analluogi Ally ar gyfer cyrsiau newydd yn unig

Pan fydd Ally ymlaen, mae hyfforddwyr a myfyrwyr yn elwa o'r sgoriau hygyrchedd, adborth hyfforddwyr a fformatau amgen mae Ally yn eu darparu.

Mae'r Adroddiad sefydliadol ar gael ar gyfer pob cwrs. Does dim ots os yw Ally wedi'i alluogi neu ei analluogi mewn cwrs. Bydd y cwrs yn ymddangos yn yr Adroddiad sefydliadol.

Dewiswch Galluogi mewn cyrsiau yn y dyfodol os ydych chi am i Ally fod ymlaen yn awtomatig ym mhob cwrs newydd.

Os na fyddwch chi'n dewis hyn, ni fydd Ally wedi'i alluogi mewn cyrsiau newydd. Os ydych chi eisiau Ally ymlaen nes ymlaen, trowch Ally ymlaen ar gyfer cyrsiau sengl.

Ffurfweddu Gosodiadau Help Ally


Ffurfweddu gosodiadau help defnyddiwr Ally

Ffurfweddwch negeseuon help personol sy'n ymddangos ym moddau Fformatau amgen ac Adborth hyfforddwyr. Gellir defnyddio'r negeseuon help personol i bwyntio myfyrwyr a hyfforddwyr at ddogfennaeth sefydliadol gyfredol, i rannu gwybodaeth gyswllt, ac ati. Pan does dim neges bersonol wedi cael ei ffurfweddu, mae'r dolenni Help yn pwyntio at y tudalennau hyn yn adran gymorth Blackboard:

Gellir ffurfweddu'r cynnwys help personol yn UI Ffurfweddiad Ally, ac mae'n defnyddio'r fformat Markdown i helpu i ddarparu neges strwythuredig a hygyrch.

  1. Ewch i Ffurfweddiad Ally a dewiswch Gosodiadau help.
  2. Dewiswch opsiwn help diofyn neu bersonol ar gyfer help ar adborth i hyfforddwyr a help ar fformatau amgen.
  3. Os byddwch yn dewis yr opsiwn penodol, golygwch y neges Bersonol.

    Defnyddiwch fformat Markdown i helpu i ddarparu neges strwythuredig (a hygyrch).

  4. Dewiswch Cadw'r newidiadau.

Ffurfweddu help arbenigol

Rhoi mynediad hawdd i'ch hyfforddwyr a myfyrwyr at eich tîm o arbenigwyr hygyrchedd. Galluogwch help arbenigol i ychwanegu modd y gall eich defnyddwyr gofyn am ragor o help yn uniongyrchol o baneli fformatau amgen ac adborth hyfforddwr.

Pan grëir cais, anfonir e-bost sy'n cynnwys y cais am help a manylion am y cwrs presennol, yr eitem o gynnwys a'r defnyddiwr at e-bost o'ch dewis.

  1. Ewch i Ffurfweddiad Ally a dewiswch Gosodiadau help.
  2. Dewiswch Darparu help personol ar gyfer help ar Adborth i Hyfforddwyr a help ar Fformatau Amgen.
  3. Dewiswch Galluogi help arbenigol.
  4. Teipiwch gyfeiriad e-bost eich tîm o arbenigwyr hygyrchedd.
  5. Dewiswch Cadw'r newidiadau.

Mae rhaid rhoi naill ai'r caniatâd "Panel Gweinyddydd (Defnyddwyr) > Defnyddwyr" neu "system.user.view" i'r defnyddiwr API Ally ar gyfer yr integreiddiad Blackboard Learn er mwyn i Ally allu cynnwys enw a chyfeiriad e-bost y myfyriwr yn yr e-bost cais am help. Mae rhaid rhoi'r caniatâd “moodle/user:viewalldetails” i'r defnyddiwr API Ally ar gyfer yr integreiddiad Moodle er mwyn i Ally allu cynnwys enw a chyfeiriad e-bost y myfyriwr yn yr e-bost cais am help.

Personoli Nodweddion Ally


Baneri Personoli Nodweddion Ally

Gallwch droi rhai nodweddion ymlaen neu’u diffodd i bersonoli Ally ar gyfer dewisiadau eich sefydliad.

Yn Ffurfweddiad Ally, penderfynwch ba nodweddion rydych eisiau eu galluogi.

  1. Ewch i Ffurfweddiad Ally a dewiswch Nodweddion.
  2. Dewch o hyd i'r nodwedd rydych eisiau ei throi ymlaen neu’i diffodd a dewiswch y nodwedd hon.
    • Fformat amgen y fersiwn cyfieithiedig: Gall myfyrwyr lawrlwytho fformat amgen wedi’i gyfieithu o ffeil wreiddiol.
    • Fformat amgen BeeLine Reader: Gall myfyrwyr lawrlwytho fformat amgen BeeLine Reader.
    • Cael mynediad at Adborth i Hyfforddwyr o'r Adroddiad Sefydliadol: Rhoi mynediad at Adborth i Hyfforddwyr i weinyddwyr, gwasanaethau anabledd, a chynllunwyr hyfforddi.
    • Adborth i hyfforddwyr ar gyfer cynnwys y Golygydd Testun Cyfoethog: Gall hyfforddwyr a gweinyddwyr gyrchu adborth ar gynnwys a grëwyd yng ngolygydd WYSIWYG eich LMS.

      Rhagor am Hygyrchedd WYSIWYG i hyfforddwyr

    • Integreiddio data Ally ag Impact by Instructure (EesySoft yn flaenorol): Gall sefydliadau sydd â thrwydded Impact by Instructure ganiatáu monitro mwy manwl o ryngweithiadau ym moddol y fformatau amgen, adborth i hyfforddwyr, ac adroddiad hygyrchedd cyrsiau. Gall sefydliadau ddefnyddio'r data hwn ar gyfer adroddiadau mabwysiadu ac ymgyrchoedd yn Impact by Instructure. Analluogwyd integreiddiad Impact by Instructure yn ddiofyn.

      Mae angen trwydded Impact by Instructure i ddefnyddio'r integreiddiad hwn.

  3. Dewiswch Galluogi neu Analluogi i droi'r nodwedd ymlaen neu’i diffodd.