Mae Ally yn defnyddio LTI i integreiddio â'ch System Rheoli Dysgu (LMS). Mae LTI yn safon a ddatblygwyd gan IMS Global ar gyfer integreiddiadau diogel a di-dor.
Mae'r safon yn caniatáu i ddefnyddwyr gyrchu Ally heb adael Blackboard Learn. Anghofiwch am fewngofnodi i nifer o safleoedd: Mae LTI yn caniatáu cyfnewid gwybodaeth yn ddiogel sy'n galluogi profiad cydlynol i'ch defnyddwyr.
Mae dau fersiwn LTI: v1.1 a v1.3. Mae gan bob fersiwn gamau ffurfweddu gwahanol. Y fersiwn presennol yw LTI v1.3. Y gwahaniaeth mwyaf o fersiynau blaenorol yw'r model diogelwch uwch sy'n seiliedig ar OAuth2, OpenID Connect a Thocynnau Gwe JSON.
Mae Ally yn symud i LTI 1.3 i fanteisio ar y model diogelwch a uwchraddiwyd.
Beth mae hyn yn ei olygu i chi? Os ydych yn newydd i Ally, dim byd. Rydym yn gosod integreiddiad Ally gyda chi. Ond os ydych eisoes wedi integreiddio Ally â'ch LMS, bydd angen i chi ail-ffurfweddu eich integreiddiad â LTI 1.3.
Analluogi'r adroddiadau Ally LTI 1.1 sydd eisoes yn bodoli
Galluogir adroddiad sefydliadol LTI 1.1 a ffurfweddu cleient yn awtomatig gan floc adeiladu Ally. Mae rhaid analluogi hyn cyn ffurfweddu lansiad LTI 1.3 newydd
Ffurfweddu eich integreiddiad Ally â LTI 1.3
Bydd angen i chi ffurfweddu'r integreiddiad LTI 1.3 drwy ddilyn y broses hon:
- Analluogwch adroddiad LTI 1.1 sydd eisoes yn bodoli, os nad ydych wedi gwneud hyn yn barod.
- Cofrestrwch yr offeryn LTI 1.3 yn eich amgylchedd.
- Anfonwch ID Defnyddio LTI at dîm Ally i'w ffurfweddu.
- Cadarnhewch leoliadau adroddiadau yn eich amgylchedd.
Cofrestru'r offeryn
Cofrestrwch yr offeryn LTI 1.3 yn eich LMS Blackboard Learn.
- Teipiwch ID y Cleient Ally ar gyfer y rhanbarth lle lletyir eich sefydliad:
- Canolfan data yn yr UD: a08b8d26-cc3c-4be3-8506-4d422a1002bd
- Canolfan data yng Nghanada: aa5149a4-f4d4-4d9a-845a-d5d244dc182c
- Canolfan data yn Ewrop: 05654011-e6f9-4540-bdc5-060049ae5211
- Canolfan data yn Singapore: a2ac36a3-8d0e-4737-911a-479e0b560408
- Canolfan data yn Awstralia: f43327b1-9685-4d19-a7fc-91d635be22f1
- Dewiswch yr opsiynau hyn dan Polisïau'r Sefydliad:
- Rôl ar y Cwrs
- Caniatáu Mynediad i Wasanaethau Aelodaeth
- Dewiswch Cyflwyno.
Anfon yr ID Defnyddio i Ally
Ewch i Behind the Blackboard a chrëwch docyn achos cymorth gydag ID Defnyddio'r offeryn, er mwyn i'r tîm Ally allu ffurfweddu'r integreiddiad o fewn system Ally.
Cynhwyswch y wybodaeth hon yn y tocyn cymorth:
- ID Defnyddio LTI yr offeryn
- Cais am osod offeryn LTI 1.3
Er enghraifft, ID Defnyddio fy integreiddiad Ally LTI 1.3 yw: #00000000000000000. Gosodwch fy adroddiad LTI 1.3
Cadarnhau lleoliadau adroddiadau
- Cadarnhewch fod yr Adroddiad Sefydliadol a Ffurfweddu Ally yn ymddangos ym mhanel Gweinyddydd Blackboard Learn dan Offer a Gwasanaethau.
- Ewch i gwrs yn Blackboard Learn a chadarnhewch fod yr Adroddiad Hygyrchedd Cwrs yno.
- Rheolwch leoliadau yr Adroddiadau Adrannol gyda'r wybodaeth hon:
- Label: Adroddiad Adrannol Ally
- Trinydd: ally.department
- Argaeledd: Ie
- Math: Offeryn Gweinyddu
- Copïwch a gludwch y ddolen briodol ym maes URI Dolen Targed. Disodlwch [AllyEnvironment] gyda gwybodaeth am yr amgylchedd mae'ch sefydliad wedi'i letya ynddo.
- Adroddiad sefydliadol: https://institution.[AllyEnvironment]/api/v2/auth/lti/1.3/target
- Ffurfweddu Cleient: https://config.[AllyEnvironment]/api/v2/auth/lti/1.3/target
- Adroddiad Hygyrchedd Cwrs: https://course.[AllyEnvironment]/api/v2/auth/lti/1.3/target
- Copïwch a gludwch y wybodaeth hon i'r maes Paramedrau Personol Darparwr Offeryn:
Lansiad sy'n seiliedig ar rôl
[email protected]@[email protected]@ [email protected]@[email protected]@ [email protected]@[email protected]@
ally_department_id=:role
Lansiad penodol, Rhowch ID yr adran yn lle _123_1.
[email protected]@[email protected]@ [email protected]@[email protected]@ [email protected]@[email protected]@
ally_department_id=_123_1 - Cadarnhewch fod yr Adroddiad Adrannol yn ymddangos ym mhanel Gweinyddydd Blackboard Learn dan Offer a Gwasanaethau.
Amglychedd Ally ar gyfer eich rhanbarth
Defnyddiwch y wybodaeth ar gyfer yr amgylchedd Ally mae'ch sefydliad wedi'i letya ynddo.
- Canolfan data yn yr UD: prod.ally.ac
- Canolfan data yng Nghanada: prod-ca-central-1.ally.ac
- Canolfan data yn Ewrop: prod-eu-central-1.ally.ac
- Canolfan data yn Singapore: prod-ap-southeast-1.ally.ac
- Canolfan data yn Awstralia: prod-ap-southeast-2.ally.ac