Ni sy'n gwneud y gwaith gosod i chi. Os nad ydych wedi gosod Ally, cysylltwch â'ch cynrychiolydd Blackboard neu gyflwynwch gais ar Behind the Blackboard.
Ffurfweddu bloc adeiladu Ally
Mae bloc adeiladu'r Integreiddiad Ally wedi’i osod yn barod ar eich amgylchedd Blackboard Learn. O’r Panel Gweinyddu, dewiswch Blociau Adeiladu ac Offer sydd Wedi’u Gosod i ddod o hyd iddo. Mae Ymgynghorydd Technegol Blackboard yn ffurfweddu'r bloc adeiladu hwn ar eich rhan.
Mae ffurfweddu bloc adeiladu Ally yn cynnwys y camau hyn:
- Gwneud yr integreiddiad ar gael yng ngosodiadau'r integreiddiad Ally.
- Creu defnyddiwr. Ni fydd neb yn mewngofnodi fel y defnyddiwr hwn. Crëir y defnyddiwr hwn i redeg yn erbyn yr integreiddiad API REST a bydd ganddo ganiatâd penodol ynglŷn â’r hyn mae’n gallu ei wneud. Bydd enwau defnyddwyr gan amlaf yn “defnyddiwrally” neu “integreiddiadally”.
Peidiwch â dileu'r defnyddiwr Ally. Os ydych yn dileu'r defnyddiwr, ni fydd yr integreiddiad yn gweithio.
- Ychwanegu gwybodaeth am ddarparwr yr offeryn a pharamedrau personol. Defnyddir gwybodaeth am Allwedd, Cyfrinach, ID y Cleient, URL, a Sgript addasedig i ganiatáu i fformatau amgen, adborth i hyfforddwyr ac adroddiadau Ally lansio yn eich amgylchedd Learn.
Ychwanegir paramedrau sgript addasedig er mwyn i Ally weithio yn y wedd Gwreiddiol.
Mae ID y Cleient yn unigryw i bob amgylchedd. Ni ellir ei rannu rhwng eich amgylcheddau lwyfannu a chynhyrchu.
Beth yw ffurfweddiad y bloc adeiladu yn ychwanegu at eich amgylchedd?
Ar ôl i’r bloc adeiladu gael ei ffurfweddu, byddwch yn gweld bod y cyfrifon, rolau ac offer hyn wedi cael eu hychwanegu at eich amgylchedd:
- Defnyddiwr yr integreiddiad Ally
- Rôl system yr integreiddiad Ally, a bennwyd i ddefnyddiwr yr integreiddiad Ally
- Ffurfweddiad Ally
- Adroddiad Ally
Rhagor am sut i reoli'r offer sydd wedi’u gosod yn Blackboard Learn
Ynghylch defnyddiwr a rôl system Ally
Ar ôl i floc adeiladu'r integreiddiad Ally gael ei ffurfweddu, ychwanegir defnyddiwr a rôl system ar gyfer yr Integreiddiad Ally at eich amgylchedd.
Ni fydd neb yn mewngofnodi gyda chyfrif y defnyddiwr. Crëir y defnyddiwr i redeg yn erbyn integreiddiad API REST. Mae'r rôl Integreiddiad Ally ond yn cael ei ddefnyddio gan y defnyddiwr Ally a ni ddylid ei neilltuo i ddefnyddiwr rheolaidd. Bydd gwallau os bydd cyfrif defnyddiwr rheolaidd yn ceisio mewngofnodi â Rôl System Integreiddiad Ally.
Pennir rôl system yr Integreiddiad Ally a ychwanegir at eich system i'r defnyddiwr. Mae gan y rôl system set o freintiau sy’n diffinio sut mae’r integreiddiad yn gweithio gyda’r amgylchedd.
Peidiwch â dileu defnyddiwr na rôl system Ally. Os ydych yn dileu naill ai'r defnyddiwr neu’r rôl system, ni fydd yr integreiddiad yn gweithio.
Breintiau rôl system yr integreiddiad Ally
- Ychwanegu/Golygu cynnwys dibynadwy gyda sgriptiau: Mae’n caniatáu i Adborth i Hyfforddwyr gadw’r cynnwys yn union fel y’i crëwyd gan hyfforddwyr. Heb y fraint hon, gallai Ally dynnu rhywbeth yn anfwriadol o'r cynnwys y mae hyfforddwr wedi’i ychwanegu.
- Panel Rheoli Cwrs/Mudiad (Offer) > Rheoli Dyddiad: Mae’n caniatáu i Ally gael mynediad at yr offeryn rheoli dyddiad yn y wedd cwrs Gwreiddiol.
- Offeryn Cynghorydd Blackboard Predict: Mae’n caniatáu i Ally gael mynediad at yr offeryn Cynghorydd Predict.
- Panel Gweinyddydd (Defnyddwyr) > Defnyddwyr > Golygu > Gweld Cofrestriadau Mudiadau: Mae’n caniatáu i Ally ddarparu cyfrif myfyrwyr ar gyfer pob mudiad.
Mae Ally yn cyfeirio at fudiadau fel cyrsiau yn adroddiadau'r Sefydliad a Chyrsiau.
- Panel Gweinyddydd (Defnyddwyr) > Defnyddwyr > Golygu > Gweld Cofrestriadau Cyrsiau: Mae’n caniatáu i Ally ddarparu cyfrif myfyrwyr ar gyfer pob cwrs.
- Panel Rheoli Cwrs/Mudiad (Offer) > Profion, Arolygon a Chronfeydd > Adeiladu Prawf, Profion, a Gweld Dyluniad a Gosodiadau Prawf Mae’n caniatáu i Ally sganio a sgorio ffeiliau a atodir neu ddelweddau a blannir yn Nisgrifiad Dolen Cynnwys WYSIWYG profion ac arolygon. Mae'r breintiau hyn yn gweithio gyda’i gilydd ac mae rhaid dewis pob un.
- Panel Rheoli Cwrs/Mudiad (Offer) > Profion, Arolygon a Chronfeydd > Profion > Adeiladu Prawf
- Panel Rheoli Cwrs/Mudiad (Offer) > Profion, Arolygon a Chronfeydd > Profion
- Panel Rheoli Cwrs/Mudiad (Offer) > Profion, Arolygon a Chronfeydd > Profion > Dyluniad a Gosodiadau Prawf
- Cwrs/Mudiad (Meysydd Cynnwys) > Golygu Deunyddiau: Mae’n caniatáu i Ally ddiweddaru priodoleddau delwedd yn nisgrifiadau eitemau o gynnwys.
- Mynediad Darllen, Ysgrifennu, Dileu, Cyflawni at system ffeiliau'r System Gynnwys: Mae’n caniatáu i Ally ysgrifennu ffeiliau yn ôl i’r amgylchedd pan fydd hyfforddwyr yn eu huwchlwytho trwy Adborth i Hyfforddwyr. Mae’r fraint hon hefyd yn caniatáu i Ally ddileu'r ffeiliau sy’n peri trawiadau o Adborth i Hyfforddwyr.
- Mynediad darllen yn unig at system ffeiliau'r System Gynnwys: Mae’n caniatáu i Ally ddarllen ffeiliau er mwyn eu prosesu. Er enghraifft, llwytho neu gysoni cyrsiau.
Ffurfweddu'r integreiddiad API REST
Ffurfweddu'r integreiddiad API REST i ganiatáu i Ally nôl cynnwys a gwybodaeth am gyrsiau o'ch amgylchedd. Mae Ymgynghorydd Technegol Blackboard yn ffurfweddu'r integreiddiad API REST ar eich rhan.
Mae ffurfweddu integreiddiad API REST Ally yn cynnwys y camau hyn:
- Ychwanegu Rhif Adnabod y Rhaglen. Rhif Adnabod y Rhaglen yw’r un rhif bob tro a gallwch ei ailddefnyddio. Rhif Adnabod y Rhaglen: 85d3b720-1a00-45e4-a3ee-c2be80de7295
- Ychwanegu defnyddiwr yr integreiddiad Ally. Bydd enwau defnyddwyr gan amlaf yn “defnyddiwrally” neu “integreiddiadally”.
- Rhoi Mynediad Defnyddiwr i’r API REST. Dewiswch Ie i wneud i’r integreiddiad Ally weithredu fel y defnyddiwr yn hytrach na defnyddiwr unigol ar draws y system.
- Awdurdodi’r API REST i weithredu fel defnyddiwr. Dewiswch Ie i ganiatáu i Ally ddiweddaru cynnwys yn y lleoliad gwreiddiol.
Rhagor am sut i ffurfweddu integreiddiad API REST ar amgylchedd Learn
Ffurfweddu’r adroddiad cyrsiau
Ffurfweddu'r adroddiad cyrsiau i’w ychwanegu at gyrsiau ar eich amgylchedd. Mae Ymgynghorydd Technegol Blackboard yn ffurfweddu'r adroddiad cyrsiau ar eich rhan.