Mae'n Cymryd Pentref
gyda Jeremy Olguin, Chico State University
Cyd-destun prifysgol: Meithrin Amrywiaeth
Chico State yw un o 23 o gampysau system California State University (CSU), ac mae'n gwasanaethau poblogaeth amrywiol o 16,000 o fyfyrwyr o California ac ar draws y byd. Mae Chico yn bwynt mynediad i addysg uwch ar gyfer nifer o fyfyrwyr coleg cenhedlaeth gyntaf a dysgwyr Saesneg. Mae ein tîm yn y Swyddfa Technoleg a Gwasanaethau Hygyrch (OATS) ynghyd ag Adnoddau Gwybodaeth (IRES) wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd i wella mynediad myfyrwyr at awyrgylchoedd dysgu cynhwysol er mwyn cefnogi ein Menter Graddio 2025.
Amcanion Ally: Y Fenter Technoleg Hygyrch
Ymdrech ar draws y system gyfan i wella hygyrchedd yn y Brifysgol yw'r Fenter Technoleg Hygyrch (ATI). Noda un o bileri allweddol ATI pwysigrwydd cynrychioli cynnwys dysgu mewn gwahanol ddulliau a fformatau sy'n addas ar gyfer anghenion yr amrywiaeth o ddysgwyr, fel y disgrifir yng nghanllawiau Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL).
Yn seiliedig ar ein hadroddiad sefydliadol, roeddem yn gwybod y byddem angen ymagwedd raglennol a allai uchafu ein hadnoddau i gefnogi ein hyfforddwyr i fynd i'r afael â'r materion hygyrchedd yng nghynnwys eu cyrsiau, fel y nodwyd gan Ally. Roeddem eisiau sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â dau faes yn ein strategaeth: 1. Sut rydym yn paratoi a chefnogi hyfforddwyr pan fydd dangosyddion Ally yn ymddangos yn eu cyrsiau? 2. Sut bydd ein tîm (2 staff, 15 o gynorthwywyr myfyrwyr) yn delio â chynnydd posibl yn y nifer o geisiadau am adfer cynnwys?
Strategaeth Gosod: Rhannu'r Gwaith
Aethom ati i gyflwyno Ally ar bob campws mewn 4 cam, gan gychwyn gyda grŵp bach o 11 cyfadran gan symud ymlaen i ryddhau'r rhaglen ar bob campws ar ôl cyfnod o 18 mis. Cymerom ymagwedd ymarferol iawn yng nghyfnodau cynnar y peilot, gan ddefnyddio'r adroddiad sefydliadol i asesu lefelau hygyrchedd pob cwrs, cyn cyflwyno cynllun gwelliant personol i hyfforddwyr. Roedd y cynllun yn cynnwys rhestr o eitemau "hawdd" y gallai hyfforddwyr eu trwsio eu hunain gan ddefnyddio Ally, megis ychwanegu disgrifiadau amgen at ddelweddau, a rhestr o eitemau y byddai ein tîm yn eu trwsio iddynt.
Mabwysiadwyd Ally gan y CSUs fel rhan o'u hymdrech i fynd i'r afael â phroblemau hygyrchedd cynnwys, ac er mwyn cryfhau ein hymrwymiad at hyrwyddo egwyddorion UDL yn ein dysgu gyda "fformatau amgen" Ally.I gynyddu maint ein cefnogaeth mewn modd effeithiol, datblygom system tocynnau 2-haen sy'n ein caniatáu i reoli sut rydym yn ymdrin â cheisiadau am welliant yn well. Pan mae hyfforddwr yn gofyn am gefnogaeth ar gyfer mater hygyrchedd a bod dim modd trwsio'r mater yn Ally, fe bennir tocyn haen-1 i bwynt cyswllt yr hygyrchedd, sy'n eu tywys trwy'r mater. Pan fod y gwaith sydd ei angen i drwsio ffeil yn fwy cymhleth, fe bennir tocyn haen-2 i'n tîm gwelliannau. Caiff pob eitem o gynnwys haen-2 ei ychwanegu at ffolder Blwch, lle gallwch olrhain yr amser a gymerir i ni greu fersiwn hygyrch. Mae hyn yn ein caniatáu i ddarparu gwell amcangyfrif o'r amser a gymerir i drwsio materion wrth asesu cyrsiau at y dyfodol.
Yn hytrach na chymryd sefyllfa adweithiol, fe ddefnyddion yr adroddiad sefydliadol i helpu i hysbysu ein strategaeth ar gyfer y peilot: Dechrau'n fach a chynyddu'n raddol."Gwerthusiad a Chanfyddiadau: Y myfyrwyr yn buddio'n uniongyrchol
Unwaith bod y myfyrwyr yn cael eu hamlygu i'r fformatau amgen, dechreuom dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr a hyfforddwyr i alluogi'r fformatau amgen yn eu cyrsiau eraill. Anfonodd un hyfforddwr e-bost hir gan fyfyriwr atom yn gofyn am fynediad at y fformatau amgen. Esboniodd y myfyriwr, mam a oedd yn teithio i'r campws, sut roedd mynediad at y fformatau sain yn caniatáu iddi wrando ar, ac adolygu, deunyddiau cwrs ar ei thaith i'r dosbarth. Mae rhannu straeon fel hyn gyda hyfforddwyr yn ein gohebiaeth wedi helpu pwysleisio gwerth cynnwys hygyrch o ran llwyddiant myfyrwyr. Mae ein tîm gwelliannau hefyd wedi darganfod bod fformat amgen HTML Ally yn gallu bod yn adnodd defnyddiol i wella cynnwys, oherwydd bydd ein tîm yn aml yn defnyddio'r HTML fel man cychwyn mwy hygyrch y gellir ei wella'n gyflymach na'r PDF gwreiddiol.
Gydag Ally, rydym wedi gallu trefnu system fwy effeithiol i ymdrin â cheisiadau i wella cynnwys, ac amcangyfrifaf fod hyn wedi lleihau amser gwella gan 25%.Wrth i ni baratoi ar gyfer y cam olaf o gyflwyno Ally, rydym eisiau sicrhau bod ein gohebiaeth yn cyrraedd y lleisiau angenrheidiol ar draws y campws, er mwyn i hyfforddwyr sy'n newydd i Ally fod yn ymwybodol o'i rôl o fewn menter hygyrchedd CSU a sut mae'n gallu buddio llwyddiant myfyrwyr. Rydym hefyd yn bwriadu hyrwyddo'r fformatau amgen a ddarperir gan Ally trwy ymgyrch wedi'i hanelu at fyfyrwyr yn ystod "Wythnos Groeso" ein campws.
Awgrymiadau Defnyddiol: Meddyliwch am Gynaladwyedd
Pan i ni agor ein hadroddiad sefydliadol am y tro cyntaf, roedd yr heriau hygyrchedd o'n blaenau'n ymddangos yn aruthrol. Aethom ati i gadw cofnod o bob cam o'n proses, gan gynnwys ein gohebiaeth a llifoedd gwaith gwelliant, er mwyn helpu i optimeiddio'r prosesau hynny wrth i ni gyflwyno Ally ar draws y campws. Pwysicaf oll, rydym wedi gwneud Ally yn rhan o ymdrech unedig i ail-gysylltu budd-ddeiliaid a lleisiau allweddol yn Chico a'r CSUs er mwyn gwneud ymdrech ar y cyd i helpu i wneud ein campysau'n fwy hygyrch oherwydd mae hynny wir yn cymryd pentref!