Un Cam ar y Tro
gyda Nikki Stubbs a Pam Warren, Technical College System of Georgia

Cyd-destun prifysgol: Ateb Anghenion y Gweithlu

Yn cynnwys 22 o golegau ar draws 85 lleoliad, mae Technical College System of Georgia (TCSG) yn injan i roi hwb i yrfaoedd a datblygiad y gweithlu, gyda 98% o'n 27,000 o raddedigion y llynedd yn dod o hyd i waith neu'n parhau gyda'u haddysg. Fel rhan o'n cenhadaeth i gynyddu mynediad myfyrwyr at ddysg a hyfforddiant fforddiadwy o ansawdd uchel, mae ein Grant Gyrfa HOPE yn darparu dysg am ddim ar gyfer myfyrwyr cymwys sy'n ymrestru ar gwrs sy'n ymwneud ag un o ddiwydiannau strategol Georgia. Mae ein cwricwla a safonau'n alinio gyda gofynion busnes a diwydiant tra bod ein partneriaethau gyda phrifysgolion a cholegau pedair-blynedd Georgia yn cynnig cyfnodau pontio syml i fyfyrwyr sydd eisiau symud ymlaen gyda'u gweithgareddau academaidd.

Map of TCSG’s 22 colleges across the state of Georgia
Map of TCSG’s 22 colleges across the state of Georgia

Amcanion Ally: Pennu Synnwyr o Gyfeiriad

Mae ein tîm yn Georgia Virtual Technical Connection (GVTC) yn gweithio gyda'r 22 coleg i'w helpu i wella'u cynigion heb gyswllt ac i wella'u defnydd o offer digidol. Yn dilyn ymdrech gychwynnol gan y colegau i fynd i'r afael â hygyrchedd eu gwefannau, dechreuom gymryd rhai camau cyntaf i gefnogi'r colegau i drwsio problemau hygyrchedd gyda chynnwys eu cyrsiau, gan ganolbwyntio ar bum maes a fyddai'n cael llawer o effaith: Delweddau, Arddulliau, Trefnu cynnwys, Dolenni a Lliw. Fel y rhagwelom, er mwyn helpu hyfforddwyr i drwsio eu problemau hygyrchedd, roedd angen gwneud mwy nag anfon rhestr wirio atynt i dynnu eu sylw at safonau WCAG, ond roedd yn fodd o gychwyn y sgwrs ar y thema.

Roeddem yn credu y byddai Ally yn helpu i symud hyfforddwyr allan o'r tywyllwch, ac yn eu darparu â'r mewnwelediadau i gymryd ymagwedd fwy iteraidd at wella un eitem o gynnwys ar y pryd.

Ychydig fisoedd yn unig ar ôl cychwyn ein menter, fe gyhoeddodd yr US Access Board eu 508 Refresh yn ei gwneud yn ofynnol bod campysau'n cydymffurfio â gofynion hygyrchedd digidol erbyn diwedd y flwyddyn. Nid oes angen dweud bod hyn wedi achosi ychydig o banig ymysg hyfforddwyr, a allai fod wedi ystyried newid fformat awyrgylch eu cyrsiau dan bwysau mandad o'r fath. Roedd angen offer arnom i'n helpu i wneud synnwyr strategol o'r heriau o'n blaenau ac er mwyn ein galluogi i gefnogi hyfforddwyr yn well. A dyna pryd i ni ddarganfod Ally.

Strategaeth Gosod: Byddwch yn Well Heddiw

Ar gyfer ein tîm yn GVTC, roedd sefydlu system ohebu gyson a chreu adnoddau hyfforddiant cadarn ar gyfer ein colegau yn hanfodol wrth baratoi i gyflwyno Ally. Gan gydweithio gyda'n Pwyntiau Cyswllt ym mhob coleg, defnyddion ymagwedd hyfforddi'r hyfforddwr at lunio gohebiaeth i hyfforddwyr am ddiben dangosyddion Ally, gan bwysleisio bod dim angen i hyfforddwyr drwsio popeth ar unwaith neu gychwyn dileu cynnwys o'u cyrsiau.

Roeddem eisiau bod yn glir: Nid bod yn berffaith erbyn y diwedd yw'r nod; y nod yw bod yn well heddiw.

Creom fodelau a deunyddiau cwrs a oedd yn mynd i'r afael â hygyrchedd a Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu yn ein hadnoddau dysgu, gan ganolbwyntio ar sut y gallai cynnwys hygyrch wella profiadau dysgu a chanlyniadau pob myfyriwr. Cymerom fantais o adnoddau cyfredol Blackboard i ddylunio ein cynnwys hyfforddiant, a chynyddu ein presenoldeb yng nghyfarfodydd datblygiad y cyfadrannau a'r consortiwm. I helpu hyfforddwyr i oresgyn camsyniadau bod rhaid i gynnwys hygyrch fod yn gynnwys diflas, defnyddiom ymagwedd "un-arall" Thomas Tobin, sy'n annog hyfforddwyr i ddarparu dewis amgen i fyfyrwyr gyda chynnwys a allai fod â phroblemau hygyrchedd.

Gwerthusiad a Chanfyddiadau: Modelau o Lwyddiant

Rhoddom Ally ar waith ar draws y 22 coleg ar yr un diwrnod, ac roedd y canlyniadau'n syfrdanol. Tra bod dim amheuaeth mynydd o waith gwella cynnwys o'n blaenau, roedd Ally yn darparu'r "pam" a "sut" hanfodol am hygyrchedd i hyfforddwyr yn eu cyrsiau eu hunain, gan wneud y broses yn llai brawychus a gyda mwy o arweiniad. Roedd hyd yn oed yr ychydig hyfforddwyr a oedd yn wrthwynebol i gychwyn i'r mandadu hygyrchedd yn falch o gael mynediad at offeryn a oedd yn darparu tryloywder i'r broses. Roedd pob un o'r colegau yn berchen ar eu strategaeth o gyflwyno Ally, gan ein caniatáu - o safbwynt y system - i ddadansoddi pa fentrau oedd yn darparu'r canlyniadau gorau. Roedd eu hadroddiadau sefydliadol yn dangos cynnydd cadarnhaol mewn sgoriau hygyrchedd ar draws 22 coleg, gyda dwy ysgol yn gweld cynnydd o dros 36% mewn un tymor! Roedd swyddfa dysgu o bell un coleg yn anfon awgrymiadau wythnosol i hyfforddwyr, gan roi esboniad syml, un tudalen o hyd o fater penodol.

Rwyf wedi darganfod, unwaith i chi newid eich ffordd o feddwl i un o awyrgylch dysgu hollgynhwysol, mae'n llawer haws creu deunyddiau cyfarwyddiadol na gwneud pethau'r hen ffordd" - Hyfforddwr

Pennodd y coleg arall nod mewnol o gyrraedd 90% hygyrchedd ym mhob cwrs, gan flaenoriaethu'r gefnogaeth ar gyfer gwelliannau, gan gychwyn gyda chyrsiau gyda myfyrwyr sydd ag anableddau hysbys. Mae'r coleg hefyd wedi cyflwyno cwrs hyfforddiant hanfodol ar hygyrchedd ar gyfer hyfforddwyr ac wedi defnyddio model "cwrs sylfaenol" i ddynodi bod cyrsiau wedi cyrraedd 90% hygyrchedd.

Graph showing varying levels of improvement in Ally accessibility score across the 22 colleges.
Graph showing varying levels of improvement in Ally accessibility score across the 22 colleges.

Awgrymiadau Defnyddiol: Arafwch Lawr

Wrth wynebu mynydd o gynnwys anhygyrch, mae ceisio dringo'r llethr uchaf a thrwsio popeth ar unwaith yn debygol o arwain at lawer o wrthwynebiad a rhwystredigaeth. Yn hytrach, dyluniwch lwybr sy'n cyd-fynd â'ch cryfderau ac sy'n manteisio ar yr adnoddau sydd ar gael - megis Pecyn Offer Cyfathrebu a Mabwysiadu Ally - i gefnogi'ch taith. Wrth wylio arferion gorau'n dod i'r amlwg yn y 22 lleoliad y cyflwynwyd Ally, fe welsom fod colegau'n gallu gwneud cynnydd sylweddol ar eu sgoriau hygyrchedd trwy gymryd ymagwedd amyneddgar, iteraidd at drwsio problemau cynnwys. Er mwyn gwneud pethau'n haws ar gyfer ein colegau, rydym yn mireinio sut rydym yn olrhain cynnydd a defnydd o Ally er mwyn i ni allu bod yn fwy ymatebol i anghenion hyfforddwyr wrth iddynt gymryd y camau nesaf yn eu taith o ddysgu cynhwysol.