Ally ar gyfer ymarfer cynhwysol
gyda Claire Gardner, Prifysgol Derby

Cyd-destun Prifysgol: "Strategaethau at Lwyddiant"

Mae Prifysgol Derby yn Brifysgol Aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth mewn Addysgu yng nghanolbarth Lloegr gyda dros 17,000 o fyfyrwyr wedi'u hymrestru ar 300+ o raglenni astudio. Fel rhan o'n hymrwymiad at lwyddiant myfyrwyr, rydym wedi gwneud ymdrech benodol i sicrhau bod ein profiadau addysgu'n gynhwysol ac yn gyfiawn i bob un o'n myfyrwyr. Gan gydnabod anghenion a sefyllfaoedd amrywiol ein myfyrwyr, nod menter dysgu cynhwysol Derby yw darparu awyrgylchoedd cefnogol, mwy hygyrch i fyfyrwyr ddysgu'n annibynnol y tu mewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth.

Learning space at Derby’s “The Learning Curve”
Learning space at Derby’s “The Learning Curve”

Amcanion Ally: Cefnogi Dysgu Cynhwysol

Yn seiliedig ar Strategaeth Defnyddio Technoleg i Wella'r Dysgu (TEL), cyflwynodd Derby "Gwaelodlinau Rhaglenni Ymarfer Digidol" fel fframwaith i feincnodi arferion ac i gefnogi profiad dysgu digidol myfyrwyr. Mae'r Gwaelodlinau'n cynnwys ffurflen hunan-adolygiad a gwblheir unwaith y flwyddyn gan Arweinwyr/Timau Rhaglenni i helpu olrhain cynnydd a rhoi strategaethau o welliant ar waith. Mae'r gwaelodlinau hefyd yn cynnwys adran ar gynwysoldeb, sy'n gofyn i ddarlithwyr gadw cofnod o ymagwedd gyson at greu ac adolygu hygyrchedd cynnwys eu cyrsiau.

Fe welsom Ally fel offeryn y gellid ei defnyddio i gefnogi ein menter cynwysoldeb

Gan ddefnyddio adroddiad sefydliadol Ally, roedd yn haws i ni olrhain ein cynnydd gyda hygyrchedd ar lefel cwrs unigol ac ar lefel campws. Er enghraifft, roeddem yn gallu adnabod rhai tueddiadau cadarnhaol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn ogystal â'r ardaloedd ar y campws lle roeddem yn llwyddo, megis ein rhaglenni ar-lein a oedd yn defnyddio templedi cwrs a ysgrifennwyd gan ddylunwyr hyfforddiadol. Fe welsom adborth hyfforddwyr Ally fel modd greddfol i'n darlithwyr ddod yn fwy ymwybodol o faterion hygyrchedd yn eu cyrsiau ac i'w cynorthwyo i wella eu cynnwys. I gynorthwyo gyda'r ymdrech hon, fe weithiodd ein tîm o Dechnegwyr Addysgu trwy adborth Ally i ymgyfarwyddo ein hunain gyda nodweddion Ally er mwyn paratoi ar gyfer gweithdai a chwestiynau gan ddarlithwyr.

Strategaeth Gosod: Cyfathrebu a Gweithdai

Ar ôl profi mewn 10 modiwl, aethom ati i ryddhau Ally ar draws y Brifysgol, gyda hyn yn cymryd tua pythefnos i'w roi ar waith ar draws ein platfform, gan gynnwys ar raglenni a modiwlau cyfredol a blaenorol. Er bod gennym rhai pryderon am ymateb y staff i ddangosyddion Ally, fe ddyfeisiom strategaeth glir o negeseuon yn esbonio diben a nod Ally ar gyfer ein darlithwyr. Rhoddwyd pwynt cyswllt iddynt yn y swyddfa Defnyddio Technoleg i Wella'r Dysgu ac fe ychwanegwyd canllawiau Ally at ein Llawlyfr Arferion Digidol i ategu ein deunyddiau cyfredol ar ddylunio cyrsiau hygyrch.

Yn hytrach, fe'u hanogwyd i ddefnyddio adborth Ally i feddwl am newidiadau bychan y gallent eu gwneud i'w cynnwys eu hunain, ac i gysylltu â'r adran gymorth gydag unrhyw broblemau nad oeddent yn gallu eu datrys eu hunain.

Yn ein e-byst at ddarlithwyr, pwysleisiom fod dangosyddion Ally yn weladwy iddyn nhw'n unig, ac mai nod Ally oedd cefnogi eu meincnodau dysgu cynhwysol. Gosodwyd disgwyliadau y gellid eu rheoli ar gyfer y darlithwyr yn ein gohebiaeth ac roedd yna bresenoldeb uchel yng ngweithdy "Defnyddio Technoleg ar gyfer Dysgu Cynhwysol", efallai oherwydd bod y pwnc yn fwy cyfarwydd ac yn rhan o fenter cynhwysiant y campws.

Gwerthusiad a Chanfyddiadau: Gwelwyd gwelliant! 

Ar y diwrnod lansio, roeddem yn disgwyl y byddai'r ffôn yn canu drwy'r dydd, ond fe dderbyniom un galwad yn unig gan ddarlithydd. Er bod dim gorchymyn yn ein negeseuon bod darlithwyr yn cymryd unrhyw gamau i wella cynnwys eu cyrsiau ar unwaith, fe welsom gynnydd o 3% yn ein hygyrchedd cyffredinol mewn dim ond 2 fis. Mae lansiad Ally hefyd wedi arwain at fwy o sgwrs am ddylunio dysgu cynhwysol, fel y dangoswyd gan y presenoldeb uchel ar gyfer ein gweithdy "Defnyddio Technoleg ar gyfer Dysgu Cynhwysol". 

Rydym yn gweld Ally yn helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith darlithwyr am werth fformatau amgen, hygyrch o ran llwyddiant myfyrwyr. Rydym hefyd yn gweld bod Ally yn ein helpu i feincnodi ein cynnydd gyda hygyrchedd cynnwys yn fwy cywir a hefyd yn hysbysu ein strategaeth hygyrchedd ar draws y Brifysgol. Rydym wrthi'n dylunio arolygon i ddarlithwyr a myfyrwyr am adborth mwy manwl am hygyrchedd, eu defnydd o Ally, a'n strwythurau cefnogaeth. Ein her fwyaf bydd cadw'r sgwrs i fynd a chynyddu ein hymdrechion wrth i ni fynd i'r afael â materion hygyrchedd a dysgu cynhwysol mwy cymhleth yn yr awyrgylch dysgu rhithwir. 

Screen shot from “Inclusive Practice” support page
Screen shot from “Inclusive Practice” support page

Awgrymiadau Defnyddiol: Dechreuwch gydag Ymwybyddiaeth 

Rydym yn gweld addysg gynhwysol fel newid diwylliannol sy'n cychwyn trwy godi ymwybyddiaeth am y rhwystrau sy'n atal myfyrwyr rhag cael profiadau dysgu cyfiawn, cynhwysol. Trwy gynnwys Ally fel rhan o fenter ehangach ar y campws yn ymwneud â dysgu cynhwysol, roeddem yn gallu cyfathrebu'n well i ddarlithwyr am y diben a'r hyn a ddisgwylir ganddynt o ran defnyddio Ally. Helpodd hyn i leddfu eu pryderon, i gychwyn sgyrsiau ac i yrru strategaeth raglennol o newid. 

Adnoddau

Dysgwch fwy am "Gwaelodlinau Rhaglenni Ymarfer Digidol", a enillodd Wobr Catalydd Blackboard ar gyfer Dysgu ac Addysgu yn 2018.