Dringo'r Sgôrfwrdd Hygyrchedd
gyda Debra Padden a Christopher Soran, Tacoma Community College

Cyd-destun coleg: Hygyrch a Fforddiadwy i Bawb

Wedi'i leoli ar Puget Sound yn nhalaith Washington, mae Tacoma Community College (TCC) yn gwasanaethu dros 11,000 o fyfyrwyr y flwyddyn. Rydym yn cynnig amrediad o raglenni seiliedig ar radd, cyfleoedd addysg gydol oes, a dros 30 o raglenni galwedigaethol a thechnegol. I gefnogi Gweledigaeth Strategol TCC i gael awyrgylchoedd dysgu mwy cyfiawn a chynhwysol, mae ein Swyddfa eDdysgu'n blaenoriaethu'r defnydd o gynnwys digidol hygyrch a fforddiadwy. Trwy ein desg gymorth, ein Dylunydd Hyfforddiadol, ein cydlynydd Adnoddau Addysgol Agored (OER), a'n tîm amlgyfrwng, ein nod yw darparu myfyrwyr ac athrawon gydag offer dysgu arloesol a chefnogaeth o ansawdd uchel.

Amcanion Ally: Opsiynau Ymrwymo

Cyn Ally, roedd ein cynnig eDdysgu'n cynnwys nifer o offer digidol a oedd yn rhoi ychydig mwy o ddewis a hyblygrwydd i fyfyrwyr o ran sut roeddent yn ymrwymo gyda chynnwys eu cyrsiau, megis yr opsiwn i wrando ar destun. Gwelom fod myfyrwyr gydag anableddau hysbys yn buddio o ddefnyddio'r mathau hyn o offer, yn yr un modd â nifer o Ddysgwyr Saesneg Ail Iaith a myfyrwyr o bell. Er hyn, roeddem yn teimlo bod rhai bylchau yn ein set gyfredol o offer a oedd yn cyfyngu ar eu heffaith bosib ar hygyrchedd a llwyddiant myfyrwyr. Gyda Ally, roeddem yn gweld cynnyrch a allai wella mynediad myfyrwyr at amrywiaeth fwy o fformatau amgen wedi'u lawrlwytho'n uniongyrchol o ffeiliau neu fodiwlau cyrsiau, gan gynyddu ymwybyddiaeth athrawon o werth cynnwys hygyrch ar gyfer pob myfyriwr.

Gyda Ally, roeddem yn gweld cynnyrch a allai wella mynediad myfyrwyr at amrywiaeth fwy o fformatau amgen yn uniongyrchol o ffeiliau neu fodiwlau cyrsiau, gan gynyddu ymwybyddiaeth athrawon o werth cynnwys hygyrch ar gyfer pob myfyriwr.

Pan ofynnom am Ally, fe glywom bod y Washington State Board (SBCTC) hefyd yn ystyried mabwysiadu Ally ar gyfer eu 34 o golegau cymunedol a thechnegol fel rhan o ymrwymiad talaith-gyfan at Bolisi Technegol Hygyrch 2016. Gyda hygyrchedd yn dod yn fwy o flaenoriaeth, roeddem yn gweld Ally fel offeryn i gychwyn y sgwrs gydag athrawon am bwysigrwydd cynnwys hygyrch, agored, ac yn gyfle i'n swyddfa eDdysgu gymryd rhai camau strategol i gefnogi cyfadrannau i wneud eu cyrsiau'n fwy cynhwysol.

Accessibility Resource Center Staff “Moving Forward” Initiative
Accessibility Resource Center Staff “Moving Forward” Initiative

Strategaeth Gosod: Rhoi Hwb i Hygyrchedd

I drefnu ein proses o adolygu cyrsiau ac i helpu athrawon i gad cofnod o'u gwelliannau hygyrchedd, dyluniom restr wirio hygyrchedd. Roedd y rhestr yn cynnwys fformatio cynnwys HTML, fformatio'r maes llafur, ychwanegu capsiynau at gynnwys fideo, a gwirio hygyrchedd ffeiliau a dogfennau cyrsiau gan ddefnyddio Ally. Mewn ymgais i helpu athrawon gyda'u cynnwys, defnyddiom Ally i hyfforddi ein staff eDdysgu ar sut i gywiro problemau, gan mai profiad cyfyngedig yn unig oedd gan rai ohonynt o ysgrifennu dogfennau hygyrch. Yn y cyfnod cyn cyflwyno Ally ar draws y campysau, fe bostiom gyhoeddiadau ar dudalen flaen ein hawyrgylch ar Canvas, anfon e-byst rheolaidd a chyflwyno Ally mewn gweithdai.

Roeddem hefyd eisiau ysgogi ein hathrawon i gymryd rhan a dod ag ychydig o hwyl i'r fenter hygyrchedd, felly fe benderfynom droi'r fenter yn gêm!.

Roeddem hefyd eisiau ysgogi ein hathrawon i gymryd rhan a dod ag ychydig o hwyl i'r fenter hygyrchedd, felly fe benderfynom droi'r fenter yn gêm!. Rhoddom werthoedd pwyntiau i bob eitem ar y rhestr wirio, megis 25 pwynt am gael maes llafur hygyrch, 25 pwynt am gapsiynu pob fideo yn y cwrs, neu 100 pwynt am gael cwrs gwbl hygyrch. [Cymerwch olwg ar y "Strwythur Pwyntiau" am restr lawn] Fe ddyfarnom wobrau pan roeddent yn cyrraedd cyfansymiau penodol, a hyd yn oed creu sgôrfwrdd a oedd yn dangos cyfanswm pwyntiau'r athrawon er mwyn creu ychydig o gystadleuaeth gyfeillgar.

Workshop conducted by Christopher Soran, Director of eLearning
Workshop conducted by Christopher Soran, Director of eLearning

Gwerthusiad a Chanfyddiadau: Athrawon Brwdfrydig yn Gwneud Gwelliannau

Trwy ymdrech gydweithredol, ymroddedig ar draws ein campysau, mae ein hadroddiad sefydliadol yn dangos cynnydd o 31 pwynt mewn mis yn ein sgôr hygyrchedd gyffredinol, gyda chymorth Ally!

Pan i ni gyflwyno Ally ar y campysau, roedd ymateb yr athrawon i'r dangosyddion yn gadarnhaol, gan roi cyfle iddynt weld manylion o hygyrchedd eu ffeiliau am y tro cyntaf. Ysgogodd y dangosyddion yr athrawon i geisio cymorth gan ein swyddfa gyda materion nad oeddent yn gallu eu datrys eu hunain, ac roeddem yn gallu ymdrin â'r gofynion hynny gan fod ein staff wedi derbyn hyfforddiant arnynt ac roedd hyn yn arbed amser gydag adborth ac adrodd ar Ally. Fe welsom hefyd bod athrawon, yn gyffredinol, yn mwynhau ac yn cael eu hysgogi gan y sgôrfwrdd a'r gwobrau, a'n bod yn gallu cymedroli hyn gan ddefnyddio Ally i bennu a oedd gan athrawon unrhyw ddangosyddion coch neu oren nesaf at y ffeiliau gweithredol yn eu cyrsiau bellach.

Yn sydyn, mae Ally wedi dod yn hanfodol i sut mae athrawon yn dylunio eu cyrsiau, a sut mae'n swyddfa eDdysgu yn eu cefnogi pan mae angen cymorth arnynt. Trwy helpu i sbarduno'r sgwrs hygyrchedd rhwng ein timau eDdysgu ac athrawon, rydym hyd yn oed wedi gallu defnyddio Ally i gefnogi ein menter OER trwy annog athrawon i gyfnewid eu cynnwys anhygyrch â hawlfraint am gynnwys OER hygyrch a chreu dolen at adnoddau cronfa ddata llyfrgell hygyrch. Trwy ymdrech gydweithredol, ymroddedig ar draws ein campysau, mae ein hadroddiad sefydliadol yn dangos cynnydd o 31 pwynt mewn mis yn ein sgôr hygyrchedd gyffredinol, gyda chymorth Ally!

Awgrymiadau Defnyddiol: Canolbwyntiwch ar yr Effaith ar Fyfyrwyr, Cadwch Bethau'n Hwyl

Er bod rhai gofynion cyfreithiol a pholisïau talaith yn gallu gyrru campysau i weithredu, nid oes rhaid i'r llwybr at gynhwysiant fod yn frawychus neu'n ansicr i athrawon. Gall ganolbwyntio ar yr amryw ffyrdd y gall cynnwys hygyrch fuddio pob myfyriwr - megis gwneud cyrsiau'n fwy cyfeillgar i ddyfeisiau symudol ar gyfer myfyrwyr sydd efallai heb fynediad cyson at gyfrifiadur - ynghyd â helpu athrawon i adnabod gwerth cynnwys hygyrch o ran llwyddiant myfyrwyr, a gall ei ysbrydoli i gymryd ymagwedd fwy rhagweithiol at wneud gwelliannau. Trwy gyfuno offeryn fel Ally â'r strwythurau cefnogaeth cywir ac ychwanegu ychydig o hwyl yn y broses, gallwn ysgogi a grymuso athrawon i wneud dyluniad cynhwysol yn flaenoriaeth yn eu dysgu.