Mae BeeLine Reader yn gwneud darllen ar sgrin yn haws ac yn gyflymach. Yn hytrach na defnyddio testun du plaen, mae BeeLine Reader yn arddangos testun gan ddefnyddio graddfa lliwiau ysgafn sy’n helpu arwain eich llygad trwy eich darlleniadau. Mae’r fformat arddangos newydd hwn wedi’i anrhydeddu gan y Cenhedloedd Unedig ac mae’n cael ei ddefnyddio gan ddarllenwyr yn 120 o wledydd ar draws y byd.

Rhagor am y fformat amgen BeeLine Reader

Defnyddiwch yr adnoddau hyn i gyflwyno BeeLine Reader i’ch staff a myfyrwyr.


Bwletin neu Gyhoeddiad LMS

Astudio wrth gymudo? Cael salwch teithio wrth ddarllen? Lawrlwythwch eich ffeiliau cwrs yn y fformat BeeLine Reader. Dewiswch yr eicon nesaf at eich ffeiliau cwrs a dewiswch “Fformatau Amgen” o'r ddewislen. Dysgu rhagor am BeeLine Reader ar wefan gymorth Blackboard.


E-bost cyffredinol (byr)

Annwyl Fyfyriwr,

Astudio wrth gymudo? Cael salwch teithio wrth ddarllen? Mae BeeLine Reader yn helpu gydag olrhain gweledol. Nawr gallwch astudio wrth deithio. Lawrlwythwch eich ffeiliau cwrs yn y fformat BeeLine Reader. Nesaf at eich ffeiliau cwrs, byddwch yn gweld eicon i ddewis “Fformatau Amgen.” Dewiswch y fformat BeeLine Reader. Am ddisgrifiad llawn o'r Fformatau sydd ar gael, ewch i wefan gymorth Blackboard.


E-bost cyffredinol (hir)

Annwyl Fyfyriwr,

Mae [Sefydliad] wedi cael ei ddethol i gymryd rhan mewn arbrawf a rhedir gan Blackboard Ally sy’n rhoi mynediad i ni at offeryn dysgu newydd sy’n gallu eich helpu i ddarllen yn gyflymach ac yn haws.

Yn hytrach na defnyddio testun du plaen, mae BeeLine Reader yn arddangos testun gan ddefnyddio graddfa lliwiau ysgafn. Mae’r raddfa hon yn arwain eich llygaid trwy’r testun, yn eich helpu i ddarllen yn gyflymach ac yn fwy effeithlon. Gallwch ddarllen rhagor am BeeLine Reader yn The Atlantic neu ar wefan BeeLine Reader (lle gallwch weld sut mae’n gweithio trwy’r demo rhyngweithiol).

Mae’r nodwedd newydd hon ar gael i chi yn barod, felly gallwch ei defnyddio gyda’ch deunydd cwrs. I weld sut i ddefnyddio'r nodwedd, gallwch weld y fideo byr hwn, neu ddilyn y camau hawdd hyn:

  1. Wrth lawrlwytho ffeil cwrs, dewiswch Fformatau Amgen.
  2. Dewiswch y fformat BeeLine Reader i lawrlwytho ffeil HTML uwch a ellir ei hagor mewn unrhyw borwr gwe, ar unrhyw ddyfais.
  3. Agorwch y ffeil a dewiswch sgema lliwiau o'ch dewis.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod inni am beth rydych yn ei feddwl am BeeLine Reader, a’i weithrediad yn Blackboard Ally!


E-bostio adran ryngwladol/ESL

Rydym wedi cael ein dethol i gymryd rhan mewn arbrawf a rhedir gan Blackboard Ally sy’n rhoi mynediad i ni at offeryn dysgu newydd a allai fod yn arbennig o ddefnyddiol i’n myfyrwyr ELL. Mae’r offeryn hwn, a enwir yn BeeLine Reader, yn cael ei weithredu yn Blackboard Ally, ac rydym ymhlith yr ysgolion cyntaf i gael mynediad at y nodwedd.

Yn hytrach na defnyddio testun du plaen, mae BeeLine Reader yn arddangos testun gan ddefnyddio graddfa lliwiau ysgafn. Mae’r raddfa hon yn arwain llygaid y darllenydd trwy’r testun, yn cynyddu llithrigrwydd a dealltwriaeth wrth ddarllen. Dangoswyd bod BeeLine Reader yn arbennig o effeithiol ymhlith myfyrwyr ELL a myfyrwyr â dyslecsia, ADHD, neu heriau dysgu eraill.

Gallwch weld sut mae BeeLine Reader yn edrych yn y demo rhyngweithiol hwn. I weld sut gall myfyrwyr ddefnyddio'r nodwedd hon wrth ddarllen deunydd eu cyrsiau, gweler y fideo hwn

Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni am unrhyw straeon am lwyddiant neu ddarnau eraill o adborth gan fyfyrwyr fel ein bod yn gallu rhannu hyn â Blackboard Ally.


E-bostio cefnogaeth academaidd i athletau

Rydym wedi cael ein dethol i gymryd rhan mewn arbrawf a rhedir gan Blackboard Ally sy’n rhoi mynediad i ni at offeryn dysgu newydd a allai fod yn arbennig o ddefnyddiol i’n myfyrwyr athletaidd. Mae’r offeryn hwn, a enwir yn BeeLine Reader, yn cael ei weithredu yn Blackboard Ally, ac rydym ymhlith yr ysgolion cyntaf i gael mynediad at y nodwedd.

Yn hytrach na defnyddio testun du plaen, mae BeeLine Reader yn arddangos testun gan ddefnyddio graddfa lliwiau ysgafn. Mae’r raddfa hon yn arwain llygaid y darllenydd trwy’r testun, yn cynyddu llithrigrwydd a dealltwriaeth wrth ddarllen. Gall BeeLine Reader helpu ein myfyrwyr athletaidd prysur gan eu helpu i ddarllen yn fwy effeithiol, a'u helpu i ddarllen wrth deithio i neu o gemau (mae'r nodwedd yn gwneud darllen mewn cerbyd yn llawer haws). Mae BeeLine Reader hefyd yn ddefnyddiol iawn ar gyfer pobl sydd wedi cael cyfergyd neu anafiadau trawmatig eraill i'r ymennydd, sy’n gallu achosi anawsterau gydag olrhain gweledol.

Gallwch weld sut mae BeeLine Reader yn edrych yn y demo rhyngweithiol hwn. I weld sut gall myfyrwyr ddefnyddio'r nodwedd hon wrth ddarllen deunydd eu cyrsiau, gweler y fideo hwn

Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni am unrhyw straeon am lwyddiant neu ddarnau eraill o adborth gan fyfyrwyr fel ein bod yn gallu rhannu hyn â Blackboard Ally.