Mae'r pwyntiau gorffen sydd wedi'u cynnwys yn yr API ar gyfer adroddiadau yn bwyntiau gorffen preifat ac nid oes ganddynt bolisi anghymeradwyo ar hyn o bryd. Gall Antholeg Ally newid neu ddiweddaru'r pwyntiau gorffen hyn yn dibynnu ar ein map ffordd neu fersiynau rydym yn eu rhyddhau yn y dyfodol.
Adolygwch y ddogfennaeth dechnegol ganlynol i ddysgu sut i osod ac addasu eich pwyntiau gorffen yn briodol. Mae croeso i chi fwrw golwg ar sut i integreiddio API Ally ag Offeryn Adroddiadau Allanol i gael arweiniad ychwanegol.
Dulliau sydd ar gael
Mae gan API Ally ar gyfer adroddiadau ddau ddull. Mae'r adran ganlynol yn eu disgrifio:
Dull | URL | Mais o Gais HTTP | Disgrifiad |
Cyffredinol | https://[rhanbarth]/api/v2/clients/[ID Cleient Ally]/reports/overall | Cael | Yn ddiofyn, mae'r dull hwn yn dychwelyd set ddata gyda gwybodaeth am y cwrs, WYSIWYG, a sgoriau ffeiliau a mathau o ffeiliau a gynhwysir ym mhob cwrs o enghraiff yr LMS, heb ystyried a yw Ally wedi'i alluogi ai peidio. |
Problemau | https://[rhanbarth]/api/v2/clients/[ID Cleient Ally]/reports/issues | Cael | Yn ddiofyn, mae'r dull hwn yn dychwelyd set ddata gyda gwybodaeth sy'n gysylltiedig â phob problem hygyrchedd sy'n digwydd ym mhob cwrs, wedi'u cynnwys yn enghraifft yr LMS, heb ystyried a yw Ally wedi'i alluogi ai peidio. |
Rhowch eich ID Ally yn lle [ID Cleient Ally]. Os nad ydych yn gwybod eich ID, gallwch greu tocyn cymorth i ofyn amdano.
Newidiwch [Rhanbarth] yn seiliedig ar y rhanbarth mae amgylchedd Ally eich sefydliad wedi'i letya ynddi:
- Canolfan ddata UDA: prod.ally.ac
- Canolfan ddata Canada: prod-ca-central-1.ally.ac
- Canolfan ddata Ewrop: prod-eu-central-1.ally.ac
- Canolfan ddata Singapôr: prod-ap-southeast-1.ally.ac
- Canolfan ddata Awstralia: prod-ap-southeast-2.ally.ac
Gall y wybodaeth uchod amrywio yn dibynnu ar yr LMS. Gallwch adolygu diffiniad y golofn yn Nogfennaeth yr Adroddiad Cwrs ar gyfer pob LMS:
Ymateb Statws HTTP
Mae API Ally yn cynnwys maes statws yn y metaddata fel a ganlyn:
- Statws 200 - Llwyddiannus: Derbyniwyd eich cais yn llwyddiannus ac mae'r set ddata y gofynnwyd amdani yn rhan o'r ymateb.
- Statws 202 - Wrthi'n prosesu: Derbyniwyd eich cais yn llwyddiannus ond mae'r set ddata wrthi'n cael ei pharatoi, ac nid yw ar gael eto. Gwnewch eich cais eto ar ôl ychydig o amser (argymhellir aros un munud ar y lleiaf).
- Statws 401 - Heb awdurdodi: Nid yw'r ID Cleient Ally neu'r tocyn awdurdodi yn gywir.
- Statws 400 - Cais gwael: Mae gan yr URL enw paramedr annilys, er enghraifft, opsiwn hidlo, gweithredydd neu werth anhysbys. Adolygwch gystrawen yr URL. Cofiwch fod rhai o'r opsiynau hidlo a threfnu yn gwahaniaethu rhwng llythrennau bach a phriflythrennau.
Dogfennaeth Dulliau
Dull: Cyffredinol
Cais HTTP: CAEL
https:// [Rhanbarth]/api/v2/clients/[ID Cleient Ally]/reports/overall
Rhowch eich ID Ally yn lle [ID Cleient Ally]. Os nad ydych yn gwybod eich ID, gallwch greu tocyn cymorth i ofyn amdano.
Newidiwch [Rhanbarth] yn seiliedig ar y rhanbarth mae amgylchedd Ally eich sefydliad wedi'i letya ynddi:
- Canolfan ddata UDA: prod.ally.ac
- Canolfan ddata Canada: prod-ca-central-1.ally.ac
- Canolfan ddata Ewrop: prod-eu-central-1.ally.ac
- Canolfan ddata Singapôr: prod-ap-southeast-1.ally.ac
- Canolfan ddata Awstralia: prod-ap-southeast-2.ally.ac
Awdurdodi: Tocyn cludwr OAuth.
Paramedrau: Hidlyddion neu opsiynau trefnu dewisol.
Corff y Cais: Dim
Ymateb:
{
"data": [
{
"application/x-quiz": 2,
"observedDeletedOn": "",
"termName": "Hydref 2016",
"courseId": "1",
"application/x-announcement": 0,
"image": 4,
"termId": "2",
"document": 93,
"allyEnabled": true,
"pdf": 74,
"courseCode": "BIO101",
"application/x-assignment": 0,
"departmentId": "1",
"totalFiles": 192,
"courseUrl": "https://ally.instructure.com/courses/1",
"departmentName": "Anthology Ally",
"application/x-page": 1,
"filesScore": 0.6022810739019293,
"application/x-syllabus": 1,
"numberOfStudents": 1,
"html-page": 5,
"lastCheckedOn": "2022-04-13 15:33:23",
"WYSIWYGScore": 1.0,
"totalWYSIWYG": 5,
"courseName": "Bioleg 101",
"application/x-discussion-topic": 1,
"other": 11,
"overallScore": 0.6129724428830603,
"presentation": 5
}
],
"metadata": {
"filteredTotal": 0,
"total": 7186,
"to": 7186,
"status": "Wrthi'n prosesu",
"from": 1
}
}
Dull: Problemau
Cais HTTP: CAEL
https:// [Rhanbarth]/api/v2/clients/[ID Cleient Ally]/reports/overall
Rhowch eich ID Ally yn lle [ID Cleient Ally]. Os nad ydych yn gwybod eich ID, gallwch greu tocyn cymorth i ofyn amdano.
Newidiwch [Rhanbarth] yn seiliedig ar y rhanbarth mae amgylchedd Ally eich sefydliad wedi'i letya ynddi:
- Canolfan ddata UDA: prod.ally.ac
- Canolfan ddata Canada: prod-ca-central-1.ally.ac
- Canolfan ddata Ewrop: prod-eu-central-1.ally.ac
- Canolfan ddata Singapôr: prod-ap-southeast-1.ally.ac
- Canolfan ddata Awstralia: prod-ap-southeast-2.ally.ac
Awdurdodi: Tocyn cludwr OAuth
Paramedrau: Hidlyddion neu opsiynau trefnu dewisol.
Corff y Cais: Dim
Ymateb:
{
"data": [
{
"imageDecorative2": 4,
"htmlEmptyHeading2": 0,
"imageSeizure1": 2,
"observedDeletedOn": "",
"htmlObjectAlt2": 0,
"security1": 3,
"termName": "Hydref 2016",
"courseId": "1",
"languageCorrect3": 14,
"htmlColorContrast2": 2,
"htmlLinkName3": 0,
"termId": "2",
"languagePresence3": 10,
"allyEnabled": true,
"htmlLabel2": 0,
"alternativeText2": 68,
"htmlImageAlt2": 0,
"htmlImageRedundantAlt3": 0,
"headingsPresence2": 20,
"courseCode": "BIO101",
"headingsSequential3": 4,
"departmentId": "1",
"htmlHeadingsPresence2": 0,
"courseUrl": "https://ally.instructure.com/courses/1",
"headingsStartAtOne3": 4,
"departmentName": "Anthology Ally",
"htmlHeadingsStart2": 0,
"htmlTdHasHeader2": 0,
"htmlList3": 0,
"htmlDefinitionList3": 0,
"htmlCaption2": 0,
"tableHeaders2": 23,
"htmlEmptyTableHeader2": 0,
"htmlHasLang3": 1,
"ocred2": 0,
"scanned1": 6,
"htmlBrokenLink2": 0,
"numberOfStudents": 1,
"htmlHeadingOrder3": 0,
"lastCheckedOn": "2022-04-13 15:33:23",
"headingsHigherLevel3": 0,
"contrast2": 28,
"title3": 46,
"imageOcr3": 0,
"tagged2": 4,
"libraryReference": 172,
"courseName": "Bioleg 101",
"imageContrast2": 0,
"imageDescription2": 4,
"htmlTitle3": 1,
"parsable1": 2
}
],
"metadata": {
"filteredTotal": 0,
"total": 7186,
"to": 7186,
"status": "Wrthi'n prosesu",
"from": 1
}
}
Ble:
- Data: yn cynnwys set ddata'r canlyniadau.
- Metaddata:
- I: cofnod y caiff data ei nôl iddo, mae'n "gwrthbwys" + "terfyn" neu'n "cyfanswm" os yw'r swm yn fwy na'r "cyfanswm".
- O: cofnod y bydd y data yn dechrau ohono, mae'n “gwrthbwys” + 1.
- Cyfanswm: cyfanswm y cyrsiau a ystyrir gan Ally yn enghraifft yr LMS.
Gwrthbwys - pa gofnod y bydd yn dechrau ohono
- Mae'r rhes gyntaf yn wrthbwys = 0,
- Pan fydd gwrthbwys < 0 bydd y defnyddiwr yn cael gwall 400 - [Gwerth annilys (paramedr=gwrthbwys, neges=Dim data o'r fath)],
- Pan fydd (gwrthbwys >= cyfanswm) => bydd y defnyddiwr yn cael gwall 400 - [Gwerth annilys (paramedr=gwrthbwys, neges=Dim data o'r fath)]
Terfyn - faint o gofnodion sy'n cael eu nôl gan ddechrau o'r gwrthbwys
- Pan fydd (terfyn < 1) bydd y defnyddiwr yn cael gwall 400 - [Gwerth annilys (paramedr=terfyn, neges=Mae'r terfyn y tu allan i'r ffiniau)]
- Pan fydd (terfyn > 10000) bydd y defnyddiwr yn cael gwall 400 - [Gwerth annilys (paramedr=terfyn, neges=Mae'r terfyn y tu allan i'r ffiniau)]
- Pan fydd (gwrthbwys < cyfanswm && gwrthbwys + terfyn > cyfanswm) byddwn yn newid y terfyn yn y cefndir i chi, a chaiff y data ei nôl tan y (cyfanswm) olaf
Hidlyddion ac opsiynau trefnu
Mae modd hidlo ymatebion Pwyntiau Gorffen yn yr URL. Mae'r adran hon yn disgrifio'r opsiynau sydd ar gael:
Opsiynau trefnu
Gallwch ddiffinio a ydych eisiau dangos y canlyniadau wedi'u trefnu yn esgynnol neu'n ddisgynnol gan ystyried un maen prawf. Os oes angen i chi ychwanegu opsiwn trefnu, bydd yn rhaid i chi ychwanegu'r paramedr trefnu fel y'i disgrifir isod:
endpoint-url?sort=<Gwerth paramedr trefnu>
Lle gall <Gwerth paramedr trefnu> fod yn unrhyw un o'r gwerthoedd paramedr canlynol:
Gwerth paramedr | Disgrifiad | Cefnogir yn | Enghraifft |
courseName | Trefnu yn ôl enw cwrs, e.e. Cemeg 101 {nid yw courseCode yn ddilys) | Pwyntiau gorffen Cyffredinol a Phroblemau | endpoint-url?sort=courseName |
courseId | Trefnu yn ôl rhif adnabod cwrs, e.e. 123456 (mae hwn fel arfer yn rhif cyfan) | Pwyntiau gorffen Cyffredinol a Phroblemau | endpoint-url?sort=courseId |
termId | Trefnu yn ôl ID tymor. E.e. Haf | Pwyntiau gorffen Cyffredinol a Phroblemau | endpoint-url?sort=termId |
termName | Trefnu yn ôl enw tymor. e.e. Haf | Pwyntiau gorffen Cyffredinol a Phroblemau | endpoint-url?sort=termName |
overallScore | Trefnu yn ôl sgôr hygyrchedd cyffredinol pob cwrs. | Pwynt gorffen Cyffredinol yn unig. | endpoint-url?sort=overallScore |
filesScore | Trefnu'r canlyniadau yn ôl sgôr ffeil pob cwrs. | Pwynt gorffen Cyffredinol yn unig. | endpoint-url?sort=filesScore |
wysiwygScore | Trefnu'r canlyniadau yn ôl sgôr WYSIWYG pob cwrs. | Pwynt gorffen Cyffredinol a dim ond ar gael ar gyfer Ally ar gyfer LMS. | endpoint-url?sort= wysiwygScore |
webPagesScore | Trefnu'r canlyniadau yn ôl sgôr tudalen we pob parth. | Pwynt gorffen Cyffredinol a dim ond ar gael ar gyfer Ally ar gyfer y We ac WCM. | endpoint-url?sort= webPagesScore |
Mae gwerthoedd paramedr yn gwahaniaethu rhwng priflythrennau a llythrennau bach, ac mae dim ond modd defnyddio un opsiwn trefnu ar y tro.
Yn ddiofyn, mae'r canlyniadau'n cael eu trefnu'n esgynnol. Os ydych eisiau gosod trefn wahanol, gallwch ychwanegu'r paramedr trefnu:
endpoint-url?sort=<Gwerth paramedr trefnu>&order=<Gwerth trefnu>
Lle gall <Gwerth trefnu> fod yn: asc neu desc
Enghraifft:
https://prod.ally.ac/api/v2/clients/0/issues?sort=courseName&order=desc
Opsiynau hidlo
Gallwch ddefnyddio opsiynau hidlo i gael ymatebion llai neu lai o ymatebion yn seiliedig ar y meini prawf a ddewiswyd. Os oes angen i chi ychwanegu opsiwn hidlo, bydd yn rhaid i chi ychwanegu'r paramedr hidlo fel y'i disgrifir isod:
Paramedrau Hidlo (heb weithredydd)
Enw'r paramedr hidlo | Disgrifiad | Cefnogir yn |
allyEnabled | Gallwch gael y cyrsiau lle mae Ally yn weithredol Mae'r gwerth yn wir neu'n gau | Pwyntiau gorffen Cyffredinol a Phroblemau |
departmentId | Hidlo yn ôl ID yr adran | Pwyntiau gorffen Cyffredinol a Phroblemau |
departmentName | Hidlo yn ôl enw'r adran. e.e. Peirianneg | Pwyntiau gorffen Cyffredinol a Phroblemau |
termId | Hidlo yn ôl ID y tymor | Pwyntiau gorffen Cyffredinol a Phroblemau |
termName | Hidlo yn ôl enw'r tymor. e.e. Haf | Pwyntiau gorffen Cyffredinol a Phroblemau |
courseId | Hidlo yn ôl rhif adnabod cwrs. e.e. 123456 (mae hwn fel arfer yn rhif cyfan) | Pwyntiau gorffen Cyffredinol a Phroblemau |
courseName | Hidlo yn ôl enw cwrs. E.e. Cemeg 101 (nid yw courseCode yn ddilys) | Pwyntiau gorffen Cyffredinol a Phroblemau |
endpoint-url?<Paramedr Hidlo>=<gwerth>
Paramedrau Hidlo (gyda gweithredydd)
endpoint-url?<Paramedr Hidlo>=<Gweithredydd>:<gwerth>
Ble:
- <Paramedr Hidlo>: Paramedr hidlo i gael set lai o ganlyniadau. Gallwch weld y paramedrau a gefnogir yn y tabl isod.
- <Gweithredydd>: Mae'n rhaid i chi ddefnyddio gweithredydd i hidlo, fel yn hafal, neu ddim yn hafal.
- <gwerth>: Gwerth a ddefnyddir yn yr hidlydd.
Enw'r paramedr hidlo | Math o faes | Gweithredyddion a gefnogir | Disgrifiad | Cefnogir yn |
allyEnabled | Boolean | eq, ne | Gallwch gael y cyrsiau lle mae Ally yn weithredol. Mae'r gwerth yn wir neu'n gau. | Pwyntiau gorffen Cyffredinol a Phroblemau |
courseName | Llinyn | eq, ne, co, nc, sw | Hidlo yn ôl enw cwrs. E.e. Cemeg 101 (nid yw courseCode yn ddilys) | Pwyntiau gorffen Cyffredinol a Phroblemau |
courseId | Llinyn | eq, ne, co, nc, sw | Hidlo yn ôl rhif adnabod cwrs. E.e. 123456 (mae hwn fel arfer yn rhif cyfan) | Pwyntiau gorffen Cyffredinol a Phroblemau |
termId | Llinyn | eq, ne, co, nc, sw | Hidlo yn ôl ID y tymor. | Pwyntiau gorffen Cyffredinol a Phroblemau |
termName | Llinyn | eq, ne, co, nc, sw | Hidlo yn ôl enw'r tymor. e.e Haf | Pwyntiau gorffen Cyffredinol a Phroblemau |
overallScore | Rhif | eq, ne, le, lt, ge, gt | Gallwch hidlo yn ôl sgôr cyffredinol. e.e. Cyrsiau â sgôr sy'n hafal i 90% | Pwynt gorffen Cyffredinol ac ym mhob datrysiad Ally: LMS, gwefannau, a WCM. |
filesScore | Rhif | eq, ne, le, lt, ge, gt | Gallwch hidlo yn ôl y sgôr ffeiliau. e.e. Cyrsiau â sgôr ffeiliau sy'n hafal i 90% | Pwynt gorffen Cyffredinol ac ym mhob datrysiad Ally: LMS, gwefannau, a WCM. |
wysiwygScore | Rhif | eq, ne, le, lt, ge, gt | Gallwch hidlo yn ôl y sgôr WYSIWYG. e.e. Cyrsiau â sgôr WYSIWYG sy'n hafal i 90% | Pwynt gorffen Cyffredinol a dim ond ar gael ar gyfer Ally ar gyfer LMS. |
webPagesScore | Rhif | eq, ne, le, lt, ge, gt | Gallwch hidlo yn ôl sgôr parth. e.e. Tudalennau gwe â sgôr sy'n hafal i 90%. | Pwynt gorffen Cyffredinol a dim ond ar gael ar gyfer Ally ar gyfer y We neu WCM. |
Mae gwerthoedd paramedrau'n gwahaniaethu rhwng priflythrennau a llythrennau bach.
Gweithredyddion a Gefnogir
Mae'r tabl canlynol yn cynnwys y gweithredyddion a gefnogir yn seiliedig ar y math o faes:
Math o faes | Gweithredydd | Disgrifiad |
Llinyn | eq | Yn hafal |
Llinyn | ne | Nid yw'n hafal |
Llinyn | co | Yn cynnwys allweddair |
Llinyn | nc | Nid yw'n cynnwys allweddair |
Llinyn | sw | Yn dechrau gydag allweddair |
Rhif | eq | Yn hafal |
Rhif | ne | Nid yw'n hafal |
Rhif | le | Yn llai na neu'n hafal |
Rhif | lt | Yn llai na |
Rhif | ge | Yn fwy na neu'n hafal |
Rhif | gt | Yn fwy na |
Enghraifft:
Mae'r enghraifft ganlynol yn nôl yr holl gyrsiau sy'n cynnwys yr allweddair "profion" yn enw'r cwrs:
https://prod.ally.ac/api/v2/clients/15/reports/overall?courseName=co:profion
Defnyddio hidlyddion lluosog
Gallwch gyfuno'r opsiynau trefnu a hidlo yn yr un URL pwynt gorffen drwy ychwanegu'r nod "&" rhwng y ddau amod. Er enghraifft, gadewch i ni ddweud eich bod am nôl yr holl gyrsiau sy'n cynnwys yr allweddair "prawf" yn enw'r cwrs lle mae Ally wedi'i alluogi, ac mae'r sgôr cyffredinol yn llai na 90%. Byddai'r URL yn edrych fel hyn:
https://prod.ally.ac/api/v2/clients/0/overall?courseName=co:prawf&allyEnabled=true&overallScore=lt:0.9
Gallwch hefyd ddefnyddio dau opsiwn hidlo. Er enghraifft, gadewch i ni ddweud bod angen i chi gael yr holl gyrsiau sydd â sgôr cyffredinol rhwng 10% a 70%:
https://prod.ally.ac/api/v2/clients/0/reports/overall?overallScore=ge:0.1&overallScore=le:0.7