Mae offer adroddiadau allanol yn cynnig nifer o fanteision, gan gynnwys patrymau data gwell, opsiynau addasu, a phrosesau awtomatig ar gyfer adroddiadau. Gall sefydliadau ddadansoddi setiau data cymhleth yn hawdd gan ddefnyddio amrywiaeth o fathau o siartiau, graffiau, a dangosfyrddau. Trwy addasu'r elfennau data a ddangosir, gallant deilwra adroddiadau i'w hanghenion penodol. Gydag adroddiadau awtomatig, mae defnyddwyr yn arbed amser ac adnoddau gwerthfawr, gan symleiddio'r broses o gynhyrchu adroddiadau.
Trwy gyfuno galluoedd nôl data API Ally â nodweddion patrymau data a dadansoddi uwch offer adroddiadau poblogaidd, gall sefydliadau ddatgloi mewnwelediadau i hwyluso penderfyniadau sy'n cael eu hysbysu gan ddata.
Mae croeso i chi adolygu'r ddogfennaeth dechnegol ar gyfer Pwyntiau Gorffen yr API Adroddiadau i ddysgu sut i osod ac addasu eich pwyntiau gorffen yn briodol.
Cyn i chi ddechrau arni
I integreiddio API Ally â'r offeryn adroddiadau o'ch dewis bydd angen y canlynol arnoch:
- Offeryn adroddiadau allanol fel Power BI, Tableau, Microsoft Excel, neu SAP Analytics, ymhlith eraill
- Mynediad i Adroddiad Sefydliadol Ally (Gweinyddwyr yn unig)
- Tocyn awdurdodi API (ar gael yn yr Adroddiad Sefydliadol)
- URL y Pwynt Gorffen (ar gael ar y dudalen help hon)
- Eich ID Cleient Ally (cysylltwch â'n tîm Cymorth os nad oes gennych yr ID hwn)
Cofiwch y bydd angen i chi newid rhwng y dudalen help hon, yr Adroddiad Sefydliadol, a'r offeryn adroddiadau allanol i osod popeth yn llwyddiannus.
Sut i integreiddio API Ally ag offeryn adroddiadau allanol
- Cyrchwch eich Adroddiad Sefydliadol. Dysgu sut i gael mynediad i'r Adroddiad Sefydliadol.
- Yn y tab Trosolwg dewiswch y botwm Allgludo ar y dde.
- Dewiswch Cysylltu ag offer allanol.
- Bydd ffenestr foddol yn ymddangos gyda thocyn a gynhyrchir yn awtomatig. Dewiswch Copïo'r tocyn.
Mae tocynnau API yn dod i ben ar ôl blwyddyn. I gael tocyn newydd, dilynwch y canllaw hwn i osod eich offeryn adroddiadau allanol eto.
- Ewch i'r offeryn adroddiadau allanol o'ch dewis. Ar gyfer yr enghraifft hon, byddwn yn dangos sut i osod API Ally â Power BI.
Mae gan offer adroddiadau allanol eraill ryngwynebau gwahanol, ond, maent i gyd yn dilyn camau tebyg fel y'u dangosir isod. Cyfeiriwch at ddogfennaeth eich offeryn adroddiadau os oes angen cymorth arnoch i osod eich ffynhonnell ddata.
- Agorwch Power BI Desktop
- Dewiswch Cael Data o opsiynau'r tab Hafan.
- Dewiswch Gwe o'r rhestr a ddangosir.
- Dewiswch yr opsiwn Uwch yn y ffenestr foddol O'r we.
- Teipiwch Awdurdodi ym maes paramedr pennawd y cais HTTP.
- Yn y blwch testun i'r dde, teipiwch Cludwr, ychwanegwch fwlch, a gludwch y tocyn o'r Adroddiad Sefydliadol.
- Copïwch un o'r URLau Pwyntiau Gorffen canlynol:
- https://[Rhanbarth]/api/v2/clients/[ID Cleient Ally]/reports/overall
- https://[Rhanbarth]/api/v2/clients/[ID Cleient Ally]/reports/issues
Mae modd rhannu data Adroddiad Ally yn adrannau Trosolwg a Phroblemau. Mae'r ddau yn cael eu defnyddio ar gyfer pob un o'ch cyrsiau yn eich sefydliad. Dewiswch URL y Pwynt Gorffen sy'n well gennych.
- Gludwch URL y Pwynt Gorffen yn y maes llwybrau URL yn ffenestr ffodol O'r We Power BI.
- Rhowch eich ID Ally unigryw yn lle [ID Cleient Ally].
Os nad oes gennych yr ID hwn, cysylltwch â'n tîm Cymorth. Cofiwch mai'r ID Cleient Ally yw'r hwn, nid yr ID LMS.
- Newidiwch [Rhanbarth] yn seiliedig ar y rhanbarth mae amgylchedd Ally eich sefydliad wedi'i letya ynddi:
- Canolfan ddata UDA: prod.ally.ac
- Canolfan ddata Canada: prod-ca-central-1.ally.ac
- Canolfan ddata Ewrop: prod-eu-central-1.ally.ac
- Canolfan ddata Singapôr: prod-ap-southeast-1.ally.ac
- Canolfan ddata Awstralia: prod-ap-southeast-2.ally.ac
- Unwaith y bydd y camau hyn wedi'u cwblhau, dylai ffenestr ffodol O'r We Power BI edrych fel hyn:
- Dewiswch Iawn i ddechrau'r ymholiad yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd.
Gan ddibynnu ar nifer y cofnodion, efallai bydd angen ychydig o amser paratoi ar y set ddata. Mae Ally yn ymateb gyda "statws" sy'n rhoi gwybod i'r defnyddiwr a yw'r data yn dal i gael ei brosesu. Yn Power BI, gallwch weld hyn drwy ddewis "Metaddata wedi'i ehangu" a chwilio'r golofn metadata.status:
Pan fydd y statws yn "Wrthi'n prosesu" bydd angen i chi aros nes bod y data yn barod. Dewiswch y botwm "Adnewyddu'r rhagolwg" ar y rhuban uchaf i alw'r API eto a gweld a yw'r data'n barod. Os yw'r set ddata yn barod, bydd yr holl gofnodion yn cael eu dangos a bydd y golofn metadata.status yn dangos y statws "Llwyddiannus".
- Yn olaf, dewiswch Cau a Defnyddio yn y gornel chwith uchaf.
Amser adnewyddu data
Mae data ffynhonnell yn cael ei ddiweddaru'n fewnol bob 15 munud ar gyfer unrhyw un o'r pwyntiau gorffen. Ystyriwch hyn wrth alw ar y pwynt gorffen i nôl y data ar gyfer eich adroddiadau.
Terfyn ymatebion
Cofiwch fod y terfyn ymatebion fesul galwad ar bwynt gorffen yn 10,000 o gofnodion. Os na ddangosir rhai cofnodion yn y 10,000 o gofnodion cyntaf, bydd angen i chi ddefnyddio opsiynau hidlo neu drefnu.