Hidlwch y rhestr o nodweddion i ddysgu rhagor.
Dilynwch y dudalen hon i gael diweddariadau ar e-bost pan fyddwn yn cyhoeddi nodiadau profion swyddogaethol newydd
Mae Blackboard wedi ymrwymo i gyflwyno profiadau cynnyrch o ansawdd sy'n bodloni safonau hygyrchedd cyffredinol. Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae Blackboard yn cynnwys profion swyddogaethol yn ein harchwiliad hygyrchedd. Mae profion swyddogaethol yn gofyn i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin geisio tasgau gan ddefnyddio JAWS yn bennaf. Maen nhw’n profi swyddogaethau newydd sydd ar gael a thasgau cyffredin. Er enghraifft, creu aseiniad fel hyfforddwr neu gymryd prawf fel myfyriwr. Mae’r profion swyddogaethol hyn yn rhoi adborth i Blackboard am le gellir gwella ein rhaglenni. Mae Blackboard yn defnyddio'r adborth hwn i flaenoriaethu trwsio problemau hygyrchedd.
Y canlynol yw'r hyn rydym wedi’i brofi.