Pa gynnwys mae Ally yn ei wirio?
Ar hyn o bryd, mae Ally yn gwirio ffeiliau yn y fformatau hyn:
- Ffeiliau PDF
- Ffeiliau Microsoft® Word
- Ffeiliau Microsoft® PowerPoint®
- Ffeiliau OpenOffice/LibreOffice
- Ffeiliau HTML wedi’u huwchlwytho
- Ffeiliau delweddau (JPG, JPEG, GIF, PNG, BMP, TIFF)
- Cynnwys WYSIWYG/VTBE
Mae canlyniadau ar gyfer cynnwys WYSIWYG ond yn ymddangos yr Adroddiad Sefydliadol ac Adroddiad hygyrchedd cwrs.
- Fideos YouTubeTM sydd wedi cael eu plannu yng nghynnwys WYSIWYG/VTBE
Pa broblemau hygyrchedd y mae Ally yn edrych amdanynt?
Mae rhestr wirio hygyrchedd Ally yn seiliedig ar WCAG 2.2 AA (Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We). Mae hon yn safon hygyrchedd ryngwladol, ac mae'r rhan fwyaf o'r ddeddfwriaeth a'r gofynion cyfreithiol newydd ledled y byd yn cyd-fynd â'r safon hon.
Yn ogystal, mae Ally hefyd yn ychwanegu nifer o wiriadau ychwanegol ar ben hynny sy'n cychwyn targedu defnyddioldeb ac ansawdd deunyddiau cwrs ychydig yn fwy.
Beth ydy Ally yn ei wneud â chynnwys nad yw’n gallu ei wirio?
Mae Ally yn nodi cynnwys nad yw’n gallu ei wirio am broblemau hygyrchedd, megis ffeiliau ZIP archif a ffeiliau XML, o dan “Arall” yn yr adroddiad sefydliadol. Ni roddir sgôr hygyrchedd i’r cynnwys hwn ac nid yw’n cael ei gynnwys fel rhan o sgôr hygyrchedd y sefydliad. Nid oes ganddo ddangosydd neu fformatau amgen a ellir eu lawrlwytho trwy’r Rhyngwyneb Defnyddiwr. .
Rhagor o wybodaeth am yr adroddiad sefydliadol ar gyfer gweinyddwyr
Beth ydy gwiriad cyferbynnedd?
Mae gwiriadau cyferbynnedd yn wiriadau sy’n canfod a oes ddigon o gyferbyniad rhwng lliw testun a lliw ei gefndir. Gall pawb weld hi’n anodd darllen cynnwys sydd â diffyg cyferbyniad rhwng lliw'r testun a lliw'r cefndir ond mae myfyrwyr sydd â nam ar eu golwg megis lliwddallineb yn gweld hi’n arbennig o anodd ei ddarllen.
Mae Ally yn defnyddio'r gofynion cyferbyniad a nodir yng nghanllawiau WCAG 2.2 AA.
Defnyddiwch Colour Contrast Analyser gan The Paciello Group i wirio’ch cynnwys ar unrhyw adeg.