Pedair egwyddor hygyrchedd PowerPoint®
Mae'r prif egwyddorion hygyrchedd yn cynnwys:
Lawrlwythwch y canllaw hwn:
Teitlau sleidiau
Defnyddiwch dempledi sleidiau rhag-ddiffiniedig PowerPoint yn hytrach na chreu templedi personol. Mae gan y templedi hyn deitlau sleidiau wedi adeiladau i mewn i'w strwythur. Mae teitlau sleidiau'n darparu strwythur penawdau ar gyfer defnyddwyr darllenydd sgrin.
Ar dab Hafan, dewiswch osodiadau o ddewislen Sleid Newydd neu Gosodiad a dewiswch sleid sy'n cynnwys teitl ac elfennau strwythurol priodol.
Os nad ydych chi eisiau i'r teitl fod yn weladwy ar eich sleid, gwnewch y canlynol:
- Windows: Dewiswch ddewislen Trefnu yn cwarel Darlunio y tab Hafan. Dewiswch Cwarel Dethol. Dewiswch eicon y llygad nesaf at y blwch testun i'w dangos neu ei guddio.
- Mac: Dewiswch ddewislen Trefnu o'r tab Hafan. Dewiswch Cwarel Dethol ar waelod y ddewislen. Dewiswch eicon y llygad nesaf at y teitl i'w dangos neu ei guddio.
Pethau i'w hystyried wrth ychwanegu teitlau sleidiau
- Dylai pob sleid cael teitl sleid sydd naill ai'n weladwy neu'n gudd.
- Defnyddiwch deitlau pennawd unigryw ar gyfer pob sleid. Os oes sawl sleid yn cyfeirio at yr un pwnc, ystyriwch ychwanegu "parhad" i ddiwedd teitl y sleid neu ei chuddio.
Trefn darllen
Yn ddiofyn, trefn darllen sleid yw'r drefn yr ychwanegwyd yr eitemau. Efallai nad dyma sut rydych eisiau i bobl ddarllen y sleid. Gwiriwch y drefn darllen a'i ail-drefnu os oes angen.
- Agorwch y Panel Dethol.
- Windows: Ar dab Hafan a'r cwarel Darlunio, dewiswch Trefnu. Dewiswch Panel Dethol.
- Mac: Ar dab Hafan, dewiswch Trefnu. Dewiswch Panel Dethol.
- Mae'r Panel Dethol yn rhestru'r holl eitemau ar y sleid. Bydd y gwrthrychau'n cael eu darllen yn ôl gan gychwyn gyda'r eitem ar waelod y rhestr a gorffen gyda'r eitem ar dop y rhestr. Aildrefnu'r eitemau.
- Windows: Defnyddiwch y saethau i aildrefnu'r gwrthrychau.
- Mac: Dewiswch a llusgwch y siapau i addasu'r drefn darllen. Mae llinell las yn ymddangos ac yn eich tywys i leoliad eitemau.
- Efallai ni fydd testun a ychwanegwyd mewn blychau testun yn ymddangos yn y Wedd Amlinellol. Gellir copïo a gludo'r testun hwn i mewn i'r Wedd Amlinellol.
- I'r gwrthwyneb, dylai teitlau sleidiau sydd wedi cael eu cuddio dal i ymddangos fel testun yn y Wedd Amlinellol.
Pethau i'w ystyried wrth osod trefn darllen
- Sicrhewch fod eich trefn darllen yn rhesymegol.
- Mae gan dempledi parod PowerPoint trefn darllen rhag-ddiffiniedig. Gyda sleidiau byddwch yn eu creu o sleid wag, mae'n debygol y bydd angen i chi osod y drefn darllen eich hun.
Testun amgen ar gyfer delweddau
Mae darllenwyr sgrin yn defnyddio testun amgen i ddarparu gwybodaeth i ddefnyddwyr am ddelweddau.
Yn gyntaf, gofynnwch i chi'ch hun beth yw diben y ddelwedd. Os nad ydych chi'n gwybod ystyr neu bwrpas y ddelwedd, peidiwch â'i ddefnyddio! Annibendod ydyw ac mi fydd hi'n ormod i'r rhai sydd ag anabledd dysgu. Nesaf, dylai’r testun amgen fod yn syml a chryno, a disgrifio yn union beth yw’r ddelwedd. Er enghraifft, alt="photograph of a Cell Dividing". Os yw'r delwedd yn ddiagram sy’n cyfleu gwybodaeth fwy cymhleth, mae angen disgrifiad hir neu fformat testunol o’r deunydd.
- Fformatio'r llun.
- Windows: De-gliciwch ar y ddelwedd a dewiswch Fformatio Llun.
- Mac: Dwbl-gliciwch ar y ddelwedd er mwyn i ddewisiadau Fformatio Llun ymddangos.
- Dewiswch drydydd eicon Maint a Phriodweddau ac yna ardal gwymp Testun Amgen.
- Ym meysydd Teitl a Disgrifiad, teipiwch yr un testun amgen ar gyfer y ddelwedd. Dylai'r testun amgen gyflwyno ystyr neu ddiben y ddelwedd yn hytrach na ddisgrifiad llythrennol o'i golwg.
Pethau i'w hystyried wrth ddarparu Testun Amgen ar gyfer delweddau
- Nid oes angen i chi gynnwys "delwedd o" neu "llun o" yn y disgrifiad.
- Rhaid cynnwys unrhyw destun o fewn y ddelwedd yn y Testun Amgen.
- Cadwch y Testun Amgen yn gryno a thrafodwch y ddelwedd yn ystod y cyflwyniad ei hun.
- Yn PowerPoint, rhaid i bob delwedd gael testun amgen, hyd yn oed os ydynt yn addurniadol yn unig.
- Byddwch yn gryno gyda'ch defnydd o ddelweddau a cheisiwch peidio â bod yn flêr.
Dolenni hunan-ddisgrifiadol
Dylai pob dolen ddisgrifio beth gall y defnyddiwr disgwyl gweld pan fyddant yn clicio arni. Nid yw cyfeiriadau gwe na URLau yn cael eu hystyried fel gwybodaeth a ni ddylen nhw gael eu defnyddio.
- Ewch i'r Rhyngrwyd a dewch o hyd i'r wefan rydych chi eisiau creu dolen iddi. Copïwch yr URL.
- Uwcholeuwch y testun yn y sleid PowerPoint rydych eisiau ei droi'n ddolen ddisgrifiadol.
- Dewiswch Hyperddolen.
- Windows: De-gliciwch ar y testun neu ewch i dab Mewnosod a dewiswch Hyperddolen.
- Mac: O dab Mewnosod, dewiswch Hyperddolen.
- Teipiwch neu ludwch yr URL ym maes y Cyfeiriad.
- Dewiswch Iawn.
Pethau i'w hystyried wrth ddarparu dolenni hunan-ddisgrifiadol
- Dylai testun y ddolen ddisgrifio i le mae'r defnyddiwr yn mynd. Er enghraifft: Hafan University of Montana.
- Os ydych eisiau cynnwys yr URL ar gyfer defnyddwyr a allai argraffu'r sleidiau, rhowch yr URL mewn cromfachau nesaf at y ddolen hunan-ddisgrifiadol, de-gliciwch yr URL, a dewiswch Tynnu'r Hyperddolen. Enghraifft: Hafan University of Montana (http://www.umt.edu)
Gwirydd hygyrchedd
Mae gan PowerPoint Wirydd Hygyrchedd parod y gall fel arfer adnabod problemau gydag unrhyw rai o'r eitemau a restrir uchod. I ddefnyddio'r Gwirydd Hygyrchedd, dewiswch Ffeil, Gwybodaeth, Gwirio am Broblemau, Gwirio Hygyrchedd. Trwy ei defnyddio ar y cyd â'r Cwarel Dethol, gallwch sicrhau hygyrchedd yn eich cyflwyniad PowerPoint. Darperir gwybodaeth ddefnyddiol yn ymwneud Pam Trwsio a Sut i Drwsio yn adran Gwybodaeth Ychwanegol Canlyniadau'r Archwiliad.
Yn ddiweddar, ychwanegodd Microsoft® Gwirydd Hygyrchedd at fersiwn 2016 PowerPoint ar Mac. Ar hyn o bryd mae ar gael i ddefnyddwyr Microsoft Insider Program yn unig. Gallwch ymuno â'r rhaglen trwy fynd i ddewislen Help, dewis Gwirio am Ddiweddariadau, ac yna ticio blwch Ymuno â rhaglen Office Insider i gael mynediad cynnar at eitemau newydd sy'n cael eu rhyddhau. Nawr, ewch i dab Adolygu i weld a yw'r Gwirydd Hygyrchedd ar gael. Os nad yw ar gael, ailadroddwch y camau uchod a dylai hyn ddatrys y broblem. Nawr, gallwch agor y Cwarel Dethol a'r Gwirydd Hygyrchedd ochr yn ochr wrth i chi adolygu'ch sleidiau.
Awgrymiadau eraill ar hygyrchedd
- Sicrhewch bod y ffont digon o faint.
- Darparwch ddigon gyferbyniad rhwng y testun a'r cefndir.
- Peidiwch â defnyddio lliw fel yr unig fodd o gyfleu gwybodaeth.
- Mae llywio tablau yn PowerPoint yn anodd ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol; ystyriwch ddarparu data tabl mewn ffeil Excel neu Word, ar wahân i sioe sleidiau PowerPoint, neu darparwch y data ar ffurf rhestr.
- Ar hyn o bryd, nid oes modd defnyddio rheolyddion chwaraewr ar gyfer fideos sy'n blanedig yn PowerPoint; ystyriwch ychwanegu dolen hunan-ddisgrifiadol i'r fideo ar YouTube™/Vimeo® neu darparwch ffeil y fideo ar wahân i sioe sleidiau PowerPoint. Sicrhewch fod y fideo wedi'i chapsiynu.
- Dylai ffeiliau sain gynnwys trawsgrifiad.
- Gall defnyddwyr ryngweithio gyda ffeiliau PowerPoint mewn amrywiaeth o ffyrdd; darparwch y ffeil PowerPoint ei hun yn hytrach na PDF i ganiatáu ar gyfer yr amryw dechnegau hyn.
Cyfrannwr
Marlene Zentz (Uwch Ddylunydd Addysgol ac Arbenigwr Hygyrchedd) | Aaron Page (Arbenigwr Hygyrchedd) | UMOnline | University of Montana | Missoula, MT