Mae'r National Center for Educational Restructuring and Inclusion (NCERI), yn disgrifio cynwysoldeb fel a ganlyn.
Darparu cyfle cyfartal i bob myfyriwr, gan gynnwys y sawl gydag anableddau sylweddol, i dderbyn gwasanaethau addysgol effeithiol, gyda'r cymhorthion a gwasanaethau cefnogaeth atodol angenrheidiol, mewn ystafelloedd dosbarth sy'n addas ar gyfer eu hoedran yn eu hysgolion lleol, er mwyn darparu myfyrwyr ar gyfer bywydau cynhyrchiol fel aelodau llawn o'r gymdeithas.
Mae llawer o ystafelloedd dosbarth heddiw, yn gorfforol a digidol, wedi’u hintegreiddio. Caiff myfyrwyr gydag amryw anghenion eu cynnwys yn nulliau addysg cyffredinol, maen nhw yn yr un lle yn gorfforol, ond mae disgwyl iddynt gwblhau yn union yr un gwaith gan ddefnyddio yn union yr un dull.
Nid yw adeiladu ystafell ddosbarth gynhwysol yn golygu cael pob myfyriwr yn yr un lle, yn gwneud yr un pethau, yn yr un modd. Mae'n golygu galluogi pawb yn yr ystafell ddosbarth i gyflawni'r un nodau, hyd yn oed os yw'r dull o wneud hynny'n wahanol. Mae ystafelloedd dosbarth cynhwysol yn rhoi'r ffocws ar yr amcan dysgu yn hytrach nag ar y gweithgaredd i'w fesur. Maen nhw'n gofyn bod yr holl fyfyrwyr yn bodloni'r un amcan dysgu gan ddefnyddio asesiadau sydd wedi'u dylunio i dargedu anghenion y myfyriwr unigol.
Enghraifft: Mewn ystafell ddosbarth ysgrifennu integredig, gofynnir i'r holl fyfyrwyr ddod o hyd i lun sy'n golygu rhywbeth iddynt ac i ddweud wrth y dosbarth am y llun. Gallai rhywun gyda nam ar y golwg ofyn i rywun ddewis llun drostynt ac i ddweud wrthynt am y llun. Gyda'r wybodaeth hon, gallant gwblhau'r gweithgaredd. Mewn ystafell ddosbarth ysgrifennu integredig, mae'r dasg hon yn gofyn i fyfyrwyr ddod o hyd i rywbeth sy'n golygu rhywbeth iddynt ac i ddweud wrth y dosbarth am yr eitem. Gall y myfyriwr wneud mwy na chwblhau'r gweithgaredd, gallant gyflawni'r amcan: rhannu rhywbeth ystyrlon gyda'r dosbarth.
Yn yr un modd â Dylunio Cynhwysol ar gyfer Dysgu, mae ystafelloedd dosbarth cynhwysol yn buddio pob myfyriwr. Ond mae dysgwyr gydag anghenion amrywiol yn fwy ymrwymedig ac yn fwy cymdeithasol mewn ystafelloedd dosbarth cynhwysol. Maen nhw, ynghyd â'u cyfoedion sy'n datblygu mewn modd mwy nodweddiadol, yn buddio o ddysgu ar y cyd ac o fod mewn awyrgylch cadarnhaol lle mae gan bawb gyfle cyfartal i fod yn llwyddiannus.
Deall anghenion amrywiol
Mae adeiladu ystafelloedd dosbarth integredig yn cychwyn gyda deall yr anghenion amrywiol y gallai fod gan eich myfyrwyr.
Gallai unigolyn gyda nam ar y golwg...
- Cael trafferth yn gweld rhai lliwiau.
- Cael golwg isel a dibynnu ar ddyfeisiau cynorthwyol i'w helpu i weld (sbectol, chwyddwydrau, ac ati.)
- Bod yn gwbl ddall a dibynnu ar ddarllenwyr sgrin ar gyfer cynnwys digidol.
Gallai unigolyn gyda nam ar y clyw...
- Cael clyw cyfyngedig a dibynnu ar ddyfeisiau cynorthwyol i'w helpu (cymhorthion clyw, mewnblaniadau, ac ati.)
- Bod yn gwbl fyddar a dibynnu ar iaith arwyddion neu ddewisiadau amgen seiliedig ar destun yn hytrach na chynnwys sain.
Gallai unigolyn gydag anabledd corfforol...
- Methu â chael rheolaeth dros y cyhyrau sydd eu hangen i ddefnyddio technoleg.
- Dibynnu ar ddyfeisiau mewnbwn amgen i ryngweithio gyda chynnwys digidol.
Gallai unigolyn gydag anabledd gwybyddol...
- Cael anhawster yn derbyn a phrosesu gwybodaeth.
- Eu cael yn hawdd i rywun dynnu eu sylw a chael trafferth yn cofio pethau.
- Dibynnu ar offer cynorthwyol i helpu gyda darllen a deall.
Adeiladu ystafelloedd dosbarth cynhwysol
Mae nifer o athrawon yn teimlo bod dim digon o wybodaeth, ymwybyddiaeth neu amser ganddynt i adeiladu profiadau cynhwysol i mewn i'w hystafelloedd dosbarth. Rydym wedi creu'r fframwaith hon i roi'r sylfeini i chi allu creu ystafelloedd dosbarth cynhwysol.
Mae tri phrif beth sydd angen i chi eu hystyried wrth greu ystafell ddosbarth gwbl gynhwysol.
- Yr addysgeg rydych chi wedi'i datblygu.
- Y cynnwys rydych yn ei adeiladu neu ei darparu.
- Yr offer a thechnoleg rydych yn ei defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.
Cam Un: Addysgeg Gynhwysol
Gallai meddwl yn gynhwysol am eich addysgeg olygu ailfeddwl sut mae'ch myfyrwyr yn dysgu a darparu'r dulliau i helpu myfyrwyr i lwyddo. Adolygwch eich cwricwlwm gan edrych am ffyrdd i sicrhau'r arferion gorau hyn trwy gydol eich cwrs.
- Mae maes llafur ar gael o fewn y cwrs ac mae'n hygyrch i bob myfyriwr.
- Mae diffiniad clir o amcanion a chanlyniadau dysgu'r cwrs, naill ai yn eich maes llafur neu yn unedau'r cwrs eu hunain.
- Rydych wedi cymryd yr amser i ddatblygu gwahanol weithgareddau ble fo'n briodol. Mae rhoi opsiynau i'ch myfyrwyr o ran sut i arddangos eu gwybodaeth a dealltwriaeth orau yn cynyddu ymrwymiad ac yn sicrhau bod modd bodloni pob arddull dysgu heb gymwysiadau cymhleth.
- Rydych wedi creu cyfleoedd ar gyfer dysgu ar y cyd trwy gydol y dosbarth.
- Darperir cyfarwyddiadau clir ar gyfer pob uned, asesiad a gweithgaredd. Mae'n bwysig bod pobl yn deall yn union beth y disgwylir ganddynt.
- Rydych wedi bod yn defnyddio egwyddorion Dylunio Cynhwysol ar gyfer Dysgu trwy gydol eich cwricwlwm.
Cam Dau: Cynnwys Cynhwysol
Mae meddwl yn gynhwysol yn golygu ail-ymweld â chynnwys a sicrhau ei bod yn barod ar gyfer defnydd cyffredinol. Mae hefyd yn golygu dewis peidio â defnyddio cynnwys sydd ddim yn bodloni disgwyliadau. Gwerthuswch yr holl gynnwys yn eich cwrs ar gyfer yr elfennau canlynol.
- Mae gan bob delwedd destun amgen neu maen nhw wedi cael eu nodi'n glir fel delweddau addurniadol.
- Dydych chi ddim yn defnyddio delweddau o destun yn eich cynnwys.
- Nid oes gennych chi unrhyw ddelweddau sy'n fflachio neu animeiddiadau yn eich cwrs. Os oes gennych chi'r rhain, rhaid bod yr animeiddiadau'n hanfodol i'r deunydd a ddim dim ond yno am hwyl neu am eu bod yn ddiddorol. Os ydych yn eu cadw, sicrhewch eich bod wedi esbonio'n iawn beth mae'r animeiddiad yn ei gyfleu mewn testun amgen neu ddisgrifiadau testun manwl.
- Mae pob dogfen Word a PowerPoint wedi'u strwythuro'n gywir.
- Mae pob PDF wedi'i dagio at ddibenion hygyrchedd.
- Mae pob fideo wedi'i chapsiynu.
- Mae cyferbyniad go iawn rhwng y lliwiau rydych yn eu defnyddio yn y cefndir a'r blaendir.
- Nid ydych yn defnyddio tablau fel rhan o'r dyluniad unrhyw le yn y cynnwys.
Cam Tri: Technoleg ac Offer Cynhwysol
Mae meddwl yn gynhwysol yn golygu deall sut mae angen i bobl ryngweithio gyda'r gwahanol offer rydych yn eu defnyddio ac addasu neu gyfaddasu fel bo angen. Wrth ddewis offer a thechnoleg i ddefnyddio yn eich ystafell ddosbarth, meddyliwch sut gallai effeithio ar bobl gydag anghenion amrywiol.
- A oes cyferbyniad go iawn rhwng y lliwiau yn y rhaglen?
- A yw'r holl dudalen yn chwyddo, nid y testun yn unig?
- A yw'r holl reolyddion yn hygyrch gyda bysellfwrdd?
- A yw clicio labeli ffurflen yn symud y cyrchwr i'r elfen gywir?
- A yw hysbysiadau sain a gweledol wedi'u darparu mewn mwy nag un ffurf?
- A yw'r cynnwys yn glir pan mae taflenni arddull wedi'u hanalluogi yn y porwr?
- A oes angen ategolion a lawrlwythiadau ychwanegol?
Crynodeb o Ystafelloedd Dosbarth Cynhwysol
Mae adeiladu ystafelloedd dosbarth cynhwysol yn ymddangos fel llawer o waith. Daw'r gwerth o feddwl amdano, nid o'i gwblhau. Cofiwch fod dim un datrysiad sy'n addas i bawb. Mae meddwl yn gynhwysol yn ymwneud â pharatoi pob un o'ch myfyrwyr am lwyddiant.
- Ewch ati yn y modd cywir gyda'ch cwrs nesaf. Mae'n haws adeiladu pethau'n gynhwysol o'r cychwyn yn hytrach na cheisio eu datrys nes ymlaen.
- Lluniwch bartneriaeth, dewch o hyd i gydweithiwr gydag amcanion tebyg sy'n dysgu dosbarth tebyg. Rhannwch adnoddau a syniadau a gweithiwch gyda'ch gilydd i leihau'r dasg.
- Does dim ateb anghywir. Gallwch ddewis defnyddio unrhyw beth rydych chi eisiau, paratowch gynllun a meddyliwch sut byddwch yn addasu yn y fan a'r lle os oes rhywbeth yn mynd o'i le.
Eisiau mwy? Gwyliwch recordiad o Building Inclusive Classrooms Webinar (ar gael yn Saesneg yn unig). Gallwch hefyd lawrlwytho'r Inclusive Classroom Checklists (ar gael yn Saesneg yn unig).