Gall darllen dogfennau testun hir, dwys fod yn dasg anodd i ddysgwyr. Mae dogfennau wedi'u strwythuro'n dda yn helpu myfyrwyr i drefnu a phrosesu cynnwys.
Rhagor am ysgrifennu gyda hygyrchedd mewn golwg
Penawdau
Trwy ddefnyddio penawdau yn eich arddulliau dogfennau, gallwch ddylunio adrannau ac is-adrannau ar gyfer eich dogfennau. Mae penawdau'n gallu helpu myfyrwyr i lywio a deall cynnwys, ac maen nhw'n hanfodol ar gyfer darllenwyr sgrin.
Defnyddiwch yr arddulliau penawdau sy'n gynwysedig yn eich meddalwedd prosesu geiriau.
- Defnyddiwch benawdau cynwysedig Microsoft® Word
- Ychwanegu penawdau yn LibreOffice Writer
- Penawdau GoogleTM Docs
Dewiswch "Pennawd 1" ar gyfer penawdau lefel 1, "Pennawd 2" ar gyfer penawdau adrannau, "Pennawd 3" ar gyfer penawdau is-adrannau, ac ati. Defnyddir "Normal" ar gyfer paragraffau.
Testun amgen ar gyfer delweddau
Gan fod nifer o ddogfennau'n cynnwys delweddau, mae'n bwysig bod y delweddau'n cynnwys disgrifiadau amgen.
Ychwanegwch y testun amgen yn eich meddalwedd prosesu geiriau.
- Testun amgen Microsoft Office 365
- Testun amgen Microsoft Office 2016
- Testun amgen LibreOffice Writer
- Testun amgen Google Docs
Mae gan Microsoft Word ddau faes ar gyfer testun, Teitl a Disgrifiad. Teipiwch eich testun amgen yn y blwch Disgrifiad fel bod y testun amgen yn cael ei drawsnewid i'r fformat newydd pan fyddwch yn trawsnewid dogfennau Word i PDF neu HTML. Nid yw teitlau'n cael eu trosi'n fformatau eraill, felly byddai'n rhaid i chi eu cofnodi eto yn y fformat newydd.
Penawdau tabl
Gall defnyddio tablau yn eich dogfennau fod yn ddull gwych o helpu i drefnu gwybodaeth gymhleth i fyfyrwyr. Er mwyn sicrhau bod eich tablau'n effeithiol ac yn hygyrch, fodd bynnag, dim ond ar gyfer data y dylech eu defnyddio, ac nid ar gyfer cynlluniau gweledol. Mae ychwanegu penynnau at eich tablau yn gwella sut mae'ch myfyrwyr yn llywio tablau, yn arbennig os ydynt yn defnyddio darllenydd sgrîn.
Ychwanegwch benawdau tabl yn eich meddalwedd prosesu geiriau.
Gwirydd Hygyrchedd Microsoft
Mae hwn yn adnodd da i'ch helpu i adnabod a thrwsio problemau hygyrchedd. Ewch i Offer a dewiswch Gwirio Hygyrchedd.
Gwneud dogfennau PDF yn hygyrch
Er mai cadw eich cynnwys yn ffeil wreiddiol yw'r ffordd orau o sicrhau bod y ddogfen yn parhau'n hygyrch, mae'n well gan rai hyfforddwyr allforio'u dogfennau a chyflwyniadau fel ffeiliau Fformat Dogfen Gludadwy (PDF).
Fformat ffeiliau agored safonol yw PDF sy'n cyflwyno cynnwys ar ffurf cyson. Nid yw argraffu'r ddogfen neu edrych arno ar ddyfais yn gwneud gwahaniaeth. Bydd y fformatio'n aros yr un fath.
Pan fyddwch yn allforio dogfen i PDF, mae'n bwysig gwirio'r gosodiadau allforio er mwyn sicrhau bod y PDF wedi'i thagio. Mae PDF â thagiau'n defnyddio tagiau ac elfennau - megis blockquote, paragraffau a phenawdau - i ychwanegu ystyr at dudalen. Mae'n cynorthwyo defnyddwyr darllen sgrîn â strwythur cynnwys da. Mae hyn yn sicrhau bod y PDF yn hawdd ei llywio.
Cadw dogfennau fel PDF wedi'i thagio
- Dechreuwch gyda dogfen testun hygyrch.
- Cadwch y ddogfen fel PDF hygyrch.
- Microsoft Word: Dewiswch Ffeil a Chadw Fel. Dewiswch PDF o'r ddewislen Fformat Ffeil . Dewiswch Gorau ar gyfer dosbarthu electronig a hygyrchedd a dewis Allforio. I ddysgu mwy, edrychwch ar Cadw dogfen Word fel PDF hygyrch.
Peidiwch â defnyddio Argraffu i PDF.
- LibreOffice Writer ac Impress: Dewiswch Ffeil ac Allforio fel PDF. Dewis PDF Wedi’i Thagio (ychwanegu strwythur dogfen) ac Allforio nodau tudalen yn Opsiynau PDF. Dewiswch Allforio.
- Microsoft Word: Dewiswch Ffeil a Chadw Fel. Dewiswch PDF o'r ddewislen Fformat Ffeil . Dewiswch Gorau ar gyfer dosbarthu electronig a hygyrchedd a dewis Allforio. I ddysgu mwy, edrychwch ar Cadw dogfen Word fel PDF hygyrch.
Creu dogfennau PDF hygyrch gydag Adobe Acrobat
Os oes gennych chi Adobe Acrobat, gallwch greu dogfennau PDF hygyrch yn ogystal â sganio dogfennau PDF er mwyn sicrhau eu bod yn hygyrch.