Ysgrifennu disgrifiadau da
Dilynwch yr arferion gorau hyn i ysgrifennu disgrifiadau testun amgen da ar gyfer eich delweddau:
- Disgrifio'r ddelwedd yn seiliedig ar gyd-destun y dudalen. Cyfleu ystyr llawn y ddelwedd.
- Peidio â dweud "delwedd o" neu "llun o". Mae darllenyddion sgrin yn cyflwyno delweddau fel delweddau yn awtomatig.
- Bod yn gryno.
- Ysgrifennu adroddiadau ar gyfer delweddau cymhleth fel ffeithluniau. Rhoi'r adroddiad hwn ar y dudalen yn syth ar ôl y ffeithlun. Cynnwys dolen angor ar frig y dudalen i weld y dewis amgen i'r testun. Cymerwch olwg ar esiampl o ffeithlun gyda dewis amgen i'r testun.
- Peidio â defnyddio delweddau testun. Os oes rhaid ichi eu defnyddio, copïo’r testun mewn i'r disgrifiad amgen.
- Dweud rhywbeth newydd. Peidio ag adrodd disgrifiadau amgen ar yr un dudalen. Peidio ag ailadrodd beth ddywedir ar y dudalen.
- Nodi delweddau nad ydynt yn cynrychioli cynnwys perthnasol fel rhai addurnol.
Beth mae delwedd addurnol?
Mae delwedd yn addurnol pan nad yw'n ychwanegu at y wybodaeth sydd ar y dudalen. Er enghraifft, gwaith celfyddyd a ddefnyddiwyd i wahanu pynciau neu lun o rywun sydd ar y ffôn wrth drafod sgiliau cyfathrebu.
Maen nhw'n werthfawr ar ran ei apêl weledol ond efallai nad oes rhaid i ddarllenyddion sgrin eu darllen.
Rhagor am ddelweddau addurniadol ar wefan y fenter hygyrchedd ar y we
Pam mae disgrifiadau amgen delweddau yn bwysig?
Mae nifer o resymau i ddefnyddio disgrifiadau amgen gyda'ch delweddau.
- Mae disgrifiadau amgen, neu destun, yn y canllawiau WCAG 2.2
- Gall myfyrwyr chwilio am ddelwedd
- Mae gan fyfyrwyr â nam ar y golwg anawsterau yn gweld delweddau
- Efallai bydd gan fyfyrwyr â chysylltiad gwael at y rhwydwaith anawsterau yn gweld delweddau
- Ni all darllenyddion sgrin ddarllen delweddau
- Mae rhai myfyrwyr yn dysgu yn well o ddisgrifiadau na delweddau
- Mae testun yn graddio'n well na'r mwyafrif o ddelweddau pan gaiff y sgrin neu'r dudalen ei mwyhau